Agenda item

Adolygiad o'r Protocol Siarad Cyhoeddus

Cofnodion:

Darparodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd drosolwg o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda. Nodwyd mai un aelod yn unig o'r cyhoedd sydd wedi gofyn am siarad yng nghyfarfod y cyngor ers i'r polisi fod ar waith. Mae'r cyngor yn gweithio i hyrwyddo'r cynllun deisebau a'r Protocol Siarad Cyhoeddus ymhellach i sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn ymwybodol o wahanol gyfleoedd i siarad yn uniongyrchol â chynghorwyr a mynegi eu pryderon ar wahanol faterion.

 

Holodd yr aelodau a oedd yr holl gynghorwyr yn cyfathrebu â'u preswylwyr lleol i ddweud wrthynt am faterion yn eu wardiau a sut y gall preswylwyr lleol fod yn rhan o'r broses ddemocrataidd.

 

Cynigiodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd e-bostio pob aelod i'w atgoffa o'r cynllun E-ddeisebau a'r Protocol Siarad Cyhoeddus. Gallai aelodau wedyn gyfleu'r wybodaeth hon i'w preswylwyr lleol, yn ôl yr angen.

 

Penderfyniad: Argymhellir bod Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried y protocol ar gyfer siarad cyhoeddus ac yn tynnu sylw at unrhyw newidiadau y gall fod eu hangen.

 

Dogfennau ategol: