Cofnodion:
Rhoddwyd diweddariad i'r Pwyllgor
ar gyflwyno'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, gyda phwyslais ar gynnydd a gwariant
Chwarter 3.
Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn amlinellu cyfrifoldebau Llywodraethau Lleol wrth ddatblygu
Cynlluniau Buddsoddi Rhanbarthol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac yn
disgrifio sail y rhaglen, sy'n gymysgedd o brosiectau angori, cynlluniau grant
a phrosiectau annibynnol.
Cyfeiriwyd at y flwyddyn
drawsnewid y cytunwyd arni sef 2025/26; parhaodd trafodaethau rhwng Llywodraeth
Cymru a Llywodraeth y DU ar y cyllid ar gyfer y cyfnod ar ôl mis Mawrth 2026.
Nodwyd y byddai angen gorffen y gwaith cyflwyno erbyn mis Rhagfyr 2025 fel y
gellir cau'r rhaglen yn llawn erbyn mis Mawrth 2026.
Tynnodd Swyddogion sylw at y
ffaith bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud mewn perthynas ag allbynnau
perfformiad rhanbarthol gan gynnwys creu a diogelu swyddi a'r grantiau a
ddyfarnwyd i sefydliadau a mentrau.
Nodwyd bod oddeutu £50,000
wedi'i ddyrannu i'r ffrwd waith Lles a Datblygiad Economaidd; roedd hyn wedi'i
gymeradwyo gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Roedd yr adroddiad a
ddosbarthwyd yn nodi'r camau gweithredu manwl ar gyfer yr Is-bwyllgor a oedd
wedi'u rhoi ar waith er mwyn cyflawni'r amcanion lles.
Cydnabu'r Cadeirydd y swm mawr
o waith a wnaed ar draws y rhanbarth i sicrhau bod y rownd bresennol o
grantiau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi'u cyflwyno. Nodwyd bod y Cadeirydd,
drwy ei rôl yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac fel Cadeirydd Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru, yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU a Llywodraeth
Cymru i sicrhau bod llywodraeth leol yn parhau'n bartner cyfartal mewn
trefniadau ynghylch ffyniant cyffredin.
Mynegodd y Pwyllgor eu barn am
raglen gyflwyno bresennol y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a sut y bu'r broses yn
llawer mwy effeithlon oherwydd y berthynas â llywodraeth leol; byddent yn annog
y trefniant hwn i barhau.
Cynhaliwyd trafodaeth o ran
cyflwyno'r cyllid rhwng nawr a diwedd y flwyddyn; gofynnodd yr Aelodau am
sicrwydd bod y prosiectau'n barod i'w cyflwyno ac y byddai'r cyllid yn cael ei
ddefnyddio. Cadarnhaodd Swyddogion nad oedd hawl ganddynt gario unrhyw arian
o'r cyllid drosodd i'r flwyddyn nesaf; roedd llawer iawn o'r arian y gwariwyd
rhy ychydig ohono hyd yma yn gyfalaf, nad yw'n anghyffredin yn y prosesau hyn.
Ychwanegwyd y byddai cyfle i gyfalafu unrhyw danwariant o ran refeniw sy'n dod
i'r amlwg tua diwedd y flwyddyn ariannol; bydd cyfle i ddefnyddio unrhyw beth
sydd ar ôl mewn cynlluniau mawr sy'n cael eu cyflwyno ar draws y rhanbarth.
O ran y flwyddyn drawsnewid, eglurwyd mai un o'r egwyddorion allweddol oedd
ehangu'r prosiectau angori; roedd hyn yn cynnwys yr holl gynlluniau grant sy'n
galluogi mynediad at y trydydd sector a'r sector preifat. Roedd Swyddogion yn
gobeithio y byddai'r cynlluniau hyn yn cael eu hailagor o fewn yr ychydig
wythnosau nesaf; roedd hyn yn sicrhau gwariant a pharhad i'r tîm sy'n cyflwyno
ar draws y rhanbarth. Yn yr un modd ar gyfer prosiectau galwad agored, dywedodd
y Swyddogion eu bod yn ystyried ehangu prosiectau ac ychwanegu at y rhai sydd
mewn bod yn hytrach na dechrau o'r dechrau; bydd hyn yn galluogi Swyddogion i
ychwanegu at ansawdd yr hyn sydd eisoes yn cael ei gyflwyno. Soniwyd y bydd pob
Awdurdod Lleol, drwy eu prosesau llywodraethu, yn cadarnhau a ydynt yn fodlon
ar y ffordd y cyflwynir ac y llunnir y rhaglen ym mhob ardal.
Cyfeiriwyd at lythyr a
anfonwyd yn ddiweddar at yr Ysgrifennydd Gwladol, yr Is-ysgrifennydd Seneddol
ac Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at bryderon mewn perthynas â'r swyddi a
allai fod mewn perygl pe bai Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru'n penderfynu
cyflwyno'r Gronfa Ffyniant Gyffredin mewn ffordd wahanol, yn hytrach na'r
ffordd a ddefnyddiwyd yn rhanbarthol. Cadarnhawyd y bydd Swyddog y Gwasanaethau
Democrataidd yn dosbarthu'r llythyr hwn i'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod:
PENDERFYNWYD:
Bod yr adroddiad yn cael ei
nodi ac y caiff ei rannu â Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru ar 19
Mawrth 2025 fel diweddariad rhanbarthol.
Dogfennau ategol: