Cofnodion:
Gwnaeth
yr aelodau canlynol ddatganiad o fudd ar ddechrau'r cyfarfod:
Y
Cynghorydd A Llewelyn – Cofnod Rhif 11 – Cynllun Prosiectau Bach Cynghorau
Cymuned – Cais gan Gyngor Cymuned Ystalyfera – Gan ei fod yn aelod o Gyngor
Cymuned Ystalyfera, felly gadawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a'r
bleidlais ar ôl hynny.
Y
Cynghorydd A Llewelyn – Cofnod Rhif 12 - Penodi Cynrychiolwyr Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol - Roedd o'r farn bod ei ddiddordeb yn rhagfarnus, felly gadawodd
y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth a'r bleidlais ar ôl hynny.
Y
Cynghorydd N Jenkins - Cofnod Rhif 12 - Penodi Cynrychiolwyr Llywodraethwyr yr
Awdurdod Lleol - Enwebwyd yn llywodraethwr Ysgol Gymunedol Cwmtawe. Roedd yn
ystyried bod y cysylltiad yn rhagfarnus, felly gadawodd y cyfarfod ar gyfer y
drafodaeth a'r bleidlais ar ôl hynny.