· Adroddiad i ddilyn
Cofnodion:
Dywedodd
swyddogion wrth aelodau nad oeddent wedi derbyn Adroddiad Terfynol Panel
Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol hyd yma. Ystyriwyd yr adroddiad
drafft gan aelodau ym mis Tachwedd a byddai'n anghyffredin petai'r cynigion
drafft yn newid. Pan fydd yn cael ei dderbyn, rhennir yr adroddiad terfynol ag
aelodau gyda dolen i bolisïau a gweithdrefnau'r Cyngor mewn perthynas â
threuliau gofal plant.
Awgrymodd
yr aelodau y byddai'n ddefnyddiol petai swyddogion yn cysylltu ag aelodau â
phroblemau gofal plant hysbys i gynnig cefnogaeth.
Gofynnodd
aelodau a fyddai angen cyfarfod ychwanegol i dderbyn yr adroddiad.
Cadarnhaodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd er bod angen derbyn yr
adroddiad yn ffurfiol, nid oedd angen gwneud hyn erbyn diwedd mis Chwefror. Pan
fydd yr adroddiad wedi'i dderbyn, gellir gwneud penderfyniad ynghylch sut i'w
gydnabod yn ffurfiol.
Gohiriwyd
yr eitem hon.