Ailbwysleisiodd y Cynghorwyr A.Wingrave a D.Jones
eu buddiannau ar yr adeg hon o’r cyfarfod a thynnu'n ôl o'r cyfarfod am barhad
yr eitem.
Penderfyniadau:
Bod y ceisiadau canlynol am y Gronfa Grant Amrywiol
yn cael eu cymeradwyo:
Cymdeithas Lles Cwmafan |
Dyfarnu grant o £300 y flwyddyn tuag at gost
rhent o £330 a fydd yn daladwy o 1 Ebrill 2021, mewn perthynas â Phrydlesu
Tir yn Ebbw Vale Row sy'n ffinio â Chlwb Rygbi Cwmafan. |
Cyngor Cymuned Blaenhonddan |
Dyfarnu grant o £2,068 y flwyddyn tuag at gost
rhent o £2,395.80 y flwyddyn a fydd yn daladwy o 1 Ebrill 2021, mewn
perthynas â phrydlesu Canolfan Gymunedol Caewern. |
Cyngor Cymuned Blaenhonddan |
Dyfarnu grant o £650 y flwyddyn tuag at gost
rhent o £715 y flwyddyn a fydd yn daladwy o fis Mehefin 2021, mewn perthynas
â phrydlesu Parc Rhanbarthol Waunceirch. |
Rheswm dros y penderfyniadau:
Penderfynu ar swm y gefnogaeth ariannol mewn
perthynas â'r ceisiadau am grantiau a dderbyniwyd.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.