Agenda item

CAIS RHIF P2023/0550 - MYNEDFA DREAMFIELDS ETC, FFERM GELLI BWCH, LÔN O'R B4290, JERSEY MARINE, CASTELL-NEDD

Cofnodion:

Rhoddodd swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (lledu ac ailwynebu'r fynedfa bresennol ac adeiladu gatiau diogelwch newydd, waliau cyfagos, pileri ac ardal storfa finiau arfaethedig (yn rhannol ôl-weithredol), yn Fferm Gelli Bwch (Dreamfields), Lôn o'r B4290, Jersey Marine, Castell-nedd, fel y nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd yr Asiant ar gyfer yr Ymgeisydd yn bresennol i roi ei sylwadau o blaid y cais.

 

PENDERFYNWYD:    Yn unol ag argymhellion y Swyddogion, y dylid cymeradwyo cais Rhif P2023/0550 Mynedfa Dreamfields etc, Fferm Gelli Bwch, Lôn o'r B4290, Jersey Marine, Castell-nedd SA10 6JU, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad a ddosbarthwyd