Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r ymatebion i'r ymgynghoriad a'r asesiadau
effaith a risg integredig, yn unol ag Adran 53 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013, fod yr aelodau'n penderfynu ar y canlynol:-
1. Rhoi cynnig ar waith i
gau'r ddarpariaeth canolfan cymorth dysgu arbenigol ar gyfer disgyblion oedran
uwchradd â nam ar eu golwg yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson, o 1 Medi 2025 ymlaen.
2: Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Trawsnewid i weithredu'r cynnig.
Rhesymau dros y penderfyniad arfaethedig:
Mae'r
penderfyniad hwn yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â'r gofynion cyhoeddi
ffurfiol a osodir ar y cyngor gan y Côd Trefniadaeth Ysgolion a'r ddeddfwriaeth
gysylltiedig. Bydd rhoi'r cynnig ar waith yn galluogi'r cyngor i hyrwyddo
safonau addysgol uchel a chyflawni potensial pob plentyn. Bydd hefyd yn
galluogi'r cyngor i gyflawni ei ddyletswydd i sicrhau addysg effeithlon yn ei
ardal.
Rhoi'r penderfyniad ar waith
Cynigir
rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: