Dymchwel Caewern House ac adeiladu 36 o fflatiau preswyl fforddiadwy mewn 5
o flociau 3 llawr ynghyd â mynediad, lle parcio a llwybrau troed, draeniad, lle
agored, tirlunio a gwaith cysylltiedig, gan gynnwys mannau gwefru cerbydau
trydan, storfeydd biniau/man storio beiciau, paneli solar PV a phympiau gwres
ffynhonnell aer yn Caewern House, Dŵr-Y-Felin Road, Caewern SA10 7RH.
Cofnodion:
Rhoddodd Swyddogion gyflwyniad i’r Pwyllgor
Cynllunio ar y cais hwn.
Dymchwel
Caewern House ac adeiladu 36 o fflatiau preswyl fforddiadwy mewn 5 o flociau 3 llawr
ynghyd â mynediad, lle parcio a llwybrau troed, draeniad, lle agored, tirlunio
a gwaith cysylltiedig, gan gynnwys mannau gwefru cerbydau trydan, storfeydd
biniau/man storio beiciau, paneli solar PV a phympiau gwres ffynhonnell aer yn
Caewern House, Heol Dŵr-Y-Felin, Caewern SA10 7RH.
Roedd yr Aelodau Ward Lleol (y Cynghorwyr Jo Hale a
Chris Williams) wedi gofyn bod y cais yn cael ei benderfynu gan y Pwyllgor
Cynllunio, ac roeddent yn bresennol i roi eu sylwadau yn y cyfarfod.
Rhoddodd siaradwr cofrestredig ei wrthwynebiadau
i'r cais, ac arferodd Asiant yr Ymgeisydd ei hawl i ymateb, i gefnogi'r cais.
Ar y pwynt hwn yn y cyfarfod, cynigiwyd ymweliad
safle ar gyfer Cais Rhif P2024/0301 – Caewern House, Heol Dŵr-Y-Felin,
Caewern SA10 7RH.
Yn dilyn canlyniad y bleidlais, ni chefnogwyd y cynnig am ymweliad safle.
PENDERFYNWYD: Bod Cais Rhif P2024/0301 – Caewern House, Heol Dŵr-Y-Felin, Caewern
SA10 7RH yn cael ei gymeradwyo, yn unol ag argymhellion Swyddogion.
Dogfennau ategol: