Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad sgrinio effaith
integredig, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn rhoi
dirprwyaeth blwyddyn i Gyngor Tref Llansawel yn unol ag Adran 101 o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 ac Adran 19 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i weithredu
gwasanaeth prydau cymunedol yn Liberty Hall, Llansawel, yn unol â Deddf Iechyd
a Gwasanaethau Cymdeithasol a Dyfarniadau Nawdd Cymdeithasol 1983 a Deddf
Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970, a bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei
roi i Bennaeth y Gwasanaethau i Oedolion mewn ymgynghoriad â Phennaeth y
Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i ymrwymo i gytundeb addas i
ddogfennu'r ddirprwyaeth hon.
Rheswm dros y Penderfyniad:
Byddai
methu â rhoi dirprwyaeth yn golygu y byddai darparu gwasanaeth prydau cymunedol
yn Liberty Hall, Llansawel yn dod i ben.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Caiff
y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.
Dogfennau ategol: