Penderfyniadau:
Penderfynwyd
argymell y canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:
1. Cymeradwyo
Adroddiad Adolygu'r CDLl drafft fel sail ar gyfer ymgynghoriad, fel a nodwyd yn
Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd.
2. Cymeradwyo
rhoi'r gweithdrefnau cyhoeddi ac ymgynghori a nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, ar waith.
Rheswm dros y Penderfyniadau:
1.
I sicrhau y cydymffurfir ag
Adran 69
Deddf
Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004; Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun
Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygiad) 2015; a Llawlyfr Cynlluniau Datblygu Lleol
Fersiwn
2 (2015).
2.
Cymeradwyo'r ymarfer
ymgynghori i sicrhau bod yr Adroddiad Adolygu'r CDLl terfynol yn gadarn a bod y
casgliadau'n hollol gyfiawn.
Rhoi Penderfyniadau ar Waith:
Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar unwaith.
Cytunodd Cadeirydd y pwyllgor craffu i'r camau gweithredu hyn. Ni fyddai unrhyw
gyfle i gwestiynu'r penderfyniad hwn.