Cofnodion:
Rhoddodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol,
Iechyd a Thai wybod i'r aelodau fod y mesurau perfformiad yn yr adroddiad yn
cyfleu'r wybodaeth am berfformiad a nodwyd at ddibenion craffu. Gellir darparu
rhagor o ddata, os bydd y Pwyllgor Craffu'n gofyn amdano.
Gwnaeth y swyddogion gyflwyno'r naratif i'r aelodau
ynghylch pob un o'r mesurau a ddarperir yn yr adroddiad:
Mesur 1 – Canran yr
oedolion sy'n cael eu hatal rhag bod yn ddigartref
Mae'r dangosydd perfformiad allweddol hwn yn bwysig er mwyn monitro'r broses o
roi mesurau gwella ar waith i atal rhagor o bobl rhag bod yn ddigartref ac i
reoli'r galw. Yn dilyn ailstrwythuro'r tîm Opsiynau Tai i atgyfnerthu cymorth
atal, mae'r canlyniadau wedi gwella'n sylweddol eleni o'u cymharu â'r flwyddyn
flaenorol. Mae'n hollbwysig monitro'r ffigurau hyn yn barhaus er mwyn atal
cynifer o bobl â phosib rhag bod yn ddigartref.
Gwnaeth yr aelodau
gyfeirio at y ffigur canrannol yn yr adroddiad a chwestiynu a oedd y ganran
wedi cynyddu neu ostwng.
Cadarnhaodd y
swyddogion fod y ffigur yn seiliedig ar nifer y bobl y mae arnom ddyletswydd
statudol i'w hatal rhag bod yn ddigartref, a bod y data’n amlinellu'r achosion
llwyddiannus ymysg y nifer hwnnw. Darperir rhagor o wybodaeth i'r aelodau am y
ffigurau diweddaraf.
Nododd yr aelodau y
gallai gynnwys y ffigurau yn yr adroddiad, yn hytrach na chanrannau, gyfleu'r
llwyddiannau yn fwy manwl gywir.
Cytunodd Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai y byddai ffigurau’n cael eu cynnwys ar
ben y canrannau ac y byddai tueddiadau hwy'n cael eu darparu at ddibenion
craffu.
Mesur 2 - Nifer
cyfartalog o ddiwrnodau i ddarparu Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl o'r pwynt
cyswllt cyntaf i'r broses ardystio
Mae'r mesur yn
archwilio'r galw a'r pwysau ar Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl. Cyflwynwyd
adroddiad i'r Pwyllgor Craffu'n ddiweddar a dynnodd sylw at y pwysau cyllidebol
a'r amserau aros hir ar gyfer cymhorthion ac addasiadau angenrheidiol.
Awgrymwyd nifer o gynigion i helpu i reoli'r galw yn well. Mae'r dangosydd
perfformiad allweddol hwn yn bwysig er mwyn asesu effaith unrhyw newidiadau a
wneir gan swyddogion a'r cyngor, er mwyn gwella mynediad pobl â'r anghenion
mwyaf at Grantiau Cyfleusterau i Bobl Anabl.
Mesur 3 - Comisiynu:
Nifer yr oriau o ofal cartref allanol (18+)
Mae effeithlonrwydd y
system broceriaeth ar gyfer gofal cartref wedi rhagori ar y farchnad allanol.
Nid oes gwybodaeth yn yr adroddiad am uned ailalluogi Trem y Glyn, a allai
arafu'r trawsnewid i ofal preswyl a lleihau dibyniaeth ar ofal cartref o bosib.
Drwy ddarparu cyfnod o ailalluogi, bydd pobl yn gallu dychwelyd adref gyda
phecyn gofal llai neu heb becyn gofal o gwbl.
Mae'r data yn waith ar
y gweill ac yn darparu gwybodaeth sy'n ymwneud ag oriau y mae'r gyllideb yn
darparu ar eu cyfer, ond nid yw'n darparu'r darlun llawn o'r gwaith arfaethedig
i ddatrys problemau. Bydd rhagor o adroddiadau ar gael yn yr hydref.
Holodd yr aelodau a
oedd digon o welyau arfaethedig ar gyfer Trem y Glyn.
Dywedodd y swyddogion
fod dadansoddiad wedi'i gynnal mewn perthynas â nifer y gwelyau y mae eu
hangen, yn seiliedig ar fodelau mewn awdurdodau cyfagos. Mae'r model yn gywir
ar gyfer anghenion y boblogaeth, ond os yw'r galw yn cynyddu, gellir
ailystyried hyn.
Mesur 4 - Gwasanaethau
Cymunedol Integredig: Nifer y bobl mewn cartrefi gofal (preswyl a nyrsio) 18+
Mae 30 yn fwy o bobl yn derbyn gofal preswyl a nyrsio,
gan arwain at faich ariannol o £1.5m nad oedd y gyllideb wedi darparu ar ei
gyfer.
Mesur 5 - Nifer y plant sy'n derbyn gofal
Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc
wybod i'r aelodau fod nifer y plant y mae angen gofal arnynt wedi lleihau, gan
bwysleisio bod y gwasanaethau ymyrryd yn gynnar ac atal yn gadarn. Tynnwyd sylw
at bwysigrwydd darparu cymorth i ofalwyr maeth ac adsefydlu plant gartref. Ar
gyfer plant hŷn, ffefrir prosesau dychwelyd adref wedi'u cynllunio yn
hytrach na rhai heb eu cynllunio, a all arwain at ganlyniadau gwael. Mae modd
cyflawni'r targed ar gyfer parhau i leihau'r niferoedd. Crybwyllodd y
swyddogion lwyddiant y rhaglen drawsnewid, sydd wedi cyflawni’r targed ar gyfer
gofalwyr cam-i-lawr i blant mewn gofal preswyl. Gall y swyddogion roi mwy o
wybodaeth i aelodau am y canlyniadau cadarnhaol, os yw'n briodol.
Cytunodd y pwyllgor y
gellid cyflwyno data perfformiad yn y dyfodol drwy siartiau, gyda swyddogion yn
cyflwyno gwybodaeth ar lafar yn y cyfarfod, i ysgogi trafodaeth. Gellir
addasu'r dull hwn yn y dyfodol, yn ôl yr angen.
Mesur 6 – Nifer y Plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant
Nododd Pennaeth y
Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc fod nifer y plant ar y Gofrestr Amddiffyn
Plant wedi bod yn uchel iawn yn hanesyddol. Mae hyn wedi lleihau
effeithiolrwydd gweithwyr cymdeithasol a chynlluniau cymorth ar gyfer teuluoedd
y mae angen cynllun amddiffyn plant ysgrifenedig arnynt, mewn achosion lle mae
plentyn yn dioddef neu'n debygol o ddioddef niwed sylweddol. Mae gwaith wedi'i
wneud gyda phartneriaid a'r Gwasanaeth Adolygu Cynadleddau i ailasesu trothwyon
niwed sylweddol a’r diffiniad ohono. Yn flaenorol, roedd plant yn cael eu
cynnwys ar y Gofrestr Amddiffyn Plant oherwydd bod partneriaid yn credu ar gam
ei bod yn angenrheidiol derbyn cymorth gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r
cydweithrediad parhaus â phartneriaid ac ymdrechion mewnol wedi meithrin
gweithlu hyderus a pherthnasoedd cryf â phartneriaid, gan gynnwys ar y gofrestr
y plant hynny sy'n bodloni'r meini prawf yn unig.
Er ei bod yn ymddangos bod y nifer yn cynyddu, esboniodd y swyddogion ei bod yn
bwysig ystyried y trywydd dros y 18 mis diwethaf. Mae'r nifer yn amrywio'n
naturiol, ac mae'r cynnydd diweddar yn unol ag amrywiadau disgwyliedig. Yn
ymarferol, nid oes arwydd o unrhyw broblem benodol o ran ymarfer, a bydd hyn yn
cael ei fonitro'n barhaus. Ar hyn o bryd, mae'r nifer wedi gostwng i 74, gan
ddangos bod y nifer yn parhau i fod yn gymharol sefydlog dros amser.
Trafododd Cyfarwyddwr
y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai bwysigrwydd darparu gwybodaeth
fanylach am blant a roddir ar y Gofrestr Amddiffyn Plant. Awgrymwyd y dylid
rhannu'n gategorïau megis cam-drin corfforol, cam-drin rhywiol, cam-drin
emosiynol, ac esgeulustod. Byddai'r dadansoddiad manwl hwn yn cynnig mwy o
ddealltwriaeth. Cytunodd y pwyllgor ar yr awgrym hwn ar gyfer adroddiadau yn y
dyfodol.
Mesur 7 – Nifer y plant sy'n derbyn gofal a chymorth
Pwysleisiodd Pennaeth
y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc bwysigrwydd darparu cymorth cynnar i
deuluoedd mewn angen, yn hytrach na mabwysiadu ymagwedd fwy caled, a all achosi
i sefyllfaoedd waethygu. Nodwyd bod nifer y teuluoedd y mae angen cymorth
arnynt wedi cynyddu ers COVID-19, a bod llawer mwy o deuluoedd bellach yn
ceisio cymorth nag yn y gorffennol. Mae nifer presennol y teuluoedd sy'n derbyn
cymorth wedi haneru ers 2012.
Rhoddodd y swyddogion ragor o fanylion am yr amrywiaeth eang o gymorth sydd ar
gael i deuluoedd, ni waeth sut maent yn ymwneud â’r gwasanaeth. Mae'r cymorth
yn canolbwyntio ar fagu plant, a allai gynnwys helpu i wella arferion, ffiniau,
cefnogi teuluoedd i sicrhau bod plant yn dychwelyd i'r ysgol, ailgyflwyno
teuluoedd i weithgareddau cymunedol, helpu teuluoedd gyda'u hamgylchiadau
cartref a chefnogi teuluoedd i gynllunio a choginio prydau iach. Mae
cysylltiadau agos â darpariaethau Dechrau'n Deg, gofal plant, grwpiau meithrin,
grwpiau mamau a babanod a llyfrgelloedd ar gyfer gwaith ymyrryd yn gynnar.
Mae'r gwasanaeth yn
cefnogi lles emosiynol pobl ifanc drwy raglenni grŵp ac unigol sy'n ceisio
gwella hyder, hunan-barch a lles cyffredinol. Mae'r rhaglenni hyn hefyd yn
annog cyfranogiad mewn gweithgareddau cymunedol, sy'n arbennig o bwysig ar ôl COVID-19.
Mae gwaith yn cael ei wneud gyda phartneriaid ym maes Diogelwch Cymunedol a'r
Gwasanaeth Ieuenctid i helpu pobl ifanc yn gorfforol i ymgysylltu â'u
cymunedau. Darperir cymorth i wella amgylchiadau cartref plant a phobl ifanc,
gan gynnwys bwyta'n iach a rheoli ymddygiad arddegwyr i helpu pobl ifanc i aros
gyda'u teuluoedd. Defnyddir technegau magu plant fel rhwystro heb drais,
chwarae sy'n seiliedig ar berthnasoedd, a gwella perthnasoedd rhwng rhieni a
phlant drwy gyfryngu. Mae'r cymorth a gynigir wedi'i deilwra i anghenion pob
teulu, gan ddefnyddio sgiliau staff mewn modd creadigol i sicrhau cymorth
cynhwysfawr.
Gofynnodd yr aelodau a
oedd y cymorth i deuluoedd ynghylch ailgylchu a gwastraff yn cael ei ddarparu
gan y Gwasanaethau Cymdeithasol neu dîm yr Adran Gwastraff.
Cadarnhaodd y
swyddogion fod gwaith yn cael ei wneud gan wahanol adrannau yn yr awdurdod. Mae
cysylltiadau agos â'r Adran Gwastraff, er mwyn sicrhau bod gan deuluoedd yr
wybodaeth a'r offer priodol sy'n ymwneud â chasgliadau gwastraff ac ailgylchu.
Rhoddodd Cyfarwyddwr y
Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai wybod i'r aelodau fod y data'n cael ei
goladu oherwydd bod y Gwasanaethau Plant wedi wynebu heriau sylweddol yn y
gorffennol pan gafodd y system ei gorlethu. Roedd disgwyl i'r ffigurau ostwng
rhwng 600 a 750 ond pe bai hyn yn cynyddu, byddai'n dangos bod mwy o bwysau ar
weithwyr cymdeithasol, bod gwasanaethau'n llai ymatebol, a bod y system wedi'i
gorlethu o bosib. Felly, mae'n hanfodol monitro'r ffigurau hyn yn y dyfodol.
Gwnaeth y swyddogion
hysbysu’r aelodau fod y Tîm am y Teulu'n dîm ar wahân sy'n tyfu, sy'n
gysylltiedig â Theuluoedd yn Gyntaf ac sy'n darparu gwasanaeth ymyrryd yn
gynnar ac atal. Gall teuluoedd sy'n derbyn gofal a chymorth gamu i lawr i'r Tîm
am y Teulu i gael cymorth parhaus, a chamu yn ôl i fyny yn ôl yr angen. Gellir
darparu nifer y plant sy'n cael eu cefnogi gan y Tîm am y Teulu, ar gais. Mae'r
tîm hwn yn cynnig haen ychwanegol o gymorth cyn troi at wasanaethau statudol,
gan sicrhau llif parhaus o gymorth.
Mesur 8 – Canran y
plant sydd wedi'u hailgofrestru ar y Gofrestr Amddiffyn Plant
Cadarnhaodd y swyddogion mai dim ond un plentyn sydd
wedi'i ailgofrestru yn
ystod y flwyddyn ddiwethaf. Pan fo plentyn yn cael ei dynnu oddi ar y Gofrestr
Amddiffyn Plant, mae'n benderfyniad amlasiantaeth. Mae'r rheolwr a'r systemau data'n tynnu sylw at achosion penodol, sy’n cael
eu trafod wedyn at ddibenion cyfleoedd dysgu sy'n darparu adborth ar draws y
gwasanaeth a'r bartneriaeth. Mae hyn yn helpu i ddeall a rheoli risg yn y
dyfodol, gan ei wneud yn ddangosydd pwysig y dylid ei fonitro'n agos.
Holodd yr aelodau am
faint y bu'r plentyn oddi ar y Gofrestr Amddiffyn Plant cyn iddo gael ei
ailgofrestru.
Nid oedd yr wybodaeth hon ar gael, ond bydd swyddogion yn trefnu iddi gael ei
rhannu â'r pwyllgor.
Ailadroddodd y Cadeirydd bwysigrwydd y mesur hwn, er mwyn monitro tueddiadau.
Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.
Dogfennau ategol: