Cofnodion:
Rhoddwyd diweddariad i'r Pwyllgor ynghylch datblygiad y
Cynllun Datblygu Strategol.
Esboniodd swyddogion fod Llywodraeth Cymru wedi mandadu'r
gofyniad i baratoi a mabwysiadu Cynllun Datblygu Strategol ym mhedwar rhanbarth
y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yng Nghymru. Ychwanegwyd bod chwe awdurdod
cynllunio lleol yn rhanbarth De-orllewin Cymru, gan gynnwys y pedwar awdurdod
lleol a dau Awdurdod Parc Cenedlaethol, a oedd yn gyfrifol am lunio'r Cynllun
Datblygu Strategol ar y cyd.
Cyfeiriwyd at y llythyr a anfonwyd at Lywodraeth Cymru, a
oedd yn nodi pryderon swyddogion ynglŷn â'r pryderon ynghylch y gofynion i
gyflwyno'r Cynllun Datblygu Strategol mewn absenoldeb adnoddau ariannol
priodol. Rhoddwyd gwybod i aelodau bod ateb Llywodraeth Cymru ar y pryd yn nodi
nad oedd unrhyw gyllid ychwanegol ar gael; fodd bynnag, gellid defnyddio unrhyw
gyllid dros ben ar ôl llunio'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer ffrwd
waith cynllunio strategol. Esboniodd swyddogion nad oedd unrhyw adnoddau ar
gael o gyllideb y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol i gynorthwyo i ddatblygu'r
Cynllun Datblygu Strategol.
Amlygwyd bod swyddogion yn y broses o sicrhau cytundeb ar
y cyd yng Nghymru i ysgrifennu at y Gweinidog newydd sy'n gyfrifol am Gynllunio
yn Llywodraeth Cymru er mwyn ailadrodd safbwynt y rhanbarth a'r cais am gyllid.
Fodd bynnag, roedd yn ymddangos bod y sefyllfa ar draws Cymru wedi newid;
gwnaeth rhanbarth Prifddinas Caerdydd baratoi ei gytundeb cyflawni a'i gyflwyno
i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo ac roedd rhanbarth Gogledd Cymru'n paratoi ei
gytundeb cyflawni.
Yn dilyn y sylweddoliad hwn, penderfynwyd bod angen
darparu opsiynau i CBC De-orllewin Cymru mewn perthynas â symud ymlaen â'r
ffrwd waith hon. Darparodd yr adroddiad a ddosbarthwyd ddau opsiwn i'w
hystyried. Nodwyd mai'r opsiwn cyntaf oedd gwneud cynnydd a pharatoi cytundeb
i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru; nododd yn glir na fyddai'r rhanbarth yn barod
i symud ymlaen ymhellach nes bod digon o gyllid ac adnoddau ar gael. Tynnodd
swyddogion sylw at yr ail opsiwn, sef parhau â'r sefyllfa bresennol a chadarnhau
nad oedd y rhanbarth yn barod i symud ymlaen ymhellach nes bod digon o gyllid
ac adnoddau ar gael.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau nad oedd Llawlyfr y Cynllun
Datblygu Strategol, yr oedd Llywodraeth Cymru wrthi'n ei baratoi ar gyfer y
Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, wedi'i ddarparu i'r awdurdodau cynllunio lleol o
hyd.
Cadarnhaodd swyddogion y cyflwynwyd y ddau opsiwn a
nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd i'r Is-bwyllgor Cynllunio Strategol ar 19
Mai 2025; cymeradwyodd aelodau'r Is-bwyllgor opsiwn un, sef symud ymlaen gyda
pharatoi'r cytundeb cyflawni.
Pwysleisiodd yr aelodau bwysigrwydd cynlluniau
Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chyllidebu yn y dyfodol a'r angen am lobïo
parhaus. Cydnabuwyd bod angen atgoffa Llywodraeth Cymru hefyd y dylai
Cyd-bwyllgorau Corfforaethol gael eu hariannu'n llawn ac ni ddylent fod yn
faich ychwanegol ar awdurdodau lleol. Esboniodd y Cadeirydd y cafwyd rhywfaint
o lwyddiant diweddar gyda'r Gweinidogion mewn perthynas â chaffael cyllid
ychwanegol; a bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi cofrestru'n
ddiweddar ar gyfer cytundeb partneriaeth a oedd yn pwysleisio'r egwyddorion o
beidio â chael pwerau na chyfrifoldebau newydd heb y cyllid perthnasol.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod digon o arian ar gael yn
CBC De-orllewin i baratoi'r cytundeb cyflawni; fodd bynnag nid oedd digon o
arian ar hyn o bryd i gyflawni'r Cynllun Datblygu Strategol. Roedd hyn yn
arwyddocaol, oherwydd esboniwyd bod gofyniad cyfreithiol i Gyd-bwyllgorau
Corfforaethol baratoi Cynllun Datblygu Strategol. Nodwyd y rhesymeg o ran pam
nad oedd y rhanbarth wedi parhau â pharatoi'r Cynllun Datblygu Strategol, sef
bod diffyg cyllid ac nad oedd wedi derbyn Llawlyfr y Cynllun Datblygu Strategol
oddi wrth Lywodraeth Cymru eto; fodd bynnag, oherwydd y mandad ar gyfer y
Cyd-bwyllgorau Corfforaethol, byddai'r rhanbarth yn agored yn gyfreithlon i
gael ei herio pe na bai'n paratoi Cynllun Datblygu Strategol.
Cydnabuwyd y byddai'r cytundeb cyflawni'n cynnwys gosod
amserlenni a thargedau ar gyfer cyflawni'r Cynllun Datblygu Strategol;
gofynnodd yr aelodau am wybodaeth ynghylch y canlyniadau pe na fyddai'r
rhanbarth yn gallu cyflawni'r targedau yn y cytundeb cyflawni oherwydd diffyg
cyllid. Esboniwyd y byddai'r cytundeb cyflawni'n nodi'r cerrig milltir y mae
angen symud ymlaen â nhw er mwyn bod mewn sefyllfa i fabwysiadu Cynllun
Datblygu Strategol; byddai hyn yn cynnwys y broses ar gyfer cyflawni pob carreg
filltir, yn ogystal â'r cyllid a'r adnoddau angenrheidiol. Nododd swyddogion
fod y camau mewn cytundeb cyflawni rhanbarthau Prifddinas Caerdydd yn gymesur
ag argaeledd cyllid; byddai rhanbarth De-orllewin Cymru'n dilyn yr esiampl o
ran ei ymagwedd, gan ei wneud yn glir y byddai'r cynnydd yn ymwneud ag
argaeledd cyllid.
Yn dilyn y drafodaeth, mynegodd yr holl aelodau eu bod yn
ffafrio opsiwn un i'w gymeradwyo.
PENDERFYNWYD:
Nodi a chytuno ar opsiwn un fel y nodwyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd fel y ffordd ymlaen mewn perthynas â dechrau gwaith i gyflwyno
Cynllun Datblygu Strategol yn unol â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref
(Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021.
Dogfennau ategol: