Cofnodion:
Darparwyd adroddiad i'r aelodau a oedd â'r nod o
ailgyfansoddi Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru (CBC De-orllewin
Cymru), a oedd yn cynnwys nodi'r trefniadau gweinyddol a llywodraethu ar gyfer
y flwyddyn ddinesig sydd ar ddod.
Cyfeiriodd Swyddog Monitro CBC De-orllewin Cymru
at y cynigion yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a oedd yn rhan o'r
ailgyfansoddiad.
Un o'r cynigion newydd a amlygwyd oedd sefydlu tri Is-bwyllgor â thema yn
hytrach na'r pedwar Is-bwyllgor a oedd ar waith y flwyddyn ddinesig diwethaf.
Nodwyd mai'r tri Is-bwyllgor fyddai Trafnidiaeth Ranbarthol, Cynllunio
Strategol a Lles Economaidd; byddai thema ynni'n cael ei gynnwys yn y Pwyllgor
Lles Economaidd yn lle bod yn is-bwyllgor ar wahân.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am newid i aelodaeth
yr Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu, wrth i'r Cynghorydd Tony Wilcox gynrychioli
Cyngor Sir Penfro yn lle'r Cynghorydd Marc Tierney.
Nodwyd newid arall, sef bod Jan Williams yn Aelod
Cyfetholedig i gynrychioli Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn hytrach na
Steven Spill.
Cafwyd trafodaeth mewn perthynas â Bwrdd
Cynghori'r Sector Cyhoeddus. Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi rhestr o
gynghorwyr a oedd wedi'u penodi i Fwrdd Cynghori'r Sector Cyhoeddus yn dilyn
cymeradwyaeth CBC De-orllewin Cymru ar 3 Rhagfyr 2024; cynigiwyd ailbenodi'r
cynghorwyr hyn. Eglurodd swyddogion y byddai Bwrdd Cynghori'r Sector Cyhoeddus
yn penodi ei Gadeirydd yn yr wythnosau nesaf a fyddai'n cael ei gyfethol yn
awtomatig i CBC De-orllewin Cymru.
Yn dilyn yr uchod, cyflwynodd Swyddog Monitro CBC
De-orllewin Cymru'r diwygiad canlynol i argymhelliad (j) a nodwyd yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd, a gefnogwyd gan yr aelodau:
Rhoi awdurdod dirprwyedig i Brif Weithredwr CBC De-orllewin Cymru, mewn
ymgynghoriad â Chadeirydd CBC De-orllewin Cymru, i benodi unrhyw aelodau newydd
i Fwrdd Cynghori'r Sector Preifat.
PENDERFYNWYD:
·
Nodi penodiad aelodau'r CBC
De-orllewin Cymru a nodwyd ym mharagraff 5 yr adroddiad a ddosbarthwyd.
·
Cymeradwyo cyfetholiad
aelodau'r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol i CBC De-orllewin Cymru ar gyfer pob
mater (ac eithrio cynllunio strategol o ystyried eu statws pleidleisio) heb
bleidlais ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2025/2026.
·
Cymeradwyo creu'r
Is-bwyllgorau (a nodwyd ym mharagraff 9 ac yn unol â'r cylch gorchwyl yn
Atodiad A o'r adroddiad a ddosbarthwyd) a'r cynrychiolwyr arfaethedig a benodir
i'r Is-bwyllgor, fel y nodwyd ym mharagraffau 9 a 10 o'r adroddiad a
ddosbarthwyd.
·
Cymeradwyo cyfetholiad aelodau
o Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol i Is-bwyllgorau CBC De-orllewin Cymru ar
gyfer pob mater (ac eithrio ar gyfer cynllunio strategol o ystyried eu statws
pleidleisio) heb bleidlais ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2025/2026.
·
Cymeradwyo sefydlu'r
Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar gyfer CBC De-orllewin Cymru fel y
nodir ym mharagraffau 14-19 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.
·
Cymeradwyo’r penderfyniad i ddynodi
Pwyllgor Safonau Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot fel Pwyllgor
Safonau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.
·
Cymeradwyo sefydlu Is-bwyllgor
Trosolwg a Chraffu ar gyfer CBC De-orllewin Cymru fel y nodir ym mharagraffau
23-29 o'r adroddiad a ddosbarthwyd; gan gynnwys y diwygiad sy'n nodi y bydd y
Cynghorydd Tony Wilcox yn cynrychioli Cyngor Sir Penfro yn lle'r Cynghorydd
Marc Tierney.
·
Cymeradwyo'r amserlen ar gyfer
cyfarfodydd yn y dyfodol ar gyfer CBC De-orllewin Cymru a'i bwyllgorau
cysylltiedig fel y nodir ym mharagraff 30 o'r adroddiad a ddosbarthwyd.
·
Cymeradwyo adnewyddu penodiad
aelodau cyfetholedig, a nodwyd ym mharagraff 32 o'r adroddiad a ddosbarthwyd,
ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2025/2026; gan gynnwys y diwygiad sy'n nodi mai
Jan Williams fydd yn cynrychioli Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn lle
Steven Spill.
·
Cymeradwyo adnewyddu penodiad yr ymgynghorwyr, a nodwyd
ym mharagraff 34 o'r adroddiad a ddosbarthwyd, ar gyfer y flwyddyn ddinesig
2025/2026; gan gynnwys y diwygiad sy'n nodi y rhoddir awdurdod dirprwyedig i
Brif Weithredwr CBC De-orllewin Cymru, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd CBC
De-orllewin Cymru, i benodi unrhyw aelodau newydd i Fwrdd Cynghori'r Sector
Preifat.
Dogfennau ategol: