Cofnodion:
Rhoddodd y Pennaeth Tai a Chymunedau drosolwg byr
i'r aelodau o'r adroddiad yn y pecyn agenda. Mae'r adroddiad yn amlinellu
gweithgareddau a chyflawniadau Bwrdd Cynllunio'r Ardal ar gyfer blwyddyn
ariannol 2023-2024, ochr yn ochr â meysydd ffocws yn y dyfodol. Nodwyd bod
2023-2024 yn gyfnod lle cynhaliwyd rhaglen drawsnewid sylweddol; bu gwelliant
mewn nifer o feysydd a disgwylir rhagor o welliannau wrth i Fwrdd Cynllunio'r
Ardal barhau i roi'r rhaglen drawsnewid ar waith i wella gwasanaethau a
chanlyniadau i bobl.
Rhoddodd y swyddogion drosolwg o rai o'r
cyflawniadau a amlinellwyd yn yr adroddiad a meysydd gwaith parhaus.
Gofynnodd yr aelodau a fyddai meddyginiaeth
naloxone ar gael i'w defnyddio mewn cymunedau neu a oedd angen hyfforddiant
arbenigol i weinyddu'r feddyginiaeth.
Cadarnhaodd y swyddogion fod hyn wedi'i ystyried
ond mae anawsterau oherwydd y cylchedau cenedlaethol ar gyfer cynwysyddion
diffibrilwyr. Mae ystyriaeth yn cael ei rhoi i gynnwys blychau wrth ymyl
cynwysyddion diffibrilwyr, ond mae cyfyngiadau ariannol yn broblem. Mae
ymwybyddiaeth o fannau lle ceir llawer o orddosau ac mae staff sy'n gweithio yn
yr ardaloedd hyn wedi'u hyfforddi ac maent yn cario naloxone. Nodwyd na fyddai
unigolion mewn perygl o orddos yn gallu gweinyddu'r naloxone eu hunain ond fe'u
hanogir i gario'r citiau i helpu unigolion eraill a all orddosio.
Rhoddodd y swyddogion wybod i'r aelodau fod firysau
a gludir yn y gwaed wedi gostwng 22%; mae hyn wedi deillio o waith cadarnhaol.
Castell-nedd Port Talbot yw'r unig awdurdod yng Nghymru lle mae gwasanaethau'n
llwyddo i ddileu Hepatitis C yn unol ag amcanion Sefydliad Iechyd y Byd. Mae
nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau wedi gostwng 23% yng
Nghastell-nedd Port Talbot yn ystod y flwyddyn bresennol. Fodd bynnag, mae
Bwrdd Cynllunio'r Ardal yn parhau i fod yn wyliadwrus am fygythiadau newydd yn
y farchnad gyffuriau, fel opioidau synthetig cryf fel nitazines a xylazine. Mae
Bwrdd Cynllunio'r Ardal yn parhau i fonitro'r tueddiadau hyn a chydweithio â
phartneriaid i fynd i'r afael â'r heriau.
Holodd yr aelodau a allai'r gyfradd droseddu godi
oherwydd cost uwch rhai cyffuriau.
Dywedodd y swyddogion na fyddent yn gallu ateb y
cwestiwn hwn, ac y dylid ei ofyn i'w cydweithwyr ym maes plismona. Cadarnhaodd
y swyddogion fod potensial ar gyfer profion cyffuriau yn nalfeydd yr heddlu y
gellid eu cymharu ar draws teipoleg troseddu. Mae cymorth ar gael yn nalfeydd
yr heddlu i asesu a brysbennu pobl mewn perthynas â'u defnydd o gyffuriau neu
alcohol, felly gellir ystyried sut mae troseddu a marchnadoedd cyffuriau'n
dylanwadu ar ymddygiad y boblogaeth.
Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ynghylch y data,
ac a oedd un person yn cael ei gofnodi gan nifer o wasanaethau.
Mae Bwrdd Cynllunio'r Ardal wedi ymrwymo i wella
gwasanaethau a chanlyniadau i bobl, gan gydweithio i sicrhau cymorth i bawb.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd deall y darlun ehangach y tu ôl i
ddangosyddion perfformiad er mwyn ymateb yn effeithiol i anghenion sy'n newid.
Nod Bwrdd Cynllunio'r Ardal yw symleiddio gwasanaethau gydag un pwynt mynediad
a darparwr ar gyfer gwasanaethau clinigol ac anghlinigol erbyn diwedd y
flwyddyn. Cadarnhaodd y swyddogion fod pwynt cyswllt cyntaf yn y gwasanaethau
presennol, gyda rhif rhadffôn, ffurflen atgyfeirio ar-lein neu wasanaeth galw heibio.
Gofynnodd yr aelodau am eglurhad ynghylch
cyfleusterau preswyl sy'n gwrthod ailsefydlu pobl os yw eu cyflwr yn gwaethygu.
Cadarnhaodd y swyddogion, os yw iechyd person yn
dirywio yn ystod y broses ymgeisio, fod hyn yn cael ei ystyried cyn i berson
ddechrau cyfnod ailsefydlu preswyl, gan y gallai effeithio ar ei allu i
gwblhau’r cyfnod ailsefydlu'n llwyddiannus.
Mynegodd yr aelodau bryder ynghylch y gwahaniaeth
rhwng cyfraddau marwolaethau dynion a menywod, a'r cyfraddau marwolaeth uchel
yng Nghastell-nedd Port Talbot. Gofynnodd y Cadeirydd i gael gweld ystadegau
mewn perthynas â defnyddio cyffuriau sy'n gysylltiedig â phobl â chyflyrau
niwroamrywiol.
Cadarnhaodd y swyddogion fod yr ystadegau ar gyfer
cyfraddau marwolaethau dynion/menywod yn adlewyrchu'r darlun cenedlaethol:
roedd mwy o ddynion yn cymryd cyffuriau ac roedd menywod yn llai tebygol o
geisio cymorth. Ymgymerwyd â gwaith ar y pwnc hwn a rhoddwyd cyfres o
argymhellion ar waith yn yr Is-grŵp Lleihau Niwed; mae un maes ar gyfer
cymorth sy'n benodol i rywedd. Mewn perthynas â niwroamrywiaeth, mae data
cyfyngedig ar gael. Cydnabuwyd bod angen i wasanaethau newydd fynd i'r afael â
hyn er mwyn meithrin dealltwriaeth lawn o'r ddemograffeg a sut gellir cefnogi
pobl.
Diolchodd Aelod y Cabinet dros Dai a Diogelwch
Cymunedol i aelodau'r tîm am eu cyfraniad. Mae hwn yn faes cymhleth, a bydd
llawer o drigolion yn anymwybodol o'r gwaith a wneir gan y cyngor i amddiffyn
pobl rhag effeithiau niweidiol defnyddio sylweddau. Nodwyd bod mynd i'r afael
â'r problemau'n gymhleth oherwydd y newidiadau yn y cyffuriau newydd sydd ar
gael. Mynegwyd diolchgarwch i'r staff sydd wedi datblygu model y Gynghrair, yn
y gobaith y byddai'n cydlynu gwasanaethau'n well ar draws asiantaethau. Mae angen
tynnu sylw at rôl y cyngor a phwysigrwydd y gwaith.
Gwnaeth yr aelodau drafod y rhesymau pam mae pobl
ifanc yn defnyddio sylweddau a holi sut gellid atal pobl rhag defnyddio
sylweddau.
Cytunodd y swyddogion fod hwn yn faes heriol a bod
cydweithio'n bwysig, yn enwedig â gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd, i newid y
naratif ynghylch defnyddio sylweddau.
Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.
Dogfennau ategol: