Cofnodion:
Diweddarwyd y Pwyllgor ar y sefyllfa bresennol ynghylch
datblygiad y Cynllun Datblygu Strategol.
Cyfeiriwyd at y llythyr a anfonwyd i Lywodraeth Cymru a
oedd yn nodi pryderon swyddogion ynghylch y gofynion i gyflawni'r Cynllun
Datblygu Strategol (CDS) heb adnoddau ariannol priodol; yn y llythyr, gofynnwyd
am gyllid i alluogi swyddogion i wneud cynnydd o ran cyflawni'r CDS.
Hysbyswyd yr Aelodau fod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru’n
cyfeirio at y cyllid a ddarparwyd ganddynt i helpu i gyflawni'r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol, a bod cyfle i ddefnyddio unrhyw adnoddau dros ben o'r
gwaith hwnnw er mwyn datblygu'r CDS; roedd y Gweinidog wedi cadarnhau, ar y
pwynt hwnnw, nad fyddai unrhyw gyllid pellach ar gyfer datblygu'r CDS.
Esboniodd swyddogion fod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol wedi gwneud cynnydd
sylweddol, ac nid oedd unrhyw adnoddau ar gael o'r gyllideb honno i helpu i
ddatblygu'r CDS.
Esboniodd swyddogion eu bwriad i anfon llythyr arall i
Lywodraeth Cymru er mwyn ail-bwysleisio eu pryderon a mynegi pwysigrwydd cael
cyllid er mwyn cyflawni'r CDS yn briodol. Nodwyd bod swyddogion o ranbarth
De-orllewin Cymru wedi bod yn trafod â Chyd-bwyllgorau Corfforedig eraill yng
Nghymru i benderfynu a ddylid anfon y llythyr ar ran yr holl ranbarthau yng
Nghymru. Dywedwyd bod arwyddion cynnar yn dangos bod Canolbarth Cymru a Gogledd
Cymru yn fodlon ac yn barod i lofnodi'r llythyr; fodd bynnag, roedd De-ddwyrain
Cymru eisoes wedi paratoi cytundeb cyflawni ac felly nid oeddent mewn sefyllfa
i lofnodi'r llythyr. Cafwyd trafodaethau pellach ers hynny, a sylweddolwyd bod
Gogledd Cymru hefyd wedi gwneud cynnydd gyda'u cytundeb cyflawni; felly
daethpwyd i'r casgliad bod rhanbarthau Canolbarth Cymru a De-orllewin Cymru
mewn sefyllfa wahanol i Ogledd Cymru a De-ddwyrain Cymru.
Soniwyd bod swyddogion wedi cyfrifo'r gost
amcangyfrifedig o baratoi'r CDS, a oedd rhwng tua £3.5 miliwn a £4.5 miliwn;
byddai'r cynllun yn cael ei ddatblygu dros bump i chwe blynedd a byddai angen
tua chwe swyddog ymroddedig.
Roedd swyddogion wedi sefydlu nad oedd unrhyw adnoddau o
fewn strwythurau presennol i'w hail-ddefnyddio i ddatblygu'r CDS; roedd staff
mewn timau presennol yn y pedwar awdurdod lleol yn y broses o ddatblygu eu
Cynlluniau Datblygu Lleol Newydd neu ymgymryd â gwaith monitro a gwerthuso.
Nodwyd bod Awdurdodau'r Parc Cenedlaethol mewn sefyllfa debyg o ran adnoddau
staff.
Ers i'r trafodaethau hyn ddigwydd, roedd swyddogion wedi
dod o hyd i arian yng nghronfeydd wrth gefn Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru; roeddent hefyd wedi derbyn llythyr gan Lywodraeth Cymru yn
nodi eu bod yn darparu cyllid o hyd at £200k eleni, i gyfrannu at gapasiti a
llywodraethu. Eglurwyd, gyda'r cronfeydd wrth gefn a'r cyllid gan Lywodraeth
Cymru, fod cyfle bellach i symud ymlaen gyda pharatoi'r cytundeb cyflawni; fodd
bynnag, nid oedd hyn yn golygu y byddai'r rhanbarth yn gallu symud ymlaen gyda'r
gwaith o ddatblygu'r CDS ei hun.
Fel a grybwyllwyd yn flaenorol, roedd swyddogion yn mynd
i anfon llythyr arall i Lywodraeth Cymru; fodd bynnag, penderfynwyd ers hynny y
dylid cyflwyno dau opsiwn i'w hystyried gan Aelodau o ran y camau nesaf. Nodwyd
mai opsiwn un oedd defnyddio'r cronfeydd wrth gefn i recriwtio swyddog
cynllunio profiadol a dechrau paratoadau ar y cytundeb cyflawni ar gyfer y CDS;
ni fyddai'r gwaith yn cael ei ddatblygu ymhellach na hyn gan y byddai angen
arian ac adnoddau ychwanegol sylweddol. Dywedodd swyddogion mai opsiwn dau oedd
parhau i gynnal y sefyllfa bresennol a pheidio â symud ymlaen gyda'r cytundeb
cyflawni nes bod arian ar gael i baratoi'r ddogfen a'r CDS.
Ailbwysleisiodd y Rheolwr Cyllid Rhanbarthol y pwyntiau a
godwyd ynglŷn â'r cronfeydd wrth gefn a chadarnhaodd fod Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru wedi cytuno, wrth bennu'r gyllideb ym mis Ionawr
2025, y dylid defnyddio £500k dros y tair blynedd nesaf. Fodd bynnag, nodwyd
nad oedd y cyfanswm hwn wedi'i bennu ar gyfer Cynllunio Strategol; roedd angen
ystyried ffrydiau gwaith eraill Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru
hefyd.
Darparodd y Pwyllgor ei farn o ran yr opsiwn y byddai'n
well ganddo ei gymeradwyo i Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru am
benderfyniad. Mynegwyd y byddai opsiwn un yn darparu cyfarwyddyd ac yn dangos
awydd i symud ymlaen gyda datblygu'r CDS; wrth barhau i gydnabod bod angen y
cyllid priodol i allu cyflawni'r ffrwd waith hon yn llawn. Fodd bynnag, nid
oedd pob Aelod yn cytuno ag opsiwn un ac roeddent yn ffafrio opsiwn dau,
oherwydd y pwysau ariannol presennol a'r potensial i ddyfarnu cyllid ychwanegol
i ymgymryd â'r gwaith hwn.
Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â'r potensial i ddod o
hyd i ffyrdd creadigol eraill o weithio i gyflawni'r CDS; gyda ffocws ar y
rhanbarth, yn hytrach na chwe chynllun ar wahân gan bob awdurdod cynllunio. Eglurwyd ei bod yn ofynnol i'r chwe awdurdod
cynllunio yn y rhanbarth baratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd; roedd pump o'r
chwe awdurdod yn y broses o baratoi'r cynlluniau hynny - roedd Parc
Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi mabwysiadu ei gynllun ac roedd yn gwneud
gwaith monitro a gwerthuso ar hyn o bryd. Esboniodd swyddogion fod gofyniad o
hyd i gael cynlluniau unigol ar gyfer pob awdurdod cynllunio; fodd bynnag,
byddai'r CDS yn llunio un cynllun i gwmpasu'r rhanbarth cyfan.
Yn ogystal â'r uchod, nodwyd, unwaith y byddai'r CDS
wedi'i fabwysiadu, y byddai swyddogion yn gallu llunio Cynllun Datblygu Lleol
Cryno a oedd yn fersiwn mwy cryno o'r cynlluniau a oedd yn cael eu llunio ym
mhob ardal awdurdod cynllunio lleol; yn y tymor hir byddai hyn yn lleihau'r
pwysau ar bob awdurdod cynllunio lleol a'r gwaith y mae angen ei wneud i
ddatblygu Cynlluniau Datblygu Lleol.
Yn y cyfamser, eglurwyd bod swyddogion ar draws pob un
o'r awdurdodau cynllunio lleol wedi bod yn gweithio ar y cyd i rannu prosesau a
chasglu a rhannu tystiolaeth a methodolegau ar gyfer cynnal astudiaethau.
Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn dal i aros am ganllawiau
gan Lywodraeth Cymru o ran llunio'r CDS. Pwysleisiwyd pwysigrwydd derbyn y
canllawiau, yn enwedig gan y byddai'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i gwmpas y
cynllun. Mae penderfynu a all awdurdodau cynllunio fod yn fwy creadigol o ran
eu dull gweithredu neu beidio yn dibynnu ar y disgwyliadau a nodir yn y
canllawiau a pha feysydd gwaith y mae angen mynd i'r afael â nhw. Nodwyd bod y
ffaith nad oedd y llawlyfr canllawiau wedi'i gyhoeddi yn rheswm arall pam nad
oedd swyddogion eisoes wedi symud ymlaen gyda'r cam cytundeb cyflawni.
Hysbyswyd yr Aelodau na fyddai swyddogion yn gallu gwneud cynnydd sylweddol
wedi'r cam cytundeb cyflawni heb y canllawiau, gan na fyddent yn ymwybodol o ba
broses y mae Llywodraeth Cymru eisiau i awdurdodau ei dilyn.
Yn dilyn y drafodaeth, dywedodd mwyafrif yr Aelodau eu
bod yn ffafrio opsiwn un i'w ystyried gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin
Cymru.
PENDERFYNWYD:
Bod Opsiwn Un, fel y manylir yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd, yn cael ei ddewis fel yr opsiwn a ffefrir ar gyfer dechrau'r gwaith o
gyflawni Cynllun Datblygu Strategol yn unol â Rheoliadau Cynllunio Gwlad a
Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021, a'i gymeradwyo i'w ystyried
gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.
Dogfennau ategol: