Cofnodion:
Ailgadarnhaodd y Cynghorydd Jenkins ei datganiad o fudd yn yr eitem hon.
Penderfynwyd:
Ar ôl rhoi sylw dyladwy i ymatebion yr ymgynghoriad a'r asesiadau effaith a
risg integredig, yn unol ag Adran 53 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion
(Cymru) 2013, fod yr aelodau'n penderfynu ar y canlynol:-
1. Rhoi cynnig ar waith i gau'r ddarpariaeth canolfan cymorth dysgu
arbenigol ar gyfer disgyblion oedran uwchradd ag anawsterau llythrennedd
penodol yn Ysgol Gymunedol Cwmtawe o 1 Medi 2025 ymlaen.
2. Rhoi awdurdod
dirprwyedig i'r Pennaeth Trawsnewid i weithredu'r cynnig.
Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig
Mae'r
penderfyniad hwn yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â'r gofynion cyhoeddi
ffurfiol a osodir ar y cyngor gan y Côd Trefniadaeth Ysgolion a'r ddeddfwriaeth
gysylltiedig. Bydd rhoi'r cynnig ar waith yn galluogi'r cyngor i hyrwyddo
safonau addysgol uchel a chyflawni potensial pob plentyn. Bydd hefyd yn
galluogi'r cyngor i gyflawni ei ddyletswydd i sicrhau addysg effeithlon yn ei
ardal.
Rhoi'r penderfyniad ar waith
Cynigir
rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: