Cofnodion:
Cyflwynodd Michael D. Jones, Rheolwr Gwasanaethau
Gwastraff, yr adroddiad ac esboniodd fod swyddogion
yn ceisio rheoleiddio sefyllfa weithredol a rhoi polisi ffurfiol i'r cyngor a fydd
yn helpu swyddogion i weithredu wrth symud ymlaen.
Rhoddwyd gwybod i aelodau fod yr adroddiad yn ymwneud â thua
3000 o eiddo sy'n cael eu gwasanaethu
gan y rowndiau casglu cerbydau bach. Mae'r rowndiau
mewn ardaloedd anghysbell neu ardaloedd sy'n anodd eu
cyrraedd mewn cerbydau casglu sbwriel mwy.
Esboniodd swyddogion nad oes gan y cerbydau
bach offer codi biniau, ac mae'n rhaid i'r cyngor
ddarparu ar gyfer casglu sachau
du â llaw. Mae rhai preswylwyr yn cyflwyno
biniau i'w casglu, sy'n achosi
problemau i staff casglu wrth eu gwagio.
Mae'r adroddiad hwn yn ceisio
penderfynu ar safbwynt ynghylch hyn.
Nododd y cadeirydd fod hyn yn effeithio
ar ychydig o wardiau'n unig a chyfeiriwyd aelodau at y map gyda lleoliadau'r rowndiau a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod.
Nododd yr Aelodau wrthgyferbyniad:
Mae Argymhelliad D yn caniatáu biniau ar olwynion er mwyn storio sachau,
ond mae'n nodi y byddant yn cael
gwared ar finiau a gyflwynir i'w casglu. Mae tudalen 11 yn sôn
am bryderon iechyd a diogelwch
sydd gan y cyngor o ran biniau oherwydd y drafferth bosib wrth eu
codi'n ddiogel.
Gofynnodd aelodau sut y bydd staff yn cael
gwared ar finiau os na
allant eu codi oherwydd y rhesymau diogelwch hyn.
Gofynnodd aelodau os yw staff yn cael
gwared ar finiau, a fyddant yn eu rhoi
ar y cerbydau bach ac a oes
storfa bwrpasol ar gyfer y biniau
i'w hatal rhag cael eu
difrodi.
Awgrymodd aelodau na fyddai digon o le i'w storio ar
y cerbydau bach.
Nododd yr Aelodau fod yr adroddiad yn nodi y gellir ailddefnyddio biniau ar rowndiau
casglu eraill a gofynnwyd pwy fydd
yn gyfrifol am eu glanhau a sicrhau
eu bod yn cael eu diheintio
a'u bod yn addas i'w hailddefnyddio?
Roedd aelodau'n teimlo
bod hyn yn dangos bod angen adleoli rhagor o bobl i wneud y gwaith hwn.
Gofynnodd aelodau sut y bydd yn effeithio
ar y preswylwyr a allai fod
wedi gofyn am bin newydd sy'n derbyn
bin ail-law yn hytrach nag
un newydd.
Dywedwyd wrth swyddogion bod
nifer fach iawn o eiddo ar
y rowndiau'n cyflwyno biniau.
Mewn perthynas â chymryd
y biniau sy'n cael eu cyflwyno,
mae gan swyddogion
gerbydau yn y cerbydlu gyda lifft
cefn y maent yn eu defnyddio
i ddosbarthu'r biniau.
Gellir defnyddio'r cerbyd hwnnw i gasglu unrhyw finiau sydd
wedi'u cyflwyno'n amhriodol.
Awgrymodd swyddogion roi gwybod i breswylwyr ymlaen llaw y byddant
yn cael gwared
ar eu biniau
os ydynt yn eu cyflwyno
eto, gan ganiatáu iddynt roi'r biniau i gadw er mwyn osgoi
eu colli.
Rhoddwyd gwybod i aelodau fod swyddogion yn casglu biniau
o eiddo sy'n eu cyflwyno'n amhriodol
er enghraifft pobl sy'n cyflwyno sawl
bin ar olwynion. Defnyddiwyd yr enghraifft ganlynol, os cyflwynir
dau bin, yna bydd y bin ychwanegol yn cael ei
gymryd yn ôl i'r iard.
Mae'r arfer hwn yn cael
ei roi ar
waith ar draws y fwrdeistref.
Mae
biniau addas yn cael eu golchi
a'u hailddefnyddio. Mae biniau sydd wedi'u
difrodi neu finiau budr yn cael
eu hailgylchu. Mae swyddogion yn sicrhau
mai biniau sy'n addas i'w hailddefnyddio'n unig sy'n cael eu
hailddosbarthu.
Gofynnodd aelodau os oes fan gyda lifft
cefn a allai
godi biniau yn bodoli, pam na ellid ei
ddefnyddio ar y rowndiau.
Dywedodd swyddogion fod y weithred o godi biniau gan ddefnyddio
lifft cefn yn un araf iawn,
a byddai'n arafu staff yn sylweddol ac yn codi'r bin gyda'r
gwastraff ynddo. Mae hyn yn wahanol
i eiddo lle mae swyddogion yn gweithredu casgliad
biniau, mae'r bin ei hun yn
cael ei dipio
ac mae'r gwastraff yn cael ei
dynnu allan ohono ac mae hyn
yn golygu na fydd y cerbyd
sy'n codi biniau'n helpu staff i wagio'r bin.
Gofynnodd aelodau a fyddai'n rhaid i'r criwiau
adrodd am fin ar olwynion ac yna byddai fan arall yn cael ei
anfon i'w gasglu. Cadarnhaodd swyddogion fod hynny'n gywir.
Gofynnodd aelodau a oes terfyn o 3 sach ddu ar
gyfer y preswylwyr hynny nad oes
ganddynt fin.
Cadarnhaodd swyddogion mai'r terfyn ar gyfer
casgliadau sachau du ar draws y fwrdeistref yw naill ai un bin ar olwynion 140 litr neu 3 sach ddu.
Nododd y cadeirydd fod rhai aelodau'n teimlo nad oedd
yr wybodaeth a ddosbarthwyd
mor fanwl ag yr oeddent wedi gobeithio a dywedwyd os oes
angen rhywbeth ar aelodau ar
lefel ward, gallant anfon y
cais hwnnw i gael map sydd ychydig
yn fwy manwl.
Gofynnodd aelodau a ddylid cynnwys lleoliadau yn y polisi. Cynghorodd
swyddogion yn erbyn hyn yn
seiliedig ar brofiad, gan nodi bod eiddo newydd yn
cael eu hychwanegu
oherwydd problemau gyda mynediad a nodwyd yn ystod
casgliadau arferol. Darperir y map er gwybodaeth i aelodau er mwyn iddynt weld lledaeniad y casgliadau ar draws y fwrdeistref.
Dywedodd y cadeirydd fod gwasanaethau Gofal Strydoedd hefyd yn ailddefnyddio'r biniau ar olwynion
at wahanol ddibenion gan gynnwys ar
lan môr Aberafan
fel biniau gorlifo ac yn y domen sbwriel.
Gofynnodd aelodau pa grwpiau anabl yr ymgynghorwyd â nhw yn yr adroddiad.
Dywedodd swyddogion fod yr adroddiad yn ceisio
sicrhau bod y criwiau casglu'n gweithio o fewn rheolau iechyd a diogelwch â llaw. Cynhigir casgliad â chymorth i unrhyw aelod o'r cyhoedd
sydd â phryderon am anabledd, a bydd hynny'n parhau i gael ei gynnig
ar ôl y polisi.
Nododd aelodau fod adran anabledd yr AEI yn nodi "dim effaith" a
chwestiynwyd sut y mae swyddogion wedi penderfynu ar hyn heb
ymgynghori â grwpiau anabl.
Dywedodd swyddogion nad oedd ymgynghoriad â grwpiau anabl ar
y sail nad oes unrhyw newid nac
effaith i'r gwasanaeth a ddarperir i'r grwpiau hynny.
Roedd aelodau'n teimlo nad oes digon
o ymgynghori'n cael ei wneud gyda'r
grwpiau hyn yn gyffredinol.
Gofynnodd aelodau sut y bydd hyn yn
cael ei gyfathrebu
â'r preswylwyr i ddechrau a beth fyddai'r broses os bydd pobl yn
parhau i gyflwyno cynwysyddion ac yna'n cwyno nad yw'r
biniau yn cael eu casglu.
Gofynnodd yr Aelodau a yw hyn yn gysylltiedig
â pholisïau 'cyflwyniad anghywir' a 'gwastraff gormodol'.
Dywedodd swyddogion fod y
mater yn effeithio ar nifer fach
o breswylwyr yn unig. Gan nad oes
llawer o breswylwyr yn cyflwyno gwastraff
mewn biniau ar olwynion, nid
ydynt yn bwriadu cyflwyno'r wybodaeth hon ar draws y fwrdeistref gyfan nac i'r 3,000 eiddo
ar y rowndiau.
Gall
swyddogion gyfathrebu â phreswylwyr yn gyntaf i esbonio gofynion cyflwyno gwastraff. Os byddant
yn parhau i beidio â chydymffurfio, gallant ddefnyddio Adran 46 i orfodi cynwysyddion neu sachau penodol ar ôl
cyfathrebu cychwynnol ac addysg.
Gofynnodd aelodau a ddylai'r polisi nodi'r uchafswm
o dair sach yn hytrach na
thri bin.
Nododd swyddogion fod cyfeiriad yn y polisi at y terfyn o ran faint o wastraff y gall rhywun ei gyflwyno. Nid
yw swyddogion wedi cysylltu hynny'n
benodol â nifer y biniau ar hyn
o bryd, gallai hyn newid yn
y dyfodol gan ddibynnu ar y sefyllfa.
Esboniodd yr aelodau nad oes unrhyw wybodaeth
gychwynnol yn cael ei dosbarthu
i'r preswylwyr, maent yn cyfathrebu
mewn cysylltiad â pheidio â chydymffurfio'n unig. Cadarnhaodd swyddogion mai dyna oedd y bwriad.
Awgrymodd aelodau osod sticeri ar finiau
ac anfon llythyrau hysbysu i sicrhau bod preswylwyr hŷn a'r rhai nad
ydynt yn rhugl yn Saesneg
yn deall y polisi ac os bydd
y bin yn cael ei gyflwyno y tro
nesaf, maent yn gwybod y byddant
yn cael gwared
arno. Gofynnodd hefyd a ellid
rhoi cyfle i breswylwyr gydymffurfio.
Nododd aelodau fod preswylwyr Aberafan wedi derbyn biniau
i storio bagiau yn eu gerddi
a rhoddwyd cyfarwyddiadau iddynt beidio â'u
cyflwyno. Er bod y mwyafrif
yn cydymffurfio, mae pryder y gallai
rhai rhoi biniau allan ac na fydd ddigon
o rybudd cyn cael gwared arnynt.
Bwriad swyddogion yw bod ganddynt ymagwedd fesul cam fel y gallant gyfathrebu â'r preswylwyr yn gyntaf
os caiff y biniau eu cyflwyno.
Y cam cyntaf fydd cyfathrebu.
Mae
gan swyddogion sticeri y gallant eu defnyddio i gyfathrebu'r camau gweithredu yn y dyfodol, ond
ni fyddant yn cymryd biniau
cyn iddynt gyfathrebu.
Nododd y Cadeirydd fod ardaloedd â llawer o eiddo rhent yn
profi newidiadau preswylwyr yn aml,
gan ei gwneud
hi'n anodd i bobl ddeall y system. Efallai y bydd angen ystyried cyfathrebu rhagweithiol â phreswylwyr newydd.
Cytunodd yr aelodau â chynlluniau
swyddogion. Fel preswylwyr gwledig, maent yn gyfarwydd â chasgliadau fferm a nodwyd y dylai llawer o breswylwyr wybod y rheolau.
Gofynnodd aelodau os oes ffermydd lle
mae angen casgliadau â chymorth, ydy'r cyngor yn
darparu'r gwasanaeth hwn.
Dywedodd swyddogion fod casgliadau â chymorth ar gael ar
draws y fwrdeistref ond mae rhai cyfyngiadau
ar rai eiddo anghysbell, ac mae'n dibynnu ar a
allant gael y cerbyd casglu yn
ddigon agos i gynnig casgliad â chymorth.
Awgrymodd aelodau gynnig cynwysyddion plastig i breswylwyr ar gyfer
storio biniau du cyn eu rhoi
allan, er mwyn lleihau'r cysylltiad â biniau ar olwynion,
sy'n aml yn cael eu
hystyried fel cynwysyddion i'w casglu yn hytrach
na chynhwysyddion storio.
Roedd aelodau hefyd yn teimlo y byddai
darparu cynwysyddion plastig ar ffermydd
ac eiddo anghysbell yn lleihau atyniad
plâu at sachau du.
Dywedodd swyddogion eu bod yn ceisio sefydlu
polisi clir ar gyfer casglu
gwastraff er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a chysondeb. O ystyried bod gwagio â llaw yn
gysylltiedig â'r gwaith, mae'n bwysig
safoni'r math o gynwysyddion
a ddefnyddir.
Hysbyswyd aelodau y gall preswylwyr
ddefnyddio unrhyw gynwysyddion o'u dewis rhwng casgliadau,
ond mae'n rhaid cyflwyno gwastraff mewn sachau, ac mae'r fwrdeistref yn darparu naill ai biniau ar olwynion
neu sachau du i'w cyflwyno, ond nid
y ddau. Dywedodd yr aelodau eu bod yn deall yr egwyddor
honno.
Dywedodd Aelod y Cabinet, y Cynghorydd Scott Jones fod y trafodaethau wedi bod yn ddefnyddiol
a chytunwyd â'r pwynt bod cyfathrebu'n allweddol. Eglurodd ei fod eisoes
wedi rhoi cyfarwyddyd fel aelod y cabinet, sef unwaith y byddant yn cytuno ar
y penderfyniad hwn, bydd y cyfathrebu am y polisi hwn wedi'i
dargedu'n benodol i'r 3000 eiddo yr effeithir arnynt, yn hytrach na'r
fwrdeistref sirol gyfan. Gall yr ymagwedd hon helpu i osgoi pryderon
neu ddryswch diangen ymhlith preswylwyr nad ydynt yn
cael eu heffeithio
gan y newid.
Dywedodd Aelod y Cabinet ei fod
wedi argymell i weddill y Cabinet bod yn rhaid cyfathrebu â'r 3,000 eiddo er mwyn i'r polisi
gael ei gymeradwyo
neu'i roi ar waith.
Roedd yn gobeithio bod hynny'n rhoi sicrwydd
i'r pwyllgor.
Roedd Aelod y Cabinet yn credu
y byddai cyfathrebu'r newid yn helpu
i nodi unrhyw broblemau sy'n gysylltiedig ag anabledd ymhlith preswylwyr.
Mewn perthynas ag effaith
bosib dod â'r gwasanaeth symud cynhwysyddion i ben ar breswylwyr anabl,
dywedodd Aelod y Cabinet y gallai'r
preswylwyr hynny gael trafferth wrth fynd â'u
bagiau i'r bin storio oherwydd eu hanableddau, a allai hyn
achosi problemau sy'n debyg i rai'r
gweithlu.
Dywedodd Aelod y Cabinet ei fod
am sicrhau bod y cyngor yn cyfathrebu â phobl ac os oes
problemau penodol byddant yn ceisio
gweithio gydag unigolion i fynd i'r afael â'r
problemau hyn.
Nododd Aelod y Cabinet y byddai darparu
biniau storio i 3,000 eiddo yn costio
tua £50,000. Mynegodd bryderon am gostau rheolaidd i ddarparu cynhwysyddion newydd yn lle rhai
a gollwyd, sydd wedi'u difrodi neu wedi'u dwyn ac roedd yn teimlo
nad oedd cyllid ar gael
ar gyfer hyn.
Roedd Aelod y Cabinet yn teimlo
bod yr awgrym o gael biniau mwy ar
ddiwedd y stryd fel man canolog yn cyflwyno heriau
fel gormod o sachau'n cael eu
cyflwyno ac anhawster wrth nodi pwy sy'n
cyflwyno gormod o sachau.
Diolchodd y cadeirydd i Aelod y Cabinet am ymateb i rai o bryderon yr aelodau.
Tynnodd aelodau sylw at y problemau y mae sachau du yn eu
hachosi gyda bywyd gwyllt mewn
ardaloedd gwledig.
Cododd aelodau hefyd y broblem o breswylwyr tŷ teras yn cyflwyno sachau du mewn bin ar olwynion
er mwyn osgoi bywyd gwyllt yn
rhwygo'r bagiau. Mae'r preswylwyr hynny wedi gofyn
am gynwysyddion, ond gwrthodwyd y cais hwnnw. Gofynnodd yr Aelodau beth y gellir ei wneud
yn y sefyllfa hon.
Nododd swyddogion y pryderon
ond ailadroddwyd yr heriau o ran darparu cynwysyddion a'r problemau ynghylch cerbydau llai. Cadarnhaodd swyddogion eu bod yn ceisio
cadw'r casgliadau sachau du yn yr ardaloedd hynny.
Nododd aelodau fod preswylwyr weithiau'n cario sachau du i ardal ganolog er mwyn osgoi teithiau
cerdded hir a symudiadau lletchwith mewn cerbydau i'r gweithlu.
Fodd bynnag, mae staff weithiau'n gadael sticeri ar sachau gormodol,
ac yna bydd angen fan arall i'w casglu, ac mae hyn yn
ddrud.
Roedd y cadeirydd yn teimlo bod hyn yn tynnu sylw
at bwysigrwydd deall pwy sydd wedi
cyflwyno'r gwastraff a'i fod yn
haws gwneud hyn gyda bin ar olwynion.
Gwnaeth aelodau awgrymiadau
ynghylch darparu sticeri i'r rheini
sydd â sachau du er mwyn nodi'r eiddo
sy'n berchen ar y sachau. Awgrymodd
y cadeirydd, os caiff sticer ei
argraffu gyda chyfeiriad arno, mae'n rhaid iddynt
roi'r sticer honno ar y sach
ac os oes gan y sach sticer
ddilys, gellir ei gasglu. Gall hyn wella gorfodi
ac osgoi peidio â chasglu sachau o fan canolog. Roedd yn teimlo y byddai
hyn hefyd yn dangos faint o gasgliadau sachau du a fydd yn ystod
y flwyddyn a faint o sachau
du sydd gan aelwydydd yr hawl i'w cyflwyno mewn
blwyddyn.
Cadarnhaodd swyddogion fod mannau casglu'n ei gwneud hi'n
anodd i swyddogion nodi pwy sydd wedi
cyflwyno'r bagiau a faint o
wastraff gormodol sydd wedi'i gyflwyno.
Dywedodd swyddogion eu bod am i bobl ailgylchu cymaint â phosib ond maent
yn gwerthfawrogi'r pwyntiau a godwyd a nodwyd bod gwaith pellach i'w wneud
wrth adnabod y preswylwyr sy'n cyflwyno'r sachau.
Gofynnodd y cadeirydd a fydd
y system ddata newydd ar gael i'r
cerbydau casgliadau sachau du ac a fydd criwiau'n gallu adnabod man casglu canolog.
Cadarnhaodd swyddogion y bydd y
system yn cael ei chyflwyno i'r
cerbydlu cyfan, ac maent hefyd wedi
nodi pwyntiau casglu ar draws y fwrdeistref a bydd yr wybodaeth hon ar gael i'r
criwiau.
Roedd aelodau'n cydnabod
cost cynwysyddion ond nodwyd y byddai pwyntiau casglu sachau du yn gofyn
am finiau ar olwynion, sydd hefyd yn golygu
costau cynyddol. Awgrymwyd cynnal astudiaeth ddichonoldeb i werthuso'r arbedion posib o beidio â defnyddio biniau ar olwynion. Roedd
aelodau'n teimlo y gallai darparu eitem i breswylwyr nad oes hawl
ganddynt ei gyflwyno'n achosi problemau lle mae
pobl yn storio
sachau mewn biniau ar olwynion
ac yn eu cyflwyno i'w casglu.
Gallai hyn helpu i gadw eitemau oddi
ar y ffordd.
Nododd y cadeirydd fod gan y syniad hwn
y potensial i leihau'r effaith y mae fermin
yn eu cael
ar bobl sy'n
gadael sachau du yn eu gerddi
os nad oes
ganddynt sied storio i gadw'r sachau ynddo.
Gofynnodd aelodau a fyddai'r cyngor yn rhoi'r
gorau i gyflenwi sachau du am ddim pe bai cynwysyddion yn cael eu darparu
i breswylwyr.
Roedd Aelod y Cabinet, y Cynghorydd Scott Jones, yn teimlo ei
fod yn bwynt
dilys ac roedd yn teimlo bod angen
iddynt fod yn ofalus gan
ei fod wedi
cytuno'n wreiddiol i weld a all y cyngor ddarparu bin i bawb yn hytrach na
gofyn i breswylwyr brynu eu bin eu
hunain. Fodd bynnag, pris bin storio yw £15, a phe bai'r
cyngor yn darparu bin ar olwynion cyffredin byddai'r gost rhwng
£40-£50.
Tynnodd Aelod y Cabinet sylw at bwysigrwydd
sicrhau tegwch a chysondeb wrth ddosbarthu biniau storio a sachau du ar draws y fwrdeistref sirol ac roedd yn teimlo bod polisi
clir a theg yn hanfodol er mwyn osgoi unrhyw
anghydraddoldeb o ran canfyddiadau.
Yn
dilyn craffu, cefnogwyd yr argymhelliad i gyflwyno'r eitem gerbron y Cabinet.
Dogfennau ategol: