Cofnodion:
Penderfyniad:
Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig,
· Cyhoeddir hysbysiad man agored cyhoeddus yn unol ag Adran 123(2A) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 ar gyfer tir sy'n eiddo i'r Cyngor yn Menai Avenue, sy'n
mesur tua 4,143 m² ac wedi'i ymylu'n goch ar y cynllun atodedig (Atodiad 1).
· Mae'r Aelodau'n cymeradwyo gwaredu'r tir yn unol â'r amodau a thelerau a
nodir yn yr adroddiad hwn, yn amodol ar ystyriaeth foddhaol o unrhyw
wrthwynebiadau a dderbyniwyd fel rhan o'r hysbysiadau mannau agored cyhoeddus.
· Mae'r Aelodau'n nodi y bydd adroddiad yn cael ei ddwyn yn ôl i'r Cabinet
i'w benderfynu yn y dyfodol ynghylch a ddylid bwrw ymlaen ai peidio os
derbynnir gwrthwynebiadau.
Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:
Bydd
y gwarediad yn darparu derbynneb cyfalaf i'r Cyngor wrth hwyluso darpariaeth
tai fforddiadwy sy'n cefnogi anghenion lleol.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau.