Cofnodion:
Ystyriodd yr aelodau yr adroddiad fel a
ddosbarthwyd fel atodiad i'r agenda.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau y cytunwyd ar y
blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol
De-Orllewin Cymru 2025/2026 ym mis Ionawr, ar y cyd â'r gyllideb.
Nodwyd nad yw'r amcanion lles wedi newid, felly ni
chafwyd unrhyw ymgynghoriad pellach ynghylch y rhain. Fodd bynnag, diweddarwyd
y camau gweithredu angenrheidiol i gyflwyno'r amcanion lles yn yr adroddiad a
gyflwynwyd yn y cyfarfod.
Cododd yr aelodau bryderon ynghylch y ddogfen a'r
iaith wrthdrawiadol a ddefnyddir mewn perthynas â thargedau sero net. Tynnodd
yr aelodau sylw'r swyddogion at y datganiadau sy'n amlinellu'r angen i sicrhau
cydbwysedd a chymesuroldeb tuag at gyflawni allyriadau sero net heb effeithio
ar yr economi. Mae'r datganiadau'n nodi bod angen i gyflawniad allyriadau sero
net fod yn gymesur â'r ardal heb effeithio ar yr economi leol a heb ychwanegu
tlodi. Mynegodd yr aelodau eu pryder bod tôn y ddau ddatganiad yn gwrthdaro â'r
cyfleoedd mawr ar gyfer manteision economaidd lleol a rhanbarthol o ganlyniad i
ddiwydiannau gwyrdd. Roedd hefyd yn ymddangos bod y datganiadau'n diystyru'r
gydnabyddiaeth o'r gwelliannau i ansawdd bywyd a geir o ganlyniad i bethau fel
cartrefi sydd wedi'u hinswleiddio'n well, stoc tai a sicrwydd ynni gwell
oherwydd ynni gwyrdd. Roedd aelodau'n awyddus i ddeall y cyfiawnhad, gan
gynnwys y datganiadau yn y cynllun, gan mai ynni gwyrdd sy'n rhoi'r cyfle gorau
am dwf.
Nododd swyddogion fod y datganiadau wedi'u cynnwys
fel rhan o'r ymatebion i'r ymgynghoriad. Mynegodd yr aelodau eu pryderon bod y
ddogfen yn rhoi negeseuon sy'n gwrthdaro ynghylch ymrwymiad y rhanbarth tuag at
allyriadau sero net a denu buddsoddiadau ar gyfer ynni gwyrdd.
Roedd y ddogfen hefyd yn amlinellu'r gwaith a wneir
gan y Cyd-bwyllgor Corfforedig gyda Sero Net Cymru i hyrwyddo'r rhanbarth i
fuddsoddwyr posib. Fodd bynnag, mynegodd yr aelodau eu pryderon bod y datganiad
hwn yn groes i'r datganiadau sydd wedi'u cynnwys o'r ymgynghoriad.
Er bod yr aelodau'n derbyn bod angen cydnabod yr
ymatebion a dderbyniwyd fel rhan o'r ymgynghoriad, mynegwyd pryder ynghylch eu
cynnwys yn y ddogfen, gan fod hyn yn cyflwyno safbwyntiau gwrthdrawiadol o'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig. Gofynnodd yr aelodau wrth y swyddogion am ystyried yn
ddwys a ddylid cael gwared ar y datganiadau sy'n cyflwyno darlun amwys o
amcanion y Cyd-bwyllgor Corfforedig.
Cyfeiriodd yr aelodau at y Cynllun Datblygu
Strategol a amlinellir yn y ddogfen. Nodwyd y byddai hyn yn annhebygol o wneud
cynnydd nes bod cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ei ddatblygiad.
Nododd y swyddogion fod y Cyd-bwyllgor Corfforedig yn drafftio llythyr at
Ysgrifennydd y Cabinet i amlinellu'r pryderon a'r heriau a wynebir. Cytunodd y
pwyllgor eu bod am gymeradwyo eu cefnogaeth o'r llythyr hwn a bod Llywodraeth
Cymru'n methu â chydnabod y gofyniad angenrheidiol o ddarparu cyllideb ddigonol
i gefnogi'r gwaith o ddrafftio a chyflwyno'r Cynllun Datblygu Strategol.
Yn dilyn craffu, cymeradwyodd yr aelodau fersiwn
ddrafft rhif tri o Gynllun Corfforaethol 2023 - 2028 i'w gymeradwyo gan
Gyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru, yn ogystal ag ychwanegu
llythyr a anfonwyd at y Cyd-bwyllgor gan amlinellu sylwadau'r pwyllgor craffu
mewn perthynas â'r adroddiad hwn.
Dogfennau ategol: