Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad sgrinio effaith
integredig, rhoddir awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio i
ddechrau'r gwaith sy'n angenrheidiol i baratoi ar gyfer pwerau Gorchymyn
Pwrcasu Gorfodol gael eu defnyddio gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot mewn
perthynas â'r tir a nodir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd i hwyluso
Prosiect Cronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU a bod adroddiad yn cael ei
gyflwyno i'r Cabinet i gytuno ar y Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol ar yr amser
priodol.
Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:
Sicrhau
bod y Cyngor yn gallu cyflawni prosiect Cronfa Codi'r Gwastad Cyswllt Teithio
Llesol Pont Newydd a mynediad at y dociau.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.