Cofnodion:
Cyflwynodd Swyddogion gyllideb ddrafft Cyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru i'r Aelodau ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26, a
oedd yn cynnwys y tâl ardoll arfaethedig i'r awdurdodau cyfansoddol.
Hysbyswyd y Pwyllgor fod yn rhaid dweud wrth yr
awdurdodau cyfansoddol am yr ardoll ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod
erbyn 31 Ionawr 2025. Soniwyd bod trafodaethau eisoes wedi dechrau â phob un
o'r Awdurdodau Lleol a'r Aelodau Etholedig ynghylch gofynion proses pennu
cyllideb Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.
Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi tri opsiwn
gwahanol (Opsiwn 1, Opsiwn 2 ac Opsiwn 2B) o ran pennu cyllideb ar gyfer
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Amlygwyd bod yr opsiynau’n eithaf
cyson â blynyddoedd blaenorol; pennu cyllideb parhad neu gynyddu'r ffrwd waith,
drwy'r gyllideb, i geisio cyflawni amcanion Cyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru. Ychwanegodd Swyddogion bod gwaith i'w wneud o hyd o ran
deall lefel gweithgarwch rhai o'r swyddogaethau a'r ffrydiau gwaith.
Eglurodd Swyddogion fanylion y tri opsiwn gwahanol fel a
ganlyn:
·
Opsiwn 1 – Cyllideb parhad.
·
Opsiwn 2 – Cyllideb y gofynnwyd amdani.
·
Opsiwn 2B – Cyllideb y gofynnwyd amdani gyda'r defnydd o
gronfeydd wrth gefn.
Dywedwyd bod Swyddogion yn argymell Opsiwn 2B, a nodwyd
yn Atodiad C o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Nodwyd y cynigiwyd rhyddhau arian
wrth gefn dros gyfnod cynlluniedig o dair blynedd; roedd hyn er mwyn helpu i
atal yr angen i ofyn am ardollau sylweddol uwch yn y dyfodol, gan gydnabod yr
heriau y mae'r awdurdodau cyfansoddol yn eu hwynebu'n unigol o ran eu proses
pennu cyllideb.
Darparwyd manylion ychwanegol ynghylch Opsiwn 2B i'r
Pwyllgor, gan dynnu sylw at y ffaith bod yr opsiwn hwn yn cynnwys y ceisiadau a
oedd wedi'u derbyn gan dair o'r pedair ffrwd waith; Roedd Atodiad C yn manylu
ar y disgwyliadau y gellid eu cyflawni drwy'r gyllideb ar gyfer Trafnidiaeth,
Ynni a Datblygu Economaidd.
Yn ychwanegol at yr uchod, eglurwyd bod rhai heriau ar
hyn o bryd ynghylch diffinio gwaith a disgwyliadau'r ffrwd waith Cynllunio;
felly, ni ellid darparu'r cyllid yn yr un cyd-destun. Fodd bynnag, nodwyd bod
yr arweinwyr ar gyfer y ffrwd waith hon wedi cadarnhau'n flaenorol fod hon yn
sefyllfa dderbyniol, a'u bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi cyllid
ac eglurder pellach ynghylch cyflawni'r rhaglen waith.
Cynhaliwyd trafodaeth ynglŷn â sefyllfa gyllidebol
gyffredinol Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, pe bai Opsiwn 2B yn
cael ei gymeradwyo. Nodwyd bod y gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26 yn dangos
gwariant amcangyfrifedig o £710,300. Eglurodd swyddogion eu bod wedi edrych ar
opsiynau i geisio safoni'r tâl ardoll ar yr awdurdodau cyfansoddol, i'w gadw'r
un peth â'r hyn a godwyd ym mlwyddyn ariannol 2024/25; pe bai hyn yn cael ei
ystyried, byddai'n ofynnol i Swyddogion ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn i
ariannu hynny. Fel y crybwyllwyd yn flaenorol, byddai Swyddogion yn ceisio
gwneud hyn dros gyfnod o dair blynedd fel a ganlyn:
·
£153,500 ym mlwyddyn ariannol 2025/26.
·
£167,700 ym mlwyddyn ariannol 2026/27.
·
£182,200 ym mlwyddyn ariannol 2027/28.
Rhagwelwyd y byddai oddeutu £964,000 o gronfeydd wrth
gefn ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2024/25; felly, pe bai'r cronfeydd wrth gefn
yn cael eu defnyddio dros gyfnod o dair blynedd, byddai'n gadael balans o
£460,800 yn y pot arian wrth gefn erbyn diwedd y cyfnod hwnnw.
Yn ogystal â'r uchod, cynigiwyd codi ardoll fach ar y
ddau Awdurdod Parc Cenedlaethol ym mlwyddyn ariannol 2025/26; wrth i'r ffrwd
waith Cynllunio ddatblygu, byddai cyfrifoldeb ar yr Awdurdodau Parciau
Cenedlaethol hynny i gyfrannu at y swyddogaeth Gynllunio. Dywedodd Swyddogion
fod y tâl arfaethedig ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26 yn llai na £1,000 i
gyd; fodd bynnag, byddai hyn yn cynyddu dros amser wrth i'r gost o ddarparu'r
ffrwd waith hon gynyddu. Nodwyd bod cyflwyno'r egwyddor hon ar gyfer y flwyddyn
ariannol sydd i ddod yn hanfodol yn y sefyllfa gyffredinol, yn enwedig gan ei
fod yn rhywbeth yr oedd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru wedi gohirio
gwneud yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf wrth osod y tâl ardoll.
Wrth gwblhau'r amcanestyniad a'r cynnig a argymhellwyd,
dywedodd Swyddogion y byddai Opsiwn 2B yn galluogi i waith gael ei gyflawni ar
gyfer y ffrydiau gwaith, wrth gadw'r tâl ardoll yr un peth ar gyfer yr
awdurdodau cyfansoddol am y tair blynedd nesaf (gan ychwanegu'r tâl ardoll i'r
ddau Awdurdod Parciau Cenedlaethol); byddai arian wrth gefn yn cael ei
ddefnyddio dros gyfnod cyson a fyddai'n caniatáu hyblygrwydd i Gyd-bwyllgor
Corfforedig De-orllewin Cymru ddatblygu
yn ôl yr angen.
Hysbyswyd y Pwyllgor fod y cynigion a gynhwysir yn yr
adroddiad a ddosbarthwyd wedi'u cyflwyno i Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru; darparodd Swyddogion drosolwg o'r
adborth a dderbyniwyd gan aelodaeth y Pwyllgor hwnnw. Amlygwyd bod pryderon
wedi'u codi gan rai Aelodau, ynghylch y tâl ardoll; trafodwyd lleihau'r ardoll
oherwydd y pwysau ar bob un o'r awdurdodau cyfansoddol o ran pennu eu
cyllidebau eu hunain. Eglurwyd bod eu barn wedi'i nodi, ond ni chynigiwyd unrhyw
argymhellion ffurfiol gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu.
O ran yr
ymateb i'r pryderon a godwyd, amlygodd y Prif Swyddog Cyllid (Swyddog Adran
151) Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru'r rhesymau dros gynnig cadw'r
ardoll yr un peth; yn enwedig gan fod Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin
Cymru yn parhau i ddatblygu a chynyddu ei allu. Barn swyddogion oedd y byddai'n
synhwyrol ac yn rhesymol gosod yr un ardoll ag a gafwyd mewn blynyddoedd
blaenorol, a chario rhywfaint o arian ar gyfer treuliau annisgwyl a hyblygrwydd
yn y gyllideb; yn enwedig gan fod ffactorau anhysbys yn dal i fodoli o ran
datblygu Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a chyflawni ei amcanion.
Croesawodd arweinwyr yr adborth gan y Pwyllgor Trosolwg a
Chraffu, yn enwedig cydnabyddiaeth o'r pwysau yr oedd Awdurdodau Lleol yn eu
hwynebu o ran prosesau pennu cyllidebau. Fodd bynnag, y consensws cyffredinol
oedd cytuno ar Opsiwn 2B er mwyn sicrhau bod gan Gyd-bwyllgor Corfforedig
De-orllewin Cymru yr arian i ganiatáu i'r ffrydiau gwaith ddatblygu'n unol â
hynny a sicrhau bod lefel addas o gronfeydd wrth gefn ar gyfer gofynion y
dyfodol.
Cydnabuwyd bod Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau
Brycheiniog yn rhan o dri Chyd-bwyllgor Corfforaethol gwahanol; byddai'n bwysig
cofio hyn wrth osod yr ardoll yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
·
Bod y gyllideb ar gyfer Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin
Cymru, ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26, yn cael ei phennu a'i chymeradwyo ar
£710,300 (fel y manylir yn Atodiad C o'r adroddiad a ddosbarthwyd (Cyllideb y
gofynnwyd amdani gyda'r defnydd o gronfeydd wrth gefn)).
·
Bod y tâl ardoll, yn seiliedig
ar boblogaeth, i’w godi ar awdurdodau cyfansoddol, yn cael ei gymeradwyo fel a
ganlyn:
Ardoll Awdurdodau Lleol 2025/26:
(Ardoll) Cyngor Dinas a Sir Abertawe -
£191,188
(Ardoll) Cyngor Sir Gâr - £151,281
(Ardoll) CBS Castell-nedd Port Talbot -
£114,094
Cyngor Sir Penfro (Ardoll) - £99,414
(Ardoll) Awdurdod Parc Cenedlaethol
Bannau Brycheiniog - £147
(Ardoll) Awdurdod Parc Cenedlaethol
Arfordir Penfro (Ardoll) - £672
Cyfanswm = £556,797
Dogfennau ategol: