Agenda item

Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arfaethedig

Cofnodion:

Penderfyniad

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r cynlluniau canlynol, yn unol â'r gofynion statudol (fel y manylir yn yr Atodiadau perthnasol i'r adroddiad a ddosbarthwyd):

·       Rhaglen Gwaith Cyfalaf Traffig 2025-2026

·       Rhaglen Teithio Llesol 2025-2026

·       Rhaglen Lleoedd Parcio Unigol i'r Anabl 2025-2026

·       Rhaglen Cyflwyno Terfyn Cyflymder Diofyn 20mya Cenedlaethol Llywodraeth Cymru 2025-2026

·       Cyfalaf Llywodraeth Cymru - Rhaglen Llwybrau Diogel Mewn Cymunedau 2025-2026

·       Cyfalaf Llywodraeth Cymru - Grant Diogelwch ar y Ffyrdd

Bod y cynlluniau'n cael eu rhoi ar waith yn unol â'r gofynion statudol perthnasol a gynhwysir yn y Rheoliadau Traffig Ffyrdd cyfredol, ar yr amod na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Mae'r cynlluniau'n angenrheidiol er budd diogelwch ar y ffyrdd, gan ddarparu gostyngiad cyflymder, hyrwyddo Teithio Llesol, rhoi blaenoriaeth i leoedd parcio unigol i'r anabl wrth barcio ar y stryd, darparu digon o ddarpariaeth barcio a lleihau anafiadau yn y Fwrdeistref.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.

 

 

 

Dogfennau ategol: