Cofnodion:
•Cofrestru
700 o aelodau ychwanegol o ardal leol Castell-nedd Port Talbot/Abertawe. Ar hyn
o bryd Castell-nedd Port Talbot sydd â'r
nifer uchaf o gystadleuwyr cofrestredig yng Nghymru. Mae'r nifer y bobl
sydd wedi cofrestru wedi cynyddu ar y cyfan, gan arwain at fwy o blant yn
cystadlu yn y rownd genedlaethol ac o bosib yn cynyddu nifer y bobl sy'n dod
i'r ŵyl ac yn aros dros nos a bydd hyn o fudd i'r economi leol.
•Bu
cynnydd sylweddol yn nifer y dysgwyr Cymraeg yn ardal Castell-nedd Port
Talbot/Abertawe sy'n cofrestru i gystadlu, mae canran y cystadleuwyr
rhanbarthol sy'n dysgu Cymraeg wedi codi o 20% i 31%. Caiff y cyflawniad hwn ei
briodoli'n bennaf i'r cysylltiadau a wnaed drwy'r gronfa ffyniant gyffredin a
dysgwyr Cymraeg. Mae'n bwysig gadael
etifeddiaeth barhaus drwy'r ŵyl.
•Mae
cystadleuwyr o gefndiroedd incwm isel yn ardal Castell-nedd Port Talbot wedi
cynyddu o 20% i 22%, sy'n arwyddocaol o ran cynnal cyfleoedd.
•Mae'r
pwyllgor trefnu lleol wedi gwneud cynnydd da o ran codi arian ac ymgysylltu ag
ysgolion lleol. Mae'r digwyddiad yn cael ei ystyried fel un sylweddol ar gyfer
yr ardal, gyda chyfranogiad gan swyddogion y cyngor, aelodau etholedig ac
aelodau o'r cyhoedd.
•Disgwylir
i'r Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch gyfarfod yn fuan i fynd i'r afael â
materion diogelwch. Tynnwyd sylw at y risgiau, gan gynnwys tywydd gwlyb posib a
phroblemau gyda thraffig oherwydd cynhelir gŵyl "In It Together"
ar yr un pryd. Mae ymdrechion yn cael eu gwneud i liniaru'r risgiau hyn, gan
gynnwys paratoi llwybrau a chydweithrediad rhwng y ddwy ŵyl.
Mae'r
adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo cyfraniad ychwanegol ar gyfer
actifadu a chynnal y safle, gan ddarparu cymorth gyda sgaffaldwaith a llwybrau.
Mynegodd
yr Aelodau gyffro a diolchgarwch y byddai'r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn
lleol, gan dynnu sylw at yr effaith gadarnhaol ar bobl ifanc a'r Gymraeg.
Rhannodd aelodau'r pryder ynglŷn â gwrthdaro traffig posib gyda'r ŵyl
'In It Together'.
Dywedodd
y Pennaeth Gwasanaeth wrth aelodau ei fod yn deall bod yr ŵyl 'In It
Together' yn dod i ben ar y nos Sul a bydd cyfranogwyr yn gadael yn hwyr nos
Sul/yn gynnar fore Llun. Byddai'r Eisteddfod yn dechrau ddydd Llun. Rhoddwyd
sicrwydd eu bod wedi ystyried systemau traffig ac arwyddion i reoli'r sefyllfa.
Holodd
aelodau am logisteg symud gwastraff o'r safle.
Cadarnhaodd
y Pennaeth Gwasanaeth fod yr Eisteddfod a'r ŵyl 'In It Together' ar ddau
safle ar wahân, ni fyddai unrhyw gysylltiad rhwng y safleoedd ond efallai y
bydd angen ystyried hyn yn y dyfodol. Nodwyd bod yr ŵyl yn dod â llawer
iawn o bobl i'r ardal leol a byddai'n dda i weld yr ardal leol yn elwa'n fwy
o'r ŵyl na'r hyn a welir ar hyn o bryd.
Diolchodd
Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a Thwf Economaidd i swyddogion am eu
gwaith a rhoddwyd diolch bod y prosiect hwn yn cael ei gynnal yn yr ardal.
Gwnaed awgrym ynghylch arwyddion yr Urdd ar y llwybr i'r Eisteddfod i groesawu
pobl i'r digwyddiad. Cynigiodd Aelod y Cabinet weithredu fel gwirfoddolwr yn y
digwyddiad a gofynnodd i'r awgrym hwn gael ei gynnig i aelodau eraill a allai
fod am gymryd rhan hefyd.
Diolchodd
Pennaeth y Gwasanaeth i Aelod y Cabinet am ei syniadau, a dywedodd y byddai'r
rhain yn cael eu hystyried.
Nododd
yr aelodau'r diweddariad llafar.