Agenda item

Caffael hen adeilad 'Moose Hall', Stryd y Castell, Castell-nedd (Yn eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Ail-gadarnhaodd y Cynghorydd Hurley ei ddatganiad a gadawodd ar gyfer yr eitem hon yn unig.

 

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyir caffael hen adeilad 'Moose Hall', Stryd y Castell, Castell-nedd, fel y manylir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Er mwyn datblygu dyheadau adfywio'r Cyngor ar gyfer yr ardal.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.