Cofnodion:
Cyflwynwyd y drydedd fersiwn
ddrafft o’r Cynllun Corfforaethol i'r Pwyllgor, a oedd yn cynnwys camau
gweithredu diwygiedig i gyflwyno'r Amcanion Lles a osodwyd ar gyfer 2025/26.
Cyfeiriodd Swyddogion at y llythyr a dderbyniwyd oddi wrth Gadeirydd
Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru mewn
perthynas â'r Cynllun Corfforaethol. Eglurwyd bod aelodau Is-bwyllgor Trosolwg
a Chraffu Cydbwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi mynegi pryderon
ynghylch peth o'r geiriad a oedd wedi'i ddefnyddio drwy'r holl Gynllun
Corfforaethol; yn benodol, y datganiadau canlynol 'Yr angen i sicrhau
cydbwysedd a chymesuredd tuag at gyflawni Sero Net a darparu effeithiau cadarnhaol
i'r economi' a 'Mae angen i dargedau Sero Net fod yn gymesur â'r ardal leol heb
effeithio ar yr economi leol nac achosi tlodi ychwanegol'. Amlygwyd bod y
datganiadau hyn wedi'u codi yn yr ymateb i'r Amcanion Lles yn yr ymgynghoriad
cyhoeddus.
Yn dilyn yr uchod, nodwyd bod
Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn
teimlo bod y datganiadau hyn yn groes i'r cyfleoedd helaeth ar gyfer buddion
economaidd lleol a rhanbarthol o ddiwydiannau gwyrdd, ac roeddent yn teimlo nad
oedd y datganiadau'n cydnabod y gwelliannau ansawdd bywyd y gallai Sero Net eu
cyflwyno. Awgrymodd Swyddogion y dylid diwygio'r cynllun gweithredu, y manylwyd
arno yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, i egluro bod y datganiadau hyn wedi’u
derbyn o'r ymgynghoriad cyhoeddus ac i gadarnhau bod Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru yn ystyried pob mater drwy'r Asesiad Effaith Integredig (AEI)
sy'n sicrhau y byddai sylw'n cael ei roi i bob effaith bosib wrth ystyried
cynigion; byddai hyn yn adlewyrchu'r cydbwysedd rhwng yr hyn y bydd y
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn bwrw ymlaen ag ef a sylwadau
cyhoeddus.
Nodwyd pe bai Aelodau'n dymuno
i'r adroddiad gael ei ddiwygio, fel y nodir uchod, y byddai angen gwneud
diwygiadau pellach drwy'r holl ddogfen i adlewyrchu hyn; felly, byddai
Swyddogion yn gofyn am roi awdurdod dirprwyedig i Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru, mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd, i wneud newidiadau i'r
derminoleg er mwyn sicrhau bod y pwynt hanfodol hwn yn cael ei gyfleu drwy
weddill y Cynllun Corfforaethol.
Wrth ddarparu trosolwg o'r
adroddiad, amlygwyd bod yr Amcanion Lles yn aros yn ddigyfnewid; roedd y camau
gweithredu i'w cyflwyno wedi'u hadolygu a'u mireinio.
PENDERFYNWYD:
Cefnogwyd y diwygiad canlynol i'r argymhelliad gan
aelodau Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru:
Bod y drydedd fersiwn ddrafft o Gynllun
Corfforaethol 2023 - 2028 yn cael ei chymeradwyo, yn amodol ar y canlynol:
1.
Bod y ddau bwynt bwled
ynghylch Sero Net ar dudalen 90 yn cael eu diwygio i ddarllen: "Mae'r
cyhoedd wedi gwneud sylw ar yr angen i sicrhau cydbwysedd a chymesuredd tuag at
gyflawni Sero Net a chyflwyno effeithiau cadarnhaol i'r economi, a bod angen i
dargedau Sero Net fod yn gymesur â'r ardal leol heb effeithio ar yr economi
leol nac achosi tlodi ychwanegol. Fodd bynnag, erys Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru yn ymrwymedig i dargedau Sero Net a bydd yn sicrhau bod y
fath faterion yn cael eu hystyried, ynghyd â'r holl effeithiau eraill, fel rhan
o'n proses Asesiad Effaith Integredig.
2.
Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i Brif Weithredwr Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, mewn
ymgynghoriad â'r Cadeirydd, i ddiweddaru'r Cynllun Corfforaethol i sicrhau bod
paragraff un yn cael ei adlewyrchu yng ngweddill y ddogfen.
Dogfennau ategol: