Cofnodion:
Mesur 1 – Canran yr aelwydydd sy'n cael eu hatal rhag bod yn ddigartref
Gofynnodd yr aelodau pam y mae ffigurau'n lleihau
ar ddechrau 2024.
Adroddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau ar gynnydd
yn nifer y bobl a gafodd eu hatal rhag dod yn ddigartref dros y flwyddyn
ddiwethaf. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i helpu i atal
digartrefedd o fewn 56 diwrnod i berson ddod yn ddigartref. O ganlyniad i
ailstrwythuro tîm a deddfwriaeth newydd sy'n ei gwneud yn ofynnol i
landlordiaid roi chwe mis o rybudd, mae awdurdodau bellach yn ymyrryd yn
gynharach, gan atal digartrefedd cyn iddo fod yn ddyletswydd statudol. Mae'r
ymagwedd ragweithiol hon wedi arwain at atal digartrefedd mewn modd mwy
effeithiol.
Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn canolbwyntio ar
waith ymyrryd yn gynnar. Roedd adroddiad yn cael ei ddatblygu a bydd yn cael ei
gyflwyno i'r pwyllgor yn ddiweddarach.
Mesur 6 – Nifer y Plant ar y Gofrestr Amddiffyn
Plant
Mesur 8 – Nifer y plant sydd wedi'u hailgofrestru
ar y Gofrestr Amddiffyn Plant
Roedd aelodau'n bryderus am y cynnydd yn nifer yr
achosion o gam-drin emosiynol. Bydd y data'n helpu aelodau i fonitro hyn wrth
symud ymlaen.
Gofynnodd yr aelodau am ragor o wybodaeth mewn
perthynas â'r gostyngiad yn y niferoedd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2023. Gan
gyfeirio at y tabl ar dudalen 104 o'r adroddiad, roedd un plentyn wedi cael ei
ailgo0frestru ar y gofrestr amddiffyn plant ar gyfer yr un cyfnod. Gofynnodd
aelodau a oedd nifer y plant ar y gofrestr amddiffyn plant yn cyfeirio at blant
sy'n newydd i'r gwasanaethau cymdeithasol.
Dywedodd Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol,
Iechyd a Thai wrth aelodau na fyddai'r plant yn newydd i'r Gwasanaethau
Cymdeithasol, ond y gallent fod yn newydd i'r gofrestr amddiffyn plant.
Esboniodd swyddogion fod y data ailgofrestru'n
adlewyrchu'r plant hynny sydd wedi bod ar y gofrestr amddiffyn plant yn y
gorffennol ac yna wedi cael eu cofrestru yn ystod cyfnod arall.
Mesur 2 - Nifer cyfartalog o ddiwrnodau i ddarparu
Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl o'r pwynt cyswllt cyntaf i'r broses ardystio
Gofynnodd yr aelodau am eglurder ynglŷn â'r
term 'pwynt cyswllt cyntaf'.
Cadarnhaodd swyddogion mai'r pwynt cyswllt cyntaf
oedd y pwynt lle cysylltodd aelod o'r cyhoedd â'r awdurdod am y tro cyntaf.
Dywedodd Aelodau fod y ffigurau wedi gwella, yn y
gorffennol roedd rhestr aros tair blynedd.
Gofynnodd aelodau a oedd system flaenoriaeth ar
waith ar gyfer yr achosion mwyaf brys.
Cadarnhaodd swyddogion fod y Therapyddion
Galwedigaethol yn asesu achosion ac yn cynghori swyddogion ar angen
blaenoriaethol ac roedd yr achosion hynny'n cael eu blaenoriaethu. Nodwyd y
bydd llawer o achosion mewn sefyllfa eithaf brys. Ailgyflwynwyd y prawf modd a
dylai hyn leihau nifer y bobl sydd ar y rhestr aros dros y 12 i 18 mis nesaf.
Mesur 3 - Comisiynu: Nifer yr oriau o ofal cartref
allanol (18+)
Gofynnodd aelodau am ragor o wybodaeth mewn
perthynas â'r cynnydd yn nifer yr oriau o ofal cartref allanol.
Cadarnhaodd Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion fod
gwasanaeth mewnol yn cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y pecynnau gofal maint
cywir ar waith cyn trosglwyddo pobl i'r farchnad allanol. Bydd y cynnig
ailalluogi newydd yn Nhrem y Glyn ar waith yn fuan. O ganlyniad i hyn, bydd nifer yr oriau o ofal
cartref yn lleihau oherwydd bydd pobl yn cael eu hailalluogi'n gyflymach. Mae
hyn hefyd yn golygu y bydd mwy o bobl yn gallu dychwelyd i'w cartrefi yn
hytrach na mynd i ofal preswyl. Mae'r fenter hon yn mynd rhagddo o hyd oherwydd
agorwyd Trem y Glyn yn ddiweddar iawn ac nid yw wedi derbyn unrhyw breswylwyr
hyd yn hyn. Y gobaith yw y byddwn yn gallu gweld y canlyniadau'n ddiweddarach
eleni.
Gofynnodd aelodau beth oedd yr amserlen ar gyfer
derbyn preswylwyr i gyfleuster Trem y Glyn.
Cadarnhaodd Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion fod
gwaith yn mynd rhagddo yn yr eiddo ar hyn o bryd a'r gobaith yw y gall pobl
gael eu derbyn o fewn yr wythnosau nesaf. Trefnwyd cyfarfod â'r adran iechyd i
benderfynu ar gefnogaeth Therapydd Galwedigaethol.
Mesur 4 - Gwasanaethau Cymunedol Integredig: Nifer
y bobl mewn cartrefi gofal (preswyl a nyrsio) 18+
Gofynnodd aelodau a oedd nifer o breswylwyr yn
aros am leoliadau cartref gofal yn y fwrdeistref ar hyn o bryd. Gofynnodd
aelodau hefyd am leoliadau y tu allan i'r sir sy'n dod i Gastell-nedd Port
Talbot ac i'r gwrthwyneb.
Cadarnhaodd Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion nad
oes rhestr aros, ac eithrio pobl sy'n aros am gartref a ffefrir ganddynt. Mae Castell-nedd Port Talbot yn wynebu
prinder gwelyau nyrsio dementia a galw cynyddol. O ganlyniad i hyn, yn aml bydd
angen i leoliadau nyrsio dementia fynd i Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Phowys.
Mae'r awdurdodau'n trafod â darparwr lleol i weld a ellir darparu'r math hwn o
ofal yn y sir.
Gofynnodd aelodau a oedd gwahaniaeth sylweddol
rhwng costau lleoliadau y tu mewn i'r sir a'r tu allan i'r sir.
Cadarnhaodd Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion fod
gwahaniaeth mewn costau'n bosib, ond mae pob cartref gofal yn gofyn am ffi
ychwanegol. Darparwyd enghraifft o gartref gofal mewn awdurdod cyfagos sy'n
codi tâl o £200 ychwanegol yr wythnos.
Gofynnodd aelodau a oedd teuluoedd yn talu'r
ffïoedd ychwanegol hyn, a beth fyddai'n digwydd os nad oedd y ffïoedd
ychwanegol hyn yn fforddiadwy.
Cadarnhaodd Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion nad
oedd teuluoedd yn gallu fforddio talu'r ffi ychwanegol yn aml, felly mae'r
awdurdod lleol yn talu'r gost hon. Gofynnwyd i'r adran archwilio ymgymryd â
darn o waith yn y maes hwn. Dywedodd ddarparwyr nad yw'r gyfradd sylfaenol yn
ddigonol. Mae gwaith cenedlaethol parhaus yn mynd rhagddo i sicrhau bod pob
cartref gofal yn cael ei dalu ar yr un gyfradd. Nodwyd nad yw pobl yn
ymgysylltu â'r awdurdod cystal ag y dylent wrth benderfynu ar ffïoedd.
Mesur 5 - Nifer y plant sy'n derbyn gofal
Dywedodd yr aelodau ei fod yn braf gweld nifer y
plant sy'n derbyn gofal yn lleihau, ond cwestiynodd sut y byddai'r niferoedd yn
cael eu heffeithio pe bai'r Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches yn cael
eu cynnwys.
Cadarnhaodd swyddogion y byddai'r ffigurau'n gweld
cynnydd o 19.
Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.
Dogfennau ategol: