Cofnodion:
Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau ynghylch
Cyflawni'r Strategaeth Ynni Ranbarthol.
Roedd y Cadeirydd yn hapus i nodi bod y Tîm Ynni
Rhanbarthol wedi derbyn blwyddyn ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar
gyfer y cyfnod hyd at fis Mawrth 2026.
Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r adroddiad ac
atgoffwyd y pwyllgor mai'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol oedd y fframwaith ar
gyfer cyflwyno'r Strategaeth Ynni Rhanbarthol. Nodwyd er bod Cynlluniau Ynni
Ardal Leol yn ddogfennau cyhoeddus, roedd cynlluniau i'w cyhoeddi ymhellach
drwy fforwm cyhoeddus ar ddechrau mis Gorffennaf 2025. Bydd y cam hwn yn un
pwysig iawn ar gyfer cynnwys y cyhoedd a thryloywder gan y bydd yn arddangos y
cynnydd a wnaed, yr heriau a'r manylion ynghylch cyflenwi.
Er gwaethaf y newyddion cadarnhaol am gyllid
ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, nodwyd bod y cyllid ar gael tan fis Mawrth
2026 yn unig ac roedd nifer o bryderon ynghylch darparu adnoddau i gyflwyno'r
gwasanaeth.
Esboniwyd bod adnoddau cyfyngedig ar gael ar draws
y pedwar Awdurdod Lleol ar gyfer cyflwyno'r ffrwd waith hon, gyda nifer o
swyddogion yn gweithio ar gyflenwi fel rhan o'u swyddi dyddiol. Roedd hefyd
nifer cyfyngedig o weithwyr dynodedig yn gweithio ar y darn penodol hwn o
waith.
Yn dilyn yr uchod, tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod y Tîm Ynni Rhanbarthol yn hanfodol o ran cyflenwi a sicrhau cynnydd
parhaus. Nodwyd y byddai angen cynnal trafodaethau ynghylch adnoddau staff, yn
benodol yr angen am fwy o rolau parhaol er mwyn darparu cynnydd parhaus.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod swyddogion yn aros
am ddatganiad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ynghylch cyllideb garbon 3, a
dylai hyn gael ei ddarparu erbyn diwedd y flwyddyn.
Nodwyd y sefyllfa bresennol, o lefel swyddog, er
bod cynnydd yn digwydd o ran cyflwyno, roedd hyn yn digwydd ar lefel isel ar
hyn o bryd o ganlyniad i'r anawsterau a'r heriau y tynnwyd sylw atynt.
Darparodd swyddogion fanylion ynghylch sawl
prosiect sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd a phrosiectau arfaethedig:
· Digwyddiadau Lansio Parc Gelli Werdd - Fel y crybwyllwyd uchod, roedd
digwyddiad lansio arfaethedig ar gyfer Cynlluniau Ynni Ardal Leol ym Mharc
Gelli Werdd, parc busnes cynaliadwy yn Cross Hands a ariannwyd gan fenter ar y
cyd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn,
esboniodd swyddogion eu bod yn datblygu tudalennau we ar gyfer y Cynlluniau
Ynni Ardal Leol ac yn creu hyfforddiant ar-lein ar gyfer staff yn yr Awdurdodau
Lleol er mwyn eu helpu i ymgysylltu â dogfennau Cynlluniau Ynni Ardal Leol.
· Cais Innovate UK - Roedd swyddogion yn gweithio yn Sir Benfro, gyda
Bluestone a'r Porth, i gynhyrchu cais ar gyfer Innovate UK i gefnogi busnesau
bach a chanolig yng nghadwyn gyflenwi twristiaeth. Mae'r darn hwn o waith yn
ceisio cael gafael er eu hadroddiadau carbon a'u cynlluniau datgarboneiddio.
Nodwyd bod y gwaith hwn yn darparu cefnogaeth i'r sefydliadau hyn er mwyn eu
helpu i wella eu cynaliadwyedd, lleihau eu hôl troed carbon a darparu cynllun
datgarboneiddio ar y cyd. Mae hefyd yn galluogi'r swyddogion i gyfuno'r data
hynny ac i chwilio am gyfleoedd lle gellid creu systemau ynni clyfar.
· Trafnidiaeth Rhanbarthol - Roedd y Tîm Ynni Rhanbarthol yn cysylltu â'r Tîm
Trafnidiaeth Rhanbarthol i sicrhau bod elfennau o'u Strategaeth Ynni
Rhanbarthol yn cyd-fynd â'r ffrwd waith ynni, yn enwedig wrth iddynt geisio
cyflwyno cerbydau trydan a cherbydau tebyg.
· Prosiect Rhwydwaith Gwresogi De Cymru - Cydnabuwyd bod cyfleoedd i
ddefnyddio gwres gwastraff ar draws y rhanbarth er mwyn cyflwyno rhwydwaith
gwresogi. Ar hyn o bryd roedd swyddogion
yn archwilio dichonoldeb y cyfle hwn.
· Cynlluniau grant Ynni Cymru ac WSRID sydd ar y gweill.
Dywedwyd wrth y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru'n
casglu'r holl ddata Cynlluniau Ynni Ardal Leol ar hyn o bryd. Unwaith caiff y
gwaith hwn ei gwblhau caiff y data ei osod ar MapDataCymru. Nodwyd o'r data hwn
fydd swyddogion yn gallu penderfynu ble y dylid canolbwyntio'u hymdrechion a
llunio strategaeth er mwyn canolbwyntio ar ardaloedd lle gellid gwneud
gwelliannau sylweddol.
Cyflwynwyd y diweddariad canlynol o ran y
cynlluniau blaenoriaethu unigol.
Prosiect Prynu Systemau Solar fel Grŵp - Ar
hyn o bryd roedd heriau sylweddol o ran caffael mewn perthynas â'r prosiect
hwn, yn enwedig y Timau Caffael yn teimlo'n gyfforddus wrth gaffael ar ran pobl
eraill. Roedd swyddogion yn aros am gyngor i'w ddarparu i'r Timau Caffael o ran
y ffordd orau o gyflwyno'r cynllun hwn.
Prosiect Newid Ymddygiad - Roedd swyddogion wedi
llunio prosiect gyda'r holl grwpiau ynni cymunedol sy'n darparu cyngor ar draws
y rhanbarth ar hyn o bryd. Er mwyn gwneud cynnydd gyda'r gwaith hwn, cyflwynwyd
cynnig ar y cyd drwy Gronfa Loteri Gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Yn
anffodus nodwyd nad oedd y cais yn llwyddiannus. Tynnwyd sylw at y ffaith bod
swyddogion yn chwilio am ffyrdd eraill o ariannu'r prosiect hwn oherwydd
canlyniadau sylweddol a all ddod o ganlyniad i Awdurdodau Lleol yn cefnogi aelwydydd
i wneud newidiadau allweddol.
Gwefru Cerbydau Trydan Trawsffiniol - mae Abertawe
a Chastell-nedd Port Talbot wedi cwblhau treial o wefru cerbydau ym mannau
gwefru ei gilydd ac roedd hyn wedi gweithio'n llwyddiannus. Ar hyn o bryd roedd
swyddogion yn ceisio dod o hyd i dimau mewn awdurdodau lleol, gyda gyrwyr addas
sy'n byw ar draws y ffin, er mwyn eu defnyddio i gynnal treial byw. Ychwanegwyd
y byddai hyn yn bwydo i mewn i waith y Metro, sy'n ystyried ehangu ar hyn er
mwyn cynnwys y sector cyhoeddus ehangach.
I grynhoi trosolwg yr adroddiad a ddosbarthwyd,
roedd swyddogion wedi pwysleisio'r heriau y byddai angen mynd i'r afael â nhw,
yn enwedig ynghylch caffael a chyllid, er mwyn parhau i gyflenwi ac i wneud
cynnydd gyda chyflenwi mewn modd mwy effeithlon.
Cynhaliwyd trafodaeth bellach ynghylch caffael yn
dilyn aelodau'n gofyn am eglurder ynghylch y camau nesaf er mwy ceisio datrys y
problemau ynghylch caffael a sicrhau bod prosesau caffael yn cyd-fynd wrth
symud ymlaen. Tynnodd swyddogion sylw at yr heriau sy'n gysylltiedig â'r ffaith
nad ydynt yn gallu gwneud dyraniadau uniongyrchol ar ran pobl eraill ac ar hyn
o bryd roeddent yn gweithio ar ddod o hyd i fecanweithiau eraill y gall
Awdurdodau Lleol eu mabwysiadu er mwyn caffael ar y cyd.
Trafododd y pwyllgor ffyrdd posib o ddatrys y
broblem, yn benodol drwy'r Cyd-bwyllgor Corfforedig fel corff caffael. Cytunwyd
y byddai pryderon a godwyd o ran caffael yn cael eu trosglwyddo i Gyd-bwyllgor
Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru trwy Gadeirydd yr Is-bwyllgor Ynni.
Cyflwynodd y Pennaeth Polisi a Gweinyddu Busnes y
diweddaraf ynghylch llywodraethu'r ffrwd waith ynni gan ei fod yn gysylltiedig
â'r trafodaethau wrth symud ymlaen. Dywedwyd fod gweithdy prosbectws ar waith
ar hyn o bryd gyda Llywodraeth Cymru a swyddogion o'r pedwar Cyd-bwyllgor
Corfforedig. Trwy gynnal y gweithdy hwn, cydnabuwyd mai Rhanbarth De-orllewin
Cymru oedd yr unig Gyd-bwyllgor Corfforedig ag is-bwyllgor ar wahân ar gyfer y
ffrwd waith ynni. Esboniwyd bod y Cyd-bwyllgorau Corfforedig eraill wedi cyfuno
ynni â'r ffrwd waith economaidd. Daethpwyd i'r casgliad y byddant yn trafod y
mater hwn yn ystod cyfarfod cyffredinol blynyddol Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru, a drefnwyd ar gyfer 27 Mai 2025, i benderfynu a ddylai'r
ffrwd waith ynni barhau i fod ar wahân neu a ddylid ei chyfuno â datblygiad
economaidd.
Dogfennau ategol: