Cofnodion:
Datganodd y Cyng. Rahaman fuddiant personol a
rhagfarnus a gadawodd y cyfarfod.
Rhoddodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth,
Treftadaeth a Diwylliant drosolwg byr o'r adroddiad i'r aelodau fel y'i
cynhwysir yn y pecyn agenda. Roedd yr adroddiad yn cynrychioli gwaith ar y cyd
rhwng cyfarwyddiaethau Addysg a'r Amgylchedd ac fe'i hariannwyd gan y Gronfa
Ffyniant Gyffredin.
Holodd yr aelodau a fyddai'r uwchgynllun yn cael ei
ystyried gan ddefnyddio ymagwedd fesul cam.
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod manylion y
cynllun i'w ystyried o hyd. Cynhwyswyd darn o waith i'r ymgynghorwyr ystyried
prosiectau'r cam cyntaf, ond cafodd hyn ei ddileu yn ddiweddarach. Bydd yr
ymagwedd yn dibynnu ar ba gyfleoedd ariannu sydd ar gael. Efallai y bydd cyfle
cynnar mewn perthynas â'r Clwb Llynges.
Mae'r clwb ar gau ar hyn o bryd ond maent yn chwilio am denantiaid. Mae
angen gwneud gwaith i gynhyrchu rhestr prosiect fesul cam.
Dywedodd yr Aelodau fod yr uwchgynllun yn addawol,
fodd bynnag, mynegwyd pryder ynghylch rwbel a oedd wedi'i adael ger twyni tywod
y Clwb Llynges, yn dilyn ailddatblygu'r hen dref yn y 1960au/1970au. Mae
stormydd diweddar wedi datgelu ychydig o'r gwastraff hwn ac awgrymwyd y dylid
gwneud gwaith archwilio i ddarganfod yr hyn a allai fod o dan y tywod.
Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth eu bod yn
ymwybodol bod eitemau wedi'u datgelu ar y traeth oherwydd erydiad arfordirol a
chaiff hyn ei ystyried. Roedd y cynlluniau ar gyfer y twyni tywod yn cynnwys
ardaloedd llwybr pren i reoli erydiad ac amddiffyn bioamrywiaeth
Holodd yr aelodau a oedd digon o leoedd parcio ar
gael ger y traeth, yn enwedig ar gyfer faniau gwersylla.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth nad oedd yn
anarferol i ardaloedd glan y môr wynebu pwysau o ran meysydd parcio, ond roedd
hyder bod digon o leoedd parcio ar gael ar gyfer diwrnod arferol. Cydnabuwyd y
gallai parcio fod yn broblem ar ddiwrnodau prysur, ond roedd angen cydbwysedd,
gan y byddai unrhyw ddarpariaeth bellach yn golygu bod rhannau helaeth o dir yn
wag am gyfnodau eraill. Roedd parcio ar gael ar lan y môr o fewn pellter
cerdded i ardaloedd o ddiddordeb posib. Mae cynigion ynghylch parcio ceir ym mharth
un a'r posibilrwydd o barcio ceir ym mharth dau. O ran parcio faniau gwersylla,
mae cyfleoedd mwy addas ar draws y fwrdeistref sirol, bydd cynigion yn cael eu
cyflwyno pan fo hynny'n briodol.
Rhoddodd yr aelodau glod i'r swyddogion am yr
adroddiad trylwyr a chadarnhaol. Fodd bynnag, roedd siom nad oedd yr ardal i'r
gogledd o Ffordd y Dywysoges Margaret wedi'i chynnwys yn yr uwchgynllun gan fod
yr aelodau o'r farn y dylid defnyddio ymagwedd gyfannol wrth geisio cyfleoedd i
adfywio. Roedd pryder ynghylch y posibilrwydd o godi disgwyliadau'r cyhoedd
mewn cyfnodau o gyllid cyfyngedig i gyflawni'r cynlluniau. Awgrymwyd y gellid
atodi atodiad i'r adroddiad, gan amlinellu ffrydiau cyllido.
Dywedodd yr Aelodau fod angen rhagor o dai yn y
fwrdeistref, roedd y rhestr aros ar gyfer eiddo'r gymdeithas tai yn hir.
Awgrymwyd y byddai sefyllfa gyfaddawdol o ofod digwyddiadau defnydd cymysg gyda
thai wedi bod yn fwy priodol. Gwnaeth yr Aelodau sylwadau am y gwahanol ffyrdd
i bobl deithio i lan y môr a holwyd sut yr oedd hyn yn cael ei ystyried.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth yr aelodau, er
bod trafodaethau wedi'u cynnal ynghylch yr ardal i'r gogledd o Ffordd y
Dywysoges Margaret, nad oedd yr ardal wedi'i chynnwys gan nad oedd o fewn
perchnogaeth y cyngor. Cydnabuwyd bod cyllid yn broblem a bod cyfleoedd ariannu
wedi newid yn gyflym. Caiff y sefyllfa ei monitro, ac roedd datblygu
uwchgynllun strategol yn ddefnyddiol wrth gael cyllid, lle bo hynny ar gael. O
ran trafnidiaeth, mae cynlluniau ar gyfer gwell cysylltiadau beicio, yn enwedig
ar hyd yr ochr ddwyreiniol i gysylltu â llwybrau beicio.
Diolchodd Aelod y Cabinet dros Natur, Twristiaeth a
Llesiant i bawb a fu'n rhan o'r gwaith o ddatblygu'r strategaeth. Mae gan y
cynllun y potensial i ddatblygu glan y môr ar gyfer preswylwyr ac ymwelwyr
posibl. Cydnabuwyd yr angen am dai ychwanegol, fodd bynnag, roedd angen trin y
safle y cyfeiriwyd ato yn y cynllun fel safle eithriadol oherwydd ei leoliad.
Dyma'r darn olaf o dir sydd ar gael ar lan y môr y gellir ei ddatblygu ar gyfer
amwynderau glan y môr.
Roedd yr Aelodau'n cydnabod yr angen am uwchgynllun
ond mynegwyd pryder ynghylch disgwyliadau'r cyhoedd a gofynnwyd i lwybrau
trafnidiaeth gael eu hystyried pe bai'r cynlluniau'n symud i gam gweithredol.
Dywedodd yr Aelodau mai hwn oedd y prif gynllun
glan môr cyntaf ers ugain mlynedd ac roedd angen y ddogfen strategol hon. Er
bod gwaith adfywio wedi digwydd, roedd y gwaith yn ddigyswllt ac mae cyfleoedd
wedi cael eu colli. Mae wedi bod yn galonogol bod adborth gan aelodau a'r
gymuned wedi cael ei ystyried. Mae'r cynlluniau'n uchelgeisiol ac wrth iddynt
gael eu datblygu mae angen mynd i'r afael â materion gweithredol. Mae rheolaeth glan y môr yn ddigyswllt ar
draws sawl adran ac nid oes adnodd rheoli pwrpasol. Mae hyn yn wahanol i Barc
Margam, y Gnoll a chanol trefi lle mae rheolwyr dynodedig ar waith. Nid oes
cyllideb cynnal a chadw ar gyfer glan y môr a bydd angen mynd i'r afael â hyn.
Ailadroddodd yr aelodau yr angen i ystyried trafnidiaeth gan y bydd llwyddiant
unrhyw ddigwyddiadau'n dibynnu ar bobl yn gallu cyrraedd glan y môr. Gellid
ystyried cynllun parcio a theithio. Nodwyd bod y cyfrifoldeb gweithredol wedi'i
rannu ar draws cyfarwyddiaethau ond roedd yn disgyn yn bennaf ar Gyfarwyddiaeth
yr Amgylchedd ar hyn o bryd. Os yw uchelgeisiau'r cynllun i'w gwireddu'n llawn,
yna mae angen mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau gweithredol.
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaeth sicrwydd y byddai'r
materion a godwyd yn cael eu monitro.
Dywedodd yr Aelodau, yn dilyn rhagor o fuddsoddiad
a phrosiectau newydd yn yr ardal, fod y boblogaeth yn debygol o gynyddu. Roedd
angen cysylltu â'r prosiectau hyn i nodi unrhyw gyfleoedd ariannu.
Yn dilyn gwaith craffu, cefnogodd yr aelodau'r
argymhelliad a amlinellwyd yn adroddiad drafft y Cabinet.
Ail-ymunodd y Cyng. Saifur Rahaman â'r cyfarfod.
Dogfennau ategol: