Cofnodion:
Cyflwynwyd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft ar
gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru i'r Aelodau.
Amlygodd Swyddogion eu bod yn ceisio cymeradwyaeth gan
Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, i ddechrau'r broses ymgynghori
cyhoeddus ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft. Dywedwyd bod
amserlen arfaethedig o oddeutu wyth wythnos ar gyfer yr ymgynghoriad, ac y
byddai'n dechrau'n gynnar ym mis Chwefror 2025.
Cyfeiriwyd at y Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol
Drafft a oedd yn cynnwys rhestr o gynlluniau sy'n cyd-fynd â'r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol. Nodwyd bod angen gwneud rhagor o waith ynghylch
sgorio a gwerthuso'r cynlluniau; byddai'r offeryn blaenoriaethu, y manylir arno
yn Atodiad 5 yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cynorthwyo Swyddogion gyda hyn.
Hysbyswyd y Pwyllgor y bydd y broses hon yn helpu i flaenoriaethu'r cynlluniau
mewn modd cadarn er mwyn cynorthwyo'r broses gynnig dros y pum mlynedd nesaf.
Ychwanegwyd y bydd Swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â'r ymgynghoriad
cyhoeddus i geisio deall beth fyddai blaenoriaeth y cynlluniau hynny.
Soniwyd bod
Swyddogion wedi derbyn arwyddion cadarnhaol gan Lywodraeth Cymru o ran y
cynnydd yr oedd y rhanbarth yn ei wneud i gyflawni'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol; mae Llywodraeth Cymru wedi darparu rhai sylwadau cychwynnol, a
fydd yn rhan o'r adborth o'r ymgynghoriad.
Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch yr amrywiaeth o
ddigwyddiadau a chynlluniau ymgynghori a gynigiwyd er mwyn ceisio annog cymaint
o ymgysylltu â phosib; roedd hyn yn cynnwys digwyddiadau cyhoeddus ac ar gyfer
rhanddeiliaid. Esboniodd Swyddogion y byddent hefyd yn cysylltu â'r gymuned
fusnes, drwy'r cyrff priodol sy'n cynrychioli eu buddiannau. Roedd
canlyniadau'r ymgynghoriad blaenorol yn amlygu nad oedd llawer o ymgysylltu gan
bobl iau; roedd Swyddogion yn gweithio gydag ysgolion a cholegau i geisio gwella
ymgysylltiad ar gyfer yr ymgynghoriad sydd i ddod.
Hysbyswyd yr Aelodau, er bod trafodaethau'n cael eu
cynnal â Llywodraeth Cymru o ran cyllid, nad oedd Swyddogion eto wedi cael
eglurder terfynol ar gyllid na'r ffyrdd y caiff y cyllid ei ddosbarthu
drwyddynt ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol o 2026 ymlaen.
Cyfeiriwyd at y risgiau sy'n gysylltiedig â'r gwaith hwn;
gallai methu cymeradwyo fersiwn derfynol y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'i
gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn haf 2025 arwain at oedi'r grantiau (o 1
Ebrill 2026).
Esboniodd swyddogion y byddai adroddiadau'r dyfodol yn
cael eu dwyn yn ôl drwy ddulliau adrodd arferol Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru, a oedd yn cynnwys yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol, y
Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Fodd
bynnag, nodwyd y byddai'r rhestr derfynol o gynlluniau'n cael ei chyflwyno i
Gabinet pob Awdurdod Lleol ym mis Mai 2025, cyn cael eu cyflwyno i gyfarfodydd
perthnasol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; roedd hyn oherwydd y
ffaith mai Awdurdodau Lleol oedd â'r pwerau i gyflwyno'r cynlluniau.
Yn dilyn y trosolwg gan Swyddogion, diolchodd yr Aelodau
i'r Swyddogion gan gydnabod y gwaith sylweddol a wnaed yn y broses hon hyd yma.
PENDERFYNWYD:
·
Bod yr adroddiadau cynnydd
llafar gan Swyddogion ar ffrydiau gwaith datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol yn cael eu nodi.
·
Bod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
Drafft a'r dogfennau ategol yn cael eu cymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus.
·
Bod rhaglen gwaith datblygu
ddiweddaraf y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael ei chymeradwyo.
Dogfennau ategol: