Mater - penderfyniadau

Preferred I.T.System to support Social Services Functions

19/02/2021 - Commitment to a Preferred I.T. System to Support Social Services Functions

Penderfyniadau:

 

1.   Bod y risgiau sy'n gysylltiedig â mabwysiadu System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru ar hyn o bryd yn cael eu hasesu fel rhai sy'n gorbwyso'r manteision a ragwelir;

 

2.   Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn oedi cyfranogiad yn y rhaglen nes bod y risgiau a nodwyd wedi'u lliniaru'n ddigonol;

 

3.   Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr TGCh corfforaethol ac yn buddsoddi yn natblygiad System Wybodaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Oracle Apex hyd nes y bernir bod System Wybodaeth Gofal Cymunedol Cymru yn addas at y diben.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Er mwyn galluogi'r cyngor i ddatblygu System Wybodaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Oracle Apex, a fydd yn sicrhau bod gennym ddatrysiad TGCh wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer anghenion Cyfarwyddiaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ogystal â chael ei adeiladu ar lwyfan a fydd yn darparu amgylchedd sefydlog i TGCh hyd y gellir rhagweld.

 

Rhoi Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.