Cofnodion:
Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd drosolwg o'r adroddiad, fel y'i cynhwysir yn y pecyn agenda.
Sylwodd yr aelodau fod aelodau etholedig wedi
derbyn nifer o ddeisebau ar-lein gan y cyhoedd; fodd bynnag, nid oes yr un o'r
rhain wedi bod yn E-Ddeisebau’r awdurdod lleol. Nodwyd y byddai unrhyw
E-Ddeiseb sy'n derbyn dros bum cant o lofnodion yn ysgogi dadl. Gofynnodd yr
aelodau am wybodaeth ychwanegol ynghylch y broses hon.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd y byddai unrhyw ddeiseb sy'n bodloni'r trothwy yn cael ei
hystyried gan y cyngor llawn ar gyfer dadl gyhoeddus. Byddai trafodaeth wedi'i
hamseru'n cael ei chynnal yn y cyngor er mwyn ystyried yr eitem. Gall Aelodau'r
Cabinet neu bwyllgorau craffu hyrwyddo materion o fewn eu fforymau priodol, os
ystyrir bod hyn yn briodol. Mewn rhai achosion, gallai'r ddadl arwain at y
Cabinet yn cyfarwyddo swyddogion i ddarparu manylion ychwanegol. Mae'r broses
E-ddeiseb yn sicrhau tryloywder ynghylch y mater dan sylw ac yn cynnig cyfle i
drafod camau gweithredu a chytuno arnynt er mwyn mynd i'r afael â'r pwyntiau a
godir yn y ddeiseb.
Nododd yr aelodau fod deiseb ar-lein ddiweddar wedi
casglu dros 4,500 o lofnodion, drwy lwyfan trydydd parti. Pe bai cynllun
E-ddeiseb yr awdurdod lleol wedi cael ei ddefnyddio, byddai hyn wedi ennyn
dadl.
Cyfeiriodd yr aelodau at y tair deiseb a
grybwyllwyd yn yr adroddiad a nodwyd nad oedd yr un ohonynt wedi cyrraedd y
trothwy ar gyfer ymateb. Gofynnodd yr aelodau pa gamau a gymerwyd yn yr
amgylchiadau hynny, ac a yw'r cyhoedd yn cael gwybod am ffyrdd amgen o gyfleu
eu barn.
Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd fod y tair deiseb a grybwyllir yn yr adroddiad wedi sbarduno
ymateb gan y Pennaeth Gwasanaeth. Ystyriodd y Pennaeth Gwasanaeth y cais ac
esboniodd pam y cymerwyd y ffordd o weithredu honno. Cyhoeddir copïau o'r
ymatebion ar wefan y cyngor sy'n hygyrch i'r cyhoedd.
Gofynnodd yr aelodau a oes cyhoeddusrwydd yn cael
ei roi i'r ffaith bod y cyhoedd yn gallu gofyn
cwestiynau mewn cyfarfodydd.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd wrth yr aelodau fod cyfranogiad y cyhoedd mewn cyfarfodydd yn cael
ei hyrwyddo gymaint â phosib. Roedd angen mwyafu'r potensial i ddefnyddio
gwahanol fforymau ar gyfer ymgysylltu. Gallai hyrwyddo'r gwahanol elfennau hyn
ymhellach er mwyn annog cyfranogiad y cyhoedd mewn prosesau democrataidd fod yn
ffocws posib i Bwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd. Darperir rhagor o
wybodaeth am siarad cyhoeddus dan eitem chwech ar yr agenda.
Cyfeiriodd yr aelodau at baragraff 23 o'r adroddiad
gan ofyn am eglurhad ar yr agweddau ariannol.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd wrth yr aelodau fod disgwyl i oblygiadau ariannol derbyn deisebau
fod yn fach. Fodd bynnag, efallai bydd costau achlysurol ar gyfer gwasanaethau
cyfieithu neu addasiadau hygyrchedd. Mae'r cyngor yn ymwybodol o'r costau posib
hyn a bydd yn eu monitro yn ôl yr angen i sicrhau cynwysoldeb mewn cyfarfodydd.
Penderfyniad:
Argymhellir bod aelodau'n ystyried cynllun deisebau presennol y cyngor ac yn
tynnu sylw at unrhyw newidiadau y maent yn teimlo y dylid eu hystyried.
Dogfennau ategol: