Cofnodion:
Esboniodd James M Davies,
Rheolwr Gwasanaethau Cymdogaeth fod yr adroddiad hwn yn gwneud gwaith dilynol
ar yr adroddiad cychwynnol o ddiwedd 2024 a oedd wedi dechrau cyfnod prawf
pedwar mis. Dywedwyd wrth aelodau fod yr adroddiad yn cyflwyno adborth gan
randdeiliaid, staff a chyfarfodydd partneriaeth diogelwch cymunedol a
gynhaliwyd ar ddechrau ac ar ddiwedd y cyfnod prawf. Dywedwyd wrth yr aelod
mai'r cam nesaf yw symud ymlaen gyda phroses ymgynghori lawn. Disgwylir i'r
broses bara 8 wythnos gan ddechrau mewn ychydig wythnosau.
Diolchodd y cadeirydd i'r
swyddogion ac aelodau'r cabinet am ystyried yr adborth o'r adroddiad cyntaf.
Nododd fod aelodau wedi awgrymu cynnwys proses ymgynghori yn ystod y cyfnod
prawf ond cytunwyd mai cynnal ymgynghoriad llawn yw'r opsiwn gwell erbyn hyn.
Roedd yn teimlo bod aelodau'n gwerthfawrogi'r ymagwedd hon.
Gofynnodd aelodau a fyddai'r
gost o atgyweirio difrod i barciau'n fwy na'r arbedion o'u cloi. Os caiff
parciau eu difrodi, ai cloi nhw yw'r ateb gorau?
Esboniodd swyddogion nad oeddent yn bwriadu i'r fenter fod yn fesur
arbed arian, er eu bod wedi nodi arbediad o £5000. Y prif reswm dros y fenter
oedd methiant aml o ran gweithrediadau cloi oherwydd natur y rôl ac anawsterau
gyda phobl yn aros yn y parciau dros nos. Roedd hyn wedi annog ystyriaeth o'r
fenter.
Dywedodd swyddogion eu bod
wedi derbyn adborth a oedd yn nodi nad oedd cloi'r parciau'n fuddiol. Dywedodd
swyddogion eu bod yn bwriadu mynd i'r afael â phroblemau mewn parciau drwy roi
mesurau lliniaru ar waith yn hytrach na chloi gatiau. Bydd yn caniatáu i
swyddogion ailddyrannu adnoddau i wella gwaith cynnal a chadw ac archwiliadau
lleoedd chwarae yn ystod oriau gwaith rheolaidd. Gallai unrhyw arbedion gael eu
gwrthbwyso gan gost mesurau ychwanegol fel bolardiau.
Gofynnodd aelodau a yw ailbennu ceidwaid symudol i leoedd chwarae yn
cynrychioli gostyngiad yn nifer y staff. Gofynnwyd hefyd, os byddai
fandaliaeth, a fyddai gweithwyr eraill ar gael i gloi gatiau os caiff y swyddi
ceidwaid symudol eu dileu.
Esboniodd swyddogion na fyddai
lleihad yn nifer y staff. Y nod yw ailddyrannu adnoddau i wella arolygiadau a
gwaith cynnal a chadw yn lleoedd chwarae gan ddarparu gwell gwerth am arian.
Nid yw'r ceidwad symudol ar alwad ar hyn o bryd i ymdrin â fandaliaeth neu
faterion tebyg, ac ni fydd hyn yn newid os bydd y penderfyniad yn cael ei wneud
yn barhaol yn dilyn yr ymgynghoriad.
Dywedwyd wrth yr aelodau fod
goruchwylwyr yn rheoli'r parthau gwahanol ar draws y fwrdeistref, a bydd hyn yn
parhau. Mae hefyd rota ar alwad i ymdrin â phroblemau diogelwch yn ystod
penwythnosau a chyda'r hwyr.
Gofynnodd aelodau a fydd staff
ar gael o hyd i gloi'r parciau yn y dyfodol os oes angen.
Esboniodd swyddogion fod angen
iddynt ddeall yr angen i gloi parciau. Yn ystod y cyfnod prawf pedwar mis,
roedd dros 50% o'r adborth yn ymwneud â Gerddi Fictoria, sydd â heriau unigryw
oherwydd ei agosrwydd at ganol y ddinas a gweithgareddau gyda'r nos. Nododd yr
heddlu effaith pan osodwyd y gatiau'n flaenorol. Yn wahanol i'r mwyafrif o
barciau, mae staff yng Ngerddi Victoria yn ystod y dydd.
Dywedwyd wrth yr aelodau nad oes unrhyw effaith ar staffio ar hyn o bryd
gan fod staff eisoes yn gweithio yn ystod yr oriau y byddai angen cau'r gât.
Gallai'r ymgynghoriad arwain at argymhelliad i eithrio Gerddi Victoria o'r
fenter oherwydd ei amgylchiadau unigryw. Nid oes gan barciau eraill y gallu i
gloi gatiau yn ôl y galw. Os bydd problemau'n codi, bydd swyddogion yn ceisio
rhoi mesurau eraill ar waith ac os nad ydynt yn llwyddiannus, efallai y bydd
angen ddychwelyd at gloi gatiau.
Nododd aelodau fod y cyfnod
prawf dros oriau'r gaeaf, felly mae'n bosib na fydd hyn yn rhoi darlun cyflawn.
Dywedwyd gan fod y cyhoedd bellach yn gwybod bod y gatiau'n cael eu gadael ar
agor, gallai hyn arwain at fwy o ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enwedig mewn
parciau fel Gerddi Victoria sydd mewn lleoliad canolog.
Awgrymodd yr aelodau gasglu
rhagor o ddata sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Awgrymwyd y gellid ymestyn y
cyfnod prawf drwy'r haf i arsylwi unrhyw newidiadau mewn ymddygiad cymdeithasol
cyn gwneud unrhyw benderfyniadau mawr.
Nododd yr aelodau fod Maes
Hamdden Brynhyfryd yn cael ei adnabod yn lleol fel Cae James a chwestiynwyd y
ffaith ei fod wedi'i gynnwys oherwydd nad oes modd ei gloi. Awgrymwyd ehangu'r
ardal ymgynghori o amgylch Parc Jersey i gynnwys eiddo sydd cyferbyn â mynedfa
Ynysmaerdy ac o'i hamgylch, yn ogystal â'r rhai ar Gwrt yr Ysgol a ger y gât yn
yr inclein.
Dywedodd swyddogion fod y
broses ar gyfer nodi'r cyfeiriadau ar gyfer gohebiaeth wedi'i chyflwyno â llaw
yn cael ei esbonio yn yr adroddiad. Bydd pobl sy'n derbyn gohebiaeth wedi'i
chyflwyno â llaw yn derbyn yr un wybodaeth â'r bobl sy'n sganio'r côd QR. Os
oes cyfeiriadau ychwanegol y dylid eu cynnwys, gall aelodau weithio gyda'r
swyddogion perthnasol i'w nodi a'u cynnwys.
O ran Maes Hamdden Brynhyfryd
(Cae James), cadarnhaodd swyddogion ei fod wedi'i gynnwys yn yr adroddiad
gyda'r holl barciau ac nad oes modd ei gloi. Awgrymodd swyddogion naill ai ei
dynnu o'r ymgynghoriad neu gynnwys ei enw lleol, Cae James, yn yr adroddiad a'r
ymgynghoriad.
O ran misoedd y gaeaf a'r haf, roedd swyddogion a phartneriaethau
cymunedol diogelwch y cyhoedd yn teimlo eu bod eisoes wedi profi hyn yn ystod y
cyfnod prawf answyddogol dros yr haf oherwydd salwch ac adnoddau staff er ni
chyhoeddwyd yn ffurfiol fod y parciau ar gau dros y 4 mis diwethaf.
Cydnabuwyd yr angen am gyfnod
prawf mwy ffurfiol i gasglu data sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Gallai ymestyn
y cyfnod prawf drwy'r haf ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr. Nod yr
ymgynghoriad yw casglu digon o adborth dros chwech i wyth wythnos er mwyn gwneud
argymhellion gwybodus.
Roedd aelodau'n teimlo, er nad
yw'r wybodaeth wedi'i chyhoeddi'n ffurfiol, roedd preswylwyr Llansawel yn
gwybod bod y gatiau wedi bod ar agor.
Gofynnodd y Cadeirydd pa staff
ac adnoddau fyddai'n cael eu defnyddio i gloi Gerddi Victoria.
Esboniodd swyddogion fod staff
yn gweithio yng Ngerddi Victoria. Mae staff yno yn ystod y diwrnod gwaith ond,
yn wahanol i barciau eraill, mae staff yno hefyd gyda'r nos ac yn y bore
oherwydd eu hagosatrwydd at weithgareddau yng nghanol y ddinas. Mae staff yn
defnyddio'r parc fel man ganolog ac mae hynny'n digwydd yn ystod y penwythnos
hefyd.
Gofynnodd y Cadeirydd a oedd
staff yn cyfeirio at staff glanhau ar gyfer canol y dref. Cadarnhaodd
swyddogion hynny.
Dywedodd y Cadeirydd y byddai
dechrau'r ymgynghoriad mewn pythefnos a'i gynnal am wyth wythnos yn cynnwys y
cyfnod rhwng canol mis Mai a chanol mis Gorffennaf, sef cyfnod sylweddol o'r
haf. Gallai'r amseru hwn ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr i ddefnydd o'r parc
ac ymddygiad yn ystod y tymor brig a gall hyn fod yn fwy manteisiol nag
ymgynghoriad byrrach, chwe wythnos.
Teimlodd swyddogion y dylai'r
ymgynghoriad ddechrau mewn wyth wythnos gan fyddai hyn yn rhoi mwy o amser
iddynt. Bydd swyddogion yn gweithio gyda'r adran gyfathrebu gorfforaethol cyn
iddynt gyflwyno'r ymgynghoriad.
Adroddodd aelodau fod staff yn
Tawe Terrace yn cael trafferth wrth gau'r parc oherwydd camdriniaeth ac
ymddygiad gwrthgymdeithasol. Crybwyllwyd bod sefydliadau sy'n defnyddio'r
parciau, fel y clwb bowlio ym Mharc Saint George, yn creu rhwystrau, gan eu bod
yn aros tan 11pm weithiau. Gofynnodd aelodau a yw sylwadau staff yn cael eu
hystyried mewn ymgynghoriadau ac a oes mesurau i amddiffyn staff yn well wrth
iddynt gau parciau.
Esboniodd swyddogion
ymgynghorwyd â'r holl staff yr effeithiwyd arnynt yn ystod y cyfnod prawf a
chânt eu cynnwys yn yr ymgynghoriad sydd ar ddod, ynghyd â'r grŵp
rhanddeiliaid. Nododd adborth staff fod cloi'r gatiau'n dasg anodd ac
anghynhyrchiol. Dangosodd y cyfnod prawf, gan gynnwys treial answyddogol yr haf
diwethaf, nad oedd cloi'r gatiau'n darparu manteision sylweddol, ac eithrio
Gerddi Victoria. Mae'r fenter yn ceisio mynd i'r afael â'r anawsterau y mae
staff yn eu hwynebu a gwerthuso manteision go iawn cloi'r gatiau.
Teimlodd aelodau fod diogelu'r
parc cyfan yn hanfodol. Os nad yw'r parc yn ddiogel, ni fydd cau'r gatiau'n
unig yn atal unigolion penderfynol rhag mynd i mewn ac achosi difrod.
Gofynnodd aelodau a fyddant yn
ymgynghori ymhellach â'r heddlu gan gynnwys Swyddogion Cymorth Cymunedol yr
Heddlu wardiau lleol. Awgrymwyd hefyd ychwanegu cwestiwn ynghylch y defnydd o'r
parc i gasglu data pellach o ran sut y mae preswylwyr yn defnyddio'r parciau,
fel cerdded cŵn, cerdded drwy'r parc i'r ysgol, etc. Byddai hyn yn helpu i
ffurfio darlun mwy o'r defnydd o'r parc ar adegau gwahanol.
Cadarnhaodd swyddogion y
byddant yn gweithio gyda'r tîm cyfathrebu i ychwanegu cwestiwn am y defnydd o'r
parc at yr ymgynghoriad. Mae swyddogion yn ymgynghori â'r heddlu'n rheolaidd a
byddant yn rhoi gwybod i'r grŵp Partneriaeth Diogelwch Cymunedol am yr
ymgynghoriad er mwyn casglu adborth. Hyd yn hyn mae'r adborth wedi bod yn
gysylltiedig â Gerddi Victoria heb unrhyw sylwadau ar barciau eraill.
Awgrymodd y Cadeirydd ehangu
cwestiynau am y defnydd o'r parc gyda'r hwyr oherwydd gallai hyn helpu i nodi
mesurau i wneud i bobl deimlo'n fwy diogel, fel goleuadau gwell. Teimlodd fod
hyn yn gysylltiedig â'r asesiad risg a'r penderfyniad terfynol ar rwymedigaethau
a mesurau angenrheidiol ar gyfer gadael parciau heb eu cloi gyda'r hwyr.
Awgrymodd y Cadeirydd os caiff
parciau eu cadw ar agor dros nos, dylai'r cyngor ystyried gosod goleuadau lle
bo angen, yn enwedig mewn parciau sy'n cael eu defnyddio fel llwybrau byr.
Byddai hyn yn gwella diogelwch preswylwyr sy'n defnyddio'r parciau hyn i
gyrraedd yr ysgol neu i gerdded eu cŵn. Soniodd y Cadeirydd hefyd y byddai
asesu dichonoldeb a chostau mesurau o'r fath yn anfon neges gadarnhaol at
breswylwyr am ymrwymiad y cyngor i wneud parciau'n ddiogel ac yn hygyrch gyda'r
nos.
Cytunodd swyddogion â'r cadeirydd am ystyried effaith y gyllideb ac
awgrymwyd mynd i'r afael â phroblemau penodol wrth iddynt godi ym mharciau
unigol yn hytrach na chloi gatiau. Gallai'r rhain ymwneud â diogelwch neu
hygyrchedd. Maent yn bwriadu ymgynghori â'r cyhoedd a chasglu adborth, yna
llunio adroddiad manwl gydag argymhellion ar gyfer camau gweithredu yn y
dyfodol.
Awgrymodd y Cadeirydd ystyried
goleuadau a mesurau eraill ar gyfer parciau yn hytrach nag aros am adborth a
chwynion am adael parciau ar agor. Er bod pryderon ynghylch y gost a
bioamrywiaeth, mae'r manteision i breswylwyr yn glir. Gallai mynd i'r afael â'r
problemau nawr fod yn fantais os oes cyllid ar gael o ran ceisio gwneud
parciau'n fwy diogel ac yn fwy hygyrch, yn enwedig y rheini a defnyddir fel
llwybrau.
Dywedwyd swyddogion y byddant
yn cyflwyno adroddiad pellach yn yr hydref/gaeaf er mwyn gwneud penderfyniad
ynghylch a fydd y cyngor yn symud ymlaen â pheidio â chloi parciau dros nos fel
mesur parhaol.
Dywedodd y Cynghorydd Hurley,
Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thwf Economaidd wrth aelodau fod y
problemau bioamrywiaeth efallai'n ymwneud â mynd yn ôl ar eu gair a'r effaith
ar lwybrau hedfan ystlumod.
Rhoddodd y Cadeirydd ddiolch i
Aelod y Cabinet a nodwyd bod cynnyrch ac atebion i liniaru hyn os yw'r cyngor
yn dymuno gwneud hynny.
Yn dilyn craffu, cefnogwyd yr
argymhelliad i gyflwyno'r eitem gerbron y Cabinet.
Dogfennau ategol: