Penderfyniadau:
1.
Dylid nodi canfyddiadau’r
arolwg coed;
2.
Rhoi cymeradwyaeth i’r cyngor
gymynu coed sy’n anniogel oherwydd Clefyd Coed Ynn Chalara lle bo angen ar dir
y cyngor, neu fel arall fel sy'n dod o fewn cylch gwaith y cyngor fel Awdurdod
Priffyrdd;
3.
Penodi Syrfëwr Coed a bod
Swyddogion yn prosesu'r newidiadau angenrheidiol i'r sefydliad;
4.
Bod Swyddogion yn mynd ar drywydd
tirfeddianwyr preifat i gymryd camau lliniaru mewn perthynas â Chlefyd Coed Ynn
ar eu tir, ymhellach i'w dyletswydd gofal, gan gynnwys camau gorfodi lle bo
angen;
5.
Bod Swyddogion yn parhau i
geisio grantiau i helpu i ailblannu coed wedi'u cymynu mewn lleoliadau priodol.
Rheswm
dros y penderfyniadau:
Rheoli achosion o
Glefyd Coed Ynn Chalara ledled y fwrdeistref sirol a bod yr awdurdod yn
cyflawni rhwymedigaethau cyfreithiol.
Rhoi
Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei
roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.