Agenda item

Gwefan Mewnfuddsoddi Rhanbarthol

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad ar ddatblygiad y wefan Mewnfuddsoddi Rhanbarthol.

Nodwyd, ochr yn ochr â'r strategaeth ranbarthol, fod Swyddogion yn datblygu gwefan sy'n adlewyrchu'r cyfleoedd ar draws y rhanbarth; roedd hyn yn ymdrech gydweithredol rhwng cydweithwyr ym mhob un o'r pedwar awdurdod lleol i awgrymu nifer o gyfleoedd y gellir eu cyflwyno i fuddsoddwyr.

Rhannodd swyddogion ddelweddau presennol y wefan; roedd y nodweddion yn cynnwys cefndir y rhanbarth a dangosyddion allweddol, gwybodaeth am dalent a sgiliau, y cysylltedd o ran y rhwydweithiau rheilffyrdd a ffyrdd a map cyfleoedd.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod swyddogion yn targedu sawl sector, y mae pob un ohonynt yn cyd-fynd â'r gwaith sy'n cael ei wneud ar y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol; roedd swyddogion wedi gweithio mewn partneriaeth â'r pedwar awdurdod lleol a SQW i lunio rhestr o flaenoriaethau. Darparwyd enghreifftiau a oedd yn cynnwys gwyddor bywyd a lles, ynni, gweithgynhyrchu clyfar, diwydiannau digidol a chreadigol a hamdden a lletygarwch.

Roedd cyflwyniad y wefan yn cynnwys trosolwg o'r ystod o gyfleoedd buddsoddi a oedd wedi'u cynnwys i arddangos y gwahanol brosiectau a oedd naill ai'n mynd rhagddynt, ar gael neu'n cael eu datblygu; roedd swyddogion wedi lanlwytho cyfanswm o 29 o wahanol gyfleoedd ar draws y rhanbarth. Nodwyd y bydd y sawl sy'n ymweld â'r wefan yn gallu cael manylion pellach am y prosiect, gan gynnwys trosolwg, yr hyn yr oedd yn ceisio'i gyflawni a sut y bydd y prosiect yn gwella'r ardal. Dangosodd swyddogion hefyd sut i ddefnyddio'r map cyfleoedd, a oedd yn ffordd ddaearyddol o weld y gwahanol safleoedd buddsoddi ar draws y rhanbarth.

Eglurwyd bod y wefan wedi'i sefydlu mewn ffordd pe bai datblygwr neu barti â diddordeb am gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas ag un o'r prosiectau, y byddai'r cais yn cael ei anfon at yr awdurdod lleol perthnasol a byddai'r rheini â gwybodaeth am y prosiect a dealltwriaeth ohono'n ymdrin â'r cais hwnnw; yna byddai'n ofynnol i'r awdurdod lleol ymdrin â'r diddordeb a grëir gan y wefan.

Hysbyswyd y Pwyllgor fod y wefan yn dal i gael ei datblygu, ac roedd Swyddogion yn gweithio gyda phartneriaid i ddiweddaru'r wefan ymhellach; roedd y gwaith wedi'i reoli gan y grŵp arweinwyr rhanbarthol ar draws y rhanbarth, a oedd yn cynnwys Penaethiaid Gwasanaethau mewn datblygu economaidd. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod y wefan wedi’i datblygu i arddangos y gwaith da sy'n cael ei wneud, neu sydd ar fin cael ei wneud, yn y rhanbarth.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch y gwahanol wefannau a oedd yn weithredol yn y rhanbarth, a'r angen i sicrhau, pa lwybr bynnag a ddefnyddir, y byddai'r defnyddiwr yn cael ei dywys i'r we-dudalen gywir ac yn cael yr wybodaeth y byddai ei hangen arno.

Holodd yr aelodau pam nad oedd rhai prosiectau wedi'u rhestru ar y wefan. Nodwyd bod y wefan yn cael ei datblygu o hyd; os oedd sectorau ar goll neu ardaloedd yr oedd angen eu datblygu, gallai swyddogion eu hychwanegu at y wefan yn ôl yr angen.

O ran amserlenni, amlygwyd y byddai'r wefan yn cael ei lansio yn yr wythnosau i ddod.

Gofynnwyd i swyddogion am y pwynt lefel mynediad ar gyfer y prosiectau a restrir ar y wefan, ac eglurwyd bod pob awdurdod lleol yn gyfrifol am gyflwyno'r prosiectau a'r blaenoriaethau sydd o arwyddocâd rhanbarthol yn eu barn nhw. Soniwyd bod swyddogion yn cynnal trafodaethau yn eu cyfarfodydd arweinwyr rhanbarthol ac yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod cysondeb ar draws ardal yr awdurdod lleol a bod prosiectau'n cael eu cyflwyno ar lefel benodol; cydnabuwyd na ellid cynnwys pob prosiect ar y wefan.

 

 

Dogfennau ategol: