Mater - penderfyniadau

Eitem

11/02/2020 - Draft Strategic Equality Plan 2020-2024 - Draft Equalities Objectives

Penderfyniad:

 

1.           Nodi'r gair 'parhau' lle bo angen yng Nghynllun Cydraddoldeb Strategol 2020-2024 - Amcanion a Gweithredoedd Cydraddoldeb Drafft, er mwyn cydnabod y rhoddwyd ystyriaeth i amcanion penodol eisoes yn y cynllun blaenorol.

 

2.           Rhoi awdurdod i'r Prif Weithredwr Cynorthwyol a'r Prif Swyddog Digidol i ddechrau ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol (o 16 Ionawr tan 20 Chwefror 2020) ar yr amcanion cydraddoldeb drafft a'r gweithredoedd posib, fel y manylwyd arnynt yn Atodiad 1 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bodloni'r gofynion statudol a nodir yn Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn.