Agenda item

Mannau gwefru preswyl ar y stryd ar gyfer cerbydau trydan

Cofnodion:

Nododd Michael Roberts, Pennaeth Gofal Strydoedd, fod gan y cyngor bolisi am y mater hwn. Mae'r tîm datgarboneiddio newydd am i'r cyngor fod yn fwy rhagweithiol, felly mae'r adroddiad hwn yn awgrymu newid bach i gymryd rhan mewn treial os yw'n bosib.

 

Nododd y Cadeirydd fod Aelodau wedi mynegi’r rhesymau dros beidio â chymryd rhan mewn treial yn y cyfarfod craffu diwethaf, ac roedd yn falch bod y cyngor bellach yn bwriadu cymryd rhan yn y treial.

 

Nododd yr Aelodau mai argymhelliad B yw dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio i benderfynu ar leoliad a manylion unrhyw gynllun peilot. Roedd yr Aelodau eisiau craffu ar unrhyw gynllun peilot yn fanylach oherwydd cymhlethdodau posib a gwrthddywediadau yn y ddogfen gwefru cerbydau trydan.

 

Roedd yr Aelodau'n teimlo bod y dewis sianel yn codi cwestiynau ynghylch perchnogaeth tir a sut i reoli fflatiau a phalmentydd. Maent yn credu bod diffyg manylion ynghylch parhau â'r cynllun peilot.

 

Roedd Aelodau hefyd yn teimlo bod y templed ar gyfer cytundeb yn amwys iawn.

 

Mae Aelodau'n credu y byddai preswylwyr mewn ardaloedd y cynllun peilot yn cefnogi treial am ddim oherwydd argaeledd cynyddol cerbydau trydan, hyd yn oed os nad ydynt yn berchen ar un ar hyn o bryd.

 

Mae Aelodau am drafod hyn eto yn y dyfodol unwaith y mae cynllun clir sy'n nodi cynnwys y treial, yr ardaloedd dan sylw, a'r costau cysylltiedig.

 

Gofynnwyd i swyddogion a oeddent wedi amcangyfrif y gost o osod sianeli a phwy fyddai'n ysgwyddo'r gost honno. Mae Aelodau'n credu y byddai'r rhan fwyaf o dai a fyddai'n rhan o'r cynllun yn dai teras neu fflatiau sy'n cael eu meddiannu gan bobl ar incymau llai fel arfer. Felly, os yw preswylwyr yn ysgwyddo'r gost, bydd yn gost anodd ychwanegol iddynt.

 

Mae Aelodau o'r farn bod angen iddynt wybod yn gynnar, hyd yn oed cyn y cynllun peilot, o ble y bydd y costau'n dod a sut y bydd y cyllid yn cael ei reoli.

 

Dywedodd Mike Roberts fod swyddogion yn cydweithio gyda chynghorau eraill ac yn arsylwi ar dueddiadau ar draws y DU. Pwysleisiodd y byddai profiad uniongyrchol o'r treial yn helpu i ateb cwestiynau. Maent yn disgwyl i'r treial fod ar raddfa fach, a'r preswylwyr fydd yn talu'r costau fel arfer.

 

Nododd swyddogion fod Blaenau Gwent yn talu costau gosod ar gyfer nifer cyfyngedig o aelwydydd yn ardal y treial, ac y gallai'r cyngor hwn ystyried gwneud hynny. Mae'r gost derfynol yn dibynnu ar y datrysiad a ddefnyddir yn y treial. Er enghraifft, mae'r datrysiad Kerbo Charge yn costio tua £1,000 fesul eiddo.

 

Mae buddsoddi mewn cyfleuster gwefru cartref yn cynnig y fantais o gostau uned is. Mae gwefru gartref dros nos yn costio tua 7 ceiniog y kWh, ond gall pwyntiau gwefru masnachol gostio hyd at 90 ceiniog y kWh. Felly, mae cael cyfleuster gartref yn cynnig arbedion sylweddol ar gyfer gwefru cerbydau'n barhaus.

 

Defnyddiodd yr Aelodau gynlluniau cwrbyn isel fel cymhariaeth gan ddweud bod rhai pobl yn talu am y cwrbyn, ond mae eraill yn dod o hyd i ffyrdd o'i osgoi. Os yw'r gost yn rhy uchel, efallai na fydd pobl yn cymryd rhan.

 

Nododd Aelodau, gyda cheir petrol a diesel yn cael eu dileu'n raddol, bydd angen man gwefru cerbydau trydan ar bob eiddo yn y pen draw. Efallai y byddai'n well cynllunio ar gyfer pob tŷ a phosibilrwydd nawr. Yn ogystal, os mai gwefru datodadwy yw technoleg y dyfodol, gallai llawer o bobl ailwefru dan do heb yr angen am gysylltiadau cebl, sy'n golygu y bydd cynlluniau presennol yn darfod.

 

Roedd Aelodau'n teimlo bod £1,000 fesul eiddo’n ddrud i breswylwyr. Nododd y Cadeirydd ei fod yn anodd penderfynu faint i'w fuddsoddi mewn dyfodol ansicr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hurley, Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thwf Economaidd, fod cwmni lleol wedi cysylltu â'r cyngor ynglŷn â threialu ei gynnyrch yn y Ceiau, heb unrhyw effaith ar gostau. O ran diogelu at y dyfodol, mae ymgynghoriadau gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch rheoli adeiladu a chynllunio. Mae'r ymgynghoriadau'n awgrymu y bydd angen i unrhyw eiddo newydd neu unrhyw eiddo sy'n cael ei uwchraddio'n sylweddol gynnwys gwefru cerbydau trydan fel rhan o'r cais.

 

Yr unig gyfyngiad yw capasiti'r Grid Cenedlaethol. Maent bellach yn gofyn i eiddo newydd gael cyflenwad tri cham er mwyn gwella capasiti. Mae mentrau blaengar sy'n cynnwys llawer o randdeiliaid, ond mae cymhlethdodau hefyd.

 

Cadarnhaodd Mike Roberts fod y tîm Datgarboneiddio’n awyddus i gymryd rhan yn y treialon. Mae amrywiaeth o atebion, gan gynnwys dewis gyli, y gallai swyddogion ei brofi yn y depo a rhoi cynnig ar ddewis gwahanol ar y stryd er mwyn cael profiad uniongyrchol. Mae swyddogion yn credu mai’r cwestiwn allweddol yw a yw'r awdurdod eisiau bod yn rhan o dreial i gyfrannu at y ddadl neu aros am arweiniad cenedlaethol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y dewis sy'n cael ei ystyried ar gyfer y treial, gan nad yw'r adroddiad yn nodi hyn.

 

Esboniodd swyddogion nad ydynt wedi penderfynu ar y dewis ar gyfer y treial. Os yw dewis penodol eisoes yn cael ei dreialu'n helaeth, gall y cyngor ddewis un gwahanol i gyfrannu at y ddadl sy'n esblygu.

 

Gofynnodd y Cadeirydd am esboniad o'r opsiynau Kerbo Charge a gyli a chafodd ei hysbysu fod Kerbo Charge yn frand o system gyli gyda chaead.  Mae'r cebl yn cael ei gloi yn y cerbyd wrth wefru ac ni ellir ei dynnu allan. Ar ôl gwefru'r cerbyd, gellir tynnu'r cebl a gosod y caead yn ei le.  Mae systemau eraill megis cydosodiad palmant rwber sy'n agor er mwyn cysylltu'r cebl, pwyntiau gwefru ar ffurf piler y gellir eu datod sy'n cloi i mewn i socedi yn y ffordd, a fersiynau uwchben sy'n siglo allan er mwyn cadw'r cebl uwchben cerddwyr.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am y ffurflen templed ar gyfer trwyddedai, yn benodol a fyddai'n cael ei chofrestru i'r cyfeiriad neu'r preswylydd. Gofynnodd yr Aelodau hefyd a fyddai unrhyw gostau ynghlwm wrth drosglwyddo'r drwydded wrth brynu tŷ gyda gyli neu system sydd eisoes ar waith.

 

Gofynnwyd i swyddogion a oedd cynlluniau i gynnwys y gosodiadau hyn yn ystod gwaith ailwynebu palmant llawn yn y dyfodol. Gofynnwyd hefyd a fyddai'r cyngor yn hyfforddi timau presennol neu'n defnyddio cwmni allanol ar gyfer y gwaith gosod.

 

Hysbyswyd yr Aelodau y gallai'r cyngor gynhyrchu incwm drwy hyfforddi criwiau cyfalaf i osod y systemau a chodi tâl, fel y maent yn ei wneud gyda chyrbau isel. Fodd bynnag, byddai angen i gontractwyr gael eu hardystio fel rhai medrus i wneud y gwaith gosod er mwyn sicrhau safonau adeiladu.  Byddai'r drwydded awdurdod priffyrdd ar gyfer system bresennol yn cael ei chynnig i'r preswylydd newydd. Ni fyddai'n rhaid iddyn nhw ei derbyn, ond byddai ar gael iddyn nhw ei meddiannu.

 

Roedd swyddogion yn teimlo y byddai profiad uniongyrchol yn ddefnyddiol, ac y byddai presenoldeb sianeli gyli yn ychwanegu cymhlethdod gan na fyddai mor syml â chynllunio troedffordd ac yna ail-wynebu gan y byddai mwy o gymhlethdodau peirianneg.  Mae hynny'n rhywbeth y gall y treialon mewn mannau eraill ei ddangos.

 

Gofynnodd yr Aelodau ba adran neu gyfarwyddiaeth a fyddai'n ymdrin ag unrhyw broblemau, cwynion neu waith cynnal a chadw ar ôl gosod y sianeli.

 

Esboniodd swyddogion y byddai'r cyngor, fel yr awdurdod priffyrdd, yn meddu ar y drwydded ac yn gyfrifol amdani, ac y byddai'n berthnasol i gyfarwyddiaeth yr amgylchedd. Mae'r Cyfarwyddwr yn ystyried cyfuno'r holl swyddogaethau priffyrdd o dan un gyfarwyddiaeth, ac os yw hynny'n digwydd, y gyfarwyddiaeth honno fyddai'n gyfrifol.

 

Roedd yr Aelodau eisiau i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio ystyried y treial mewn cymysgedd o dai modern a thai teras hŷn fel y gallwn weld darlun gwell.

Esboniodd swyddogion fod ganddynt geisiadau a wrthodwyd o'r blaen, acmae'n debyg y byddent yn dechrau drwy edrych i weld a oedd treial penodol sy'n addas i'r rheini a wrthodwyd o'r blaen.

 

Nododd Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thwf Economaidd fod y cyngor wedi cael cynnig cysylltiad gwefru golau stryd gan fasnachfraint trydydd parti. Mae'n system gymhleth, a theimlodd fod y fasnachfraint yn codi mwy fesul uned oherwydd ei bod eisiau gwneud arian ohoni. Nododd nad oedd y costau gosod mor uchel a'i fod yn ddewis arall y gellid ei ystyried.

 

Gofynnodd yr Aelodau a fydd ehangder y treial hwn yn ymwneud ag atebion gwefru wedi'u cysylltu'n uniongyrchol ag eiddo'r preswylydd, neu a fydd opsiynau gwefru ar y stryd megis gosod pileri cyngor gyda mecanwaith ailwefru.

Esboniodd swyddogion fod gwefru y tu allan i'r cartref yn ymwneud â chysylltiad â'r eiddo.  O ran cysylltiad â goleuadau stryd yn CNPT maent i gyd wedi'u lleoli yng nghefn y droedffordd ar hyn o bryd ac os ychwanegir cysylltiad atynt, yna byddai'r un broblem yn digwydd gyda cheblau’n llusgo ar draws y troedffyrdd.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod gan y cyngor Strategaeth Isadeiledd Cerbydau Di-allyriadau, sef strategaeth ehangach ar gyfer gwefru cerbydau mewn mannau cyhoeddus ar y stryd y codir tâl amdano, sy'n nodi'r hyn y mae'r cyngor yn ei wneud yn fwy cyffredinol.

 

Dywedodd David Griffiths, Pennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth, na fydd gan bobl leoedd parcio dynodedig ar y stryd.  Efallai ybydd gan rai preswylwyr naill ai lle parcio unigol i'r anabl neu le parcio i breswylwyr yn unig eisoes. Maeangen i fannau gwefru dynodedig, gorfodi a rheoleiddio gael eu hystyried mewn perthynas ag isadeiledd gwefru.

 

Gofynnodd Aelodau a ellid talu'r £1,000 fesul eiddo mewn rhandaliadau.

 

Nid oedd hyn wedi cael ei ystyried.  Roedd swyddogion yn teimlo y byddai'n ddefnyddiol rhoi awdurdod dirprwyedig ar gyfer y treial i'r cyfarwyddwr, gan ganiatáu iddo fynd i'r afael â materion annisgwyl. Byddai awdurdod dirprwyedig yn helpu i adolygu ac ymateb i geisiadau a wrthodwyd yn flaenorol yn seiliedig ar ddata sy'n dod i'r amlwg.

 

Roedd Aelodau'n teimlo bod pryderon diogelwch, megis dwyn ceblau, yn bwysig, yn enwedig gyda gwefru dros nos a cheblau'n cael eu gosod ar draws llwybrau troed. Gofynnwyd a oedd y mater hwn wedi cael ei ystyried cyn y treial, ac a eir i'r afael â'r mater yn ystod y treial?

 

Dywedodd swyddogion fod ceblau gwefru yn cloi i mewn i gerbydau a dylid eu tynnu allan pan nad ydynt yn cael eu defnyddio i atal lladrad. Preswylwyr sy'n gyfrifol am symud y ceblau. Bydd treialon yn darparu profiad uniongyrchol os yw'r awdurdod yn cymryd rhan.

 

Mae Aelodau'n credu y gallai fod swyddogion yn bychanu'r risg a achosir gan ladron ceblau, sy'n aml yn targedu is-orsafoedd trydanol a gorsafoedd pŵer.

 

Roedd yr Aelodau'n croesawu'r treial ond mynegwyd pryderon am bobl sydd eisoes yn defnyddio ceblau sy’n llusgo yn eu wardiau, sy'n peri risgiau i bobl anabl ac eraill. Gofynnwyd pa fesurau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion hyn.  Gwnaethant awgrymu dull abwyd a ffon gan efallai na fydd rhai yn fodlon talu'r £1,000 os ydynt yn gweld nad yw pobl sy'n gadael ceblau sy’n llusgo ar y droedffordd yn cael eu cosbi.

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oes mecanweithiau adrodd cywir i nodi achosion o bobl yn gadael ceblau sy’n llusgo ar y droedffordd ac os oes darlun clir o ble mae hyn yn digwydd ar draws y sir. Awgrymodd y dylid cynnwys hyn yn y treial a chysylltu â phobl sy'n aml yn defnyddio ceblau sy’n llusgo ar y droedffordd er mwyn dod o hyd i atebion.

 

Cynghorodd swyddogion eu bod yn ymateb i gwynion ond nad ydynt yn arolygu strydoedd am geblau yn rhagweithiol ac nid oes ganddynt ddata ar y mater hwn, er bod ganddynt bwerau gorfodi ar gyfer ceblau sy’n llusgo.

 

Roedd y Cadeirydd yn teimlo y gallai ychwanegu dewis penodol at yr offer adrodd ar-lein fel y gall pobl adrodd am geblau gwefru cerbydau trydan sy’n llusgo helpu i gasglu data heb yr angen am arolwg llawn.

 

Nododd Aelod y Cabinet fod y rhan fwyaf o geblau sy’n llusgo yn 3 chilowat a gellir eu plygio i mewn i socedi domestig, yn aml gan ddefnyddio ceblau estyn. Y cymhelliant ar gyfer gwefrwr cerbyd trydan a osodwyd yn iawn, a all fod yn 8 neu hyd yn oed 11 cilowat, yw bod yr amser gwefru'n sylweddol gyflymach.

 

Yn dilyn craffu, cefnogwyd argymhelliad a) i fynd gerbron y Cabinet

Yn dilyn craffu, cefnogwyd argymhelliad b) i fynd gerbron y Cabinet

Yn dilyn craffu, cefnogwyd argymhelliad c) i fynd gerbron y Cabinet

 

Yn dilyn craffu, cyflwynwyd argymhelliad.

 

Cefnogwyd yr argymhelliad fel y nodir isod i fynd gerbron y Cabinet.

 

d) Cyn rhoi cynllun peilot ar waith, cyflwynir adroddiad sy'n cynnwys manylion lleoliad a chostau i Bwyllgor Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun i graffu arno.

Dogfennau ategol: