Agenda item

Rownd 3 y Gronfa Ffyniant Bro - Diweddariad i'r Aelodau Etholedig am Theatr y Dywysoges Frenhinol.

·        Gwaith i adeiladu estyniad, adnewyddu ac ailfodelu yn Theatr y Dywysoges Frenhinol a gwaith allanol i wella Sgwâr Dinesig, Port Talbot.

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion Y Tîm Adfywio ac Eiddo am fod yn bresennol.

 

Rhoddodd y Pennaeth Eiddo ac Adfywio drosolwg i'r aelodau o'r adroddiad a gynhwysir yn y pecyn agenda.

 

Diolchodd yr aelodau i'r Pennaeth Gwasanaeth am yr adroddiad manwl a gofynnodd am gadarnhad na wneir unrhyw waith ailwampio yn Siambr y Cyngor.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth na wneir unrhyw newidiadau i Siambr y Cyngor yn ystod y cam adfywio hwn. Fodd bynnag, ar ôl cwblhau'r prosiect, ystyrir sut y gellir ailwampio'r swyddfeydd dinesig. Cydnabuwyd bod angen gwneud gwelliannau i'r mynediad at y Siambr i'r anabl a bydd angen ystyried hwn yn ofalus.

 

Gwnaeth yr aelodau sylwadau am yr angen am sgriniau mwy sydd mewn lleoliadau gwell yn Siambr y Cyngor.

 

Gofynnodd yr aelodau a fydd cyfleusterau yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd yn cael defnydd ychwanegol.

 

Cadarnhaodd y swyddogion y bydd mannau cyfarfod yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd ar gael yn ystod y gwaith adnewyddu. Bydd Parlwr y Maer yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd yn dod yn barlwr swyddogol, ond bydd swyddfa ar gael i'r Maer yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot. Ceir cynlluniau i osod cyfarpar hybrid yn Ystafelloedd Pwyllgor A a B yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd i alluogi defnydd o'r man hwn os bydd ei angen. Gosodir offer hefyd i gynnal cyfarfodydd a fyddent fel arfer yn digwydd yn y siambr yn ystafelloedd cyflwyno yng Nghanolfan Ddinesig Port Talbot, ac eithrio cyfarfodydd y cyngor llawn. Ceir pryderon ynghylch y sŵn posib ym Mhort Talbot a gellir defnyddio ystafelloedd cyfarfod yng Nghastell-nedd ar gyfer cyfarfodydd os oes angen.

 

Gwnaeth yr aelodau sylwadau am y cyfleusterau lluniaeth annigonol sydd ar gael ar hyn o bryd yn yr ystafell aelodau a gofynnodd am roi ystyriaeth i ddarparu cyfleusterau lluniaeth mwy addas. Mynegodd aelodau bryderon ynghylch trefniadau parcio ceir a gofynnodd am y trefniadau ar gyfer ystafelloedd pleidiau gwleidyddol dynodedig yn yr adeilad.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ei fod yn gyfle delfrydol i ymgysylltu ag aelodau er mwyn sefydlu pa gyfleusterau y mae eu hangen; bydd y cynnig terfynol yn cael ei lywio gan anghenion yr aelodau. Bydd cyfyngiadau ar barcio ceir yn y Ganolfan Ddinesig; yn ystod cyfarfodydd y cyngor llawn, rhoddir blaenoriaeth i aelodau'n unig ar gyfer y lleoedd parcio sydd ar gael. Rhoddwyd gwybod i aelodau bod yr hawlenni parcio'n cynnwys y cyfleusterau yn y Maes Parcio Aml-lawr ym Mhort Talbot. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai'r ystafelloedd cyfarfod ar gael yn y Ganolfan Ddinesig ar gyfer yr holl grwpiau gwleidyddol a bydd aelodau'n gallu archebu mannau cyfarfod drwy Dîm y Gwasanaethau Democrataidd. Bydd ystafell ychwanegol yn cael ei chreu ar y llawr gwaelod fel swyddfa galw heibio, a fydd yn gallu cynnwys gweithfannau. Bydd aelodau hefyd yn gallu defnyddio'r Llyfrgell Gyfreithiol, lle bydd cyfleusterau hefyd ar gael i aelodau eu defnyddio.

 

Dywedodd yr aelodau nad oedd y cynllun yn y pecyn agenda'n cynnwys llawr cyntaf yr adeilad.

 

Ymddiheurodd swyddogion am yr hepgoriad hwn a gwnaethant gadarnhau y caiff yr wybodaeth hon ei hanfon ymlaen at yr aelodau.

 

Dywedodd yr aelodau bod mynediad gwael at y rhyngrwyd yn y maes parcio aml lawr, petai angen i aelodau gyrchu eu hawlenni ar-lein.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd y codir y mater hwn gyda'r Rheolwr Parcio a'r Tîm Gwasanaethau Digidol.

 

Gofynnodd aelodau am y defnydd o'r Ystafell Aelodau a gofynnodd am gynnwys cyfleuster ardal rhannu gweithfan yn y cynlluniau.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd bod edrych ar y gwasanaethau cefnogaeth sydd ar gael i aelodau'n rhan o gylch gwaith Pwyllgor y Gwasanaethau Democrataidd ac y gallai'r pwyllgor ystyried hyn.

 

Gofynnodd yr aelodau a ellid troi Parlwr y Maer yn ystafell amlswyddogaethol y gellid ei defnyddio ar gyfer amrywiaeth o bethau.

 

Diolchodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd am yr awgrym, ac ar hyn o bryd, y brif ystyriaeth yw efelychu'r cyfleusterau presennol ond mewn fformat mwy cyfoes ar gyfer defnydd amlswyddogaethol yn y dyfodol. Roedd y cynlluniau'n cynnwys Parlwr y Maer llai er mwyn galluogi'r cyfleuster i ddod yn fan y gellir ei ddefnyddio'n haws, ond bydd angen trafodaeth bellach wrth i'r cynlluniau symud yn eu blaen. Fel rhan o'r gwaith moderneiddio cyffredinol, ystyrir y mathau o ddigwyddiadau a gynhelir yn yr adeilad.

 

Gofynnodd yr aelodau am gyfleusterau gweddarlledu yn yr adeilad.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd nad oes gan yr ystafelloedd pwyllgor gyfleusterau gweddarlledu ar hyn o bryd, ond archwilir i hyn; mae gwasanaethau gweddarlledu'n ddrud ac mae angen sicrhau'r defnydd gorau o'r cyfarpar. Mae'r Grŵp Moderneiddio'n edrych ar brosesau gwneud penderfyniadau ac ystyrir gweddarlledu a'r hyn y gellir ei wneud i hyrwyddo cynwysoldeb a gwneud penderfyniadau; efallai y bydd angen ystyried opsiynau eraill a chaiff y rhain eu cyflwyno.

 

Dywedodd y swyddogion wrth aelodau bod y contract Public-i yn cynnwys nifer penodol o oriau gweddarlledu. Os bydd angen oriau gweddarlledu ychwanegol, byddai hyn yn golygu cost uwch y gall fod angen ei hystyried wrth symud ymlaen.

 

Dywedodd Pennaeth Eiddo ac Adfywio bod angen newid cynllun yr ystafelloedd cyfarfod gyda mwy o offer sefydlog mewn ystafelloedd cyfarfod.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am yr adroddiad gan gydnabod lefel o darfu wrth symud ymlaen, ond croesawodd y datblygiad newydd.

 

 

Nodwyd yr adroddiad.

Dogfennau ategol: