Nododd yr aelodau'r adroddiad adendwm a
ddosbarthwyd a oedd yn diwygio Strategaeth Buddsoddi Dirprwyon y Llys ar gyfer
Cronfeydd Cleientiaid a atodwyd yn flaenorol fel Atodiad 1 i'r prif adroddiad.
Penderfyniadau:
1.
Cymeradwyo Strategaeth
Buddsoddi Dirprwyon y Llys ar gyfer Cronfeydd Cleientiaid y manylwyd arno yn
Atodiad 1 yr adroddiad adendwm.
2.
Ymgymryd ag ymarfer caffael er
mwyn penodi ymgynghorwyr ariannol i ddarparu cyngor ar fuddsoddiadau i
gleientiaid â chyfalaf o dros £50,000, yn unol â'r strategaeth.
Rheswm dros y penderfyniad:
Darparu fframwaith ar gyfer buddsoddi cronfeydd
cleientiaid dirprwyon y llys i sicrhau y cydymffurfir â safonau a statudau
perthnasol.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn.