Agenda item

Cyllideb Ddrafft 2025-2026

Cofnodion:

Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd yn y pecyn agenda.

 

Dywedodd swyddogion fod rhwymedigaeth statudol i benderfynu ar y gyllideb   cyn diwedd mis Ionawr a bod yn rhaid hysbysu'r awdurdodau cyfansoddol o'r ardoll briodol.

 

Cyflwynwyd dau opsiwn i'r aelodau eu hystyried. Amlinellodd yr opsiwn cyntaf gyllideb barhad, sy'n sefyllfa debyg i'r un y cytunwyd arni dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Byddai hyn yn cyflwyno ychydig o oedi o ran cynnydd a byddai'n golygu gwneud y lleiafswm o waith. Yr ail opsiwn yw ehangu ar ffrydiau gwaith i alluogi gwaith i symud ymlaen a gwneud cynnydd. Cadarnhawyd bod y ffrwd waith trafnidiaeth wedi cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd wedi caniatáu i'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol symud ymlaen.

 

Nododd swyddogion y pwysau cyllidebol presennol ar yr awdurdodau cyfansoddol ac roeddent yn cydnabod bod yr awdurdodau'n ceisio lleihau gwariant presennol.

 

O ran y ddau opsiwn a gyflwynir ar gyfer y gyllideb, mae'r gyllideb gyntaf yn seiliedig ar adborth gan y ffrydiau gwaith a'r hyn y mae swyddogion yn teimlo y mae ei angen i gyflawni'r elfennau amrywiol ar draws y pedair disgyblaeth.

 

Gan gyfeirio'n benodol at gynllunio strategol, mae yna awydd gan swyddogion y dylai Llywodraeth Cymru gefnogi'r ffrwd waith hon gan eu bod wedi cefnogi'r cynllun datblygu strategol yn ystod blynyddoedd blaenorol. Mae'r gost o ddarparu'r ffrwd waith llawn oddeutu £600,000. Felly, mae swyddogion wedi dod i'r casgliad y dylid cynnal trafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru cyn y gellir ei chyflwyno. Nodwyd hefyd, pan sefydlwyd y Cyd-bwyllgor Corfforedig, roedd rhwymedigaeth wedi'i nodi i'r parciau cenedlaethol gyfrannu tuag at unrhyw swyddogaethau cynllunio sy'n mynd rhagddo.

 

Dywedodd swyddogion fod cynllun tair blynedd wedi'i awgrymu, lle mae cyfraniad o gronfeydd wrth gefn gwerth £153,000 yn ystod y flwyddyn gyntaf, £167,000 yn ystod yr ail flwyddyn a £182,000 yn ystod y drydedd flwyddyn. Bydd hyn yn cyfrannu at reoli eitemau chwyddiannol a pharhau i gadw'r ardoll yr un fath. Bydd hyn yn darparu amcangyfrif o £460,000 yn y cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y tair blynedd. Mae'r ymagwedd hon hefyd yn ddarbodus, o ran y pwysau y gellir ei roi ar awdurdodau cyfansoddol os cymerir cyfraniad uwch o gronfeydd wrth gefn yn ystod blwyddyn 1 ac yna mae'r ardoll ar awdurdodau cyfansoddol yn cynyddu yn ystod blynyddoedd 2 a 3.

 

Holodd yr Aelodau pa mor hyderus yw swyddogion o ran cywirdeb y gyllideb, yn enwedig rhagweld yr eitemau hynny sydd wedi dangos tanwariant cyson yn ystod blynyddoedd blaenorol?

 

Amlinellodd swyddogion y man cychwyn ar gyfer cyllideb y Cyd-bwyllgor Corfforedig a dywedwyd nad oes cyfeiriad clir ar hyn o bryd ynghylch pa mor weithgar y bydd y cyd-bwyllgor yn mynd i fod a faint o gynnydd fydd yn digwydd. Mae'r Cyd-bwyllgor yn datblygu'n barhaus ac mae angen i swyddogion ddarparu cymorth i sicrhau y gall cyflawni eitemau pan fo angen ac nad yw hyn yn cael ei oedi oherwydd diffyg darpariaeth gyllideb. Felly, gwnaed rhagdybiaethau yn ystod blynyddoedd blaenorol o ran yr hyn yr oedd ei angen. Hefyd, dywedodd swyddogion nad ydynt yn siŵr y bydd Llywodraeth Cymru'n darparu'r cyllid angenrheidiol er mwyn i eitemau symud ymlaen yn ôl yr angen. Os na ddarperir cyllid, yna gallai cynllunio strategol ofyn am gyfraniad sylweddol gan y cyd-bwyllgor. Er bod swyddogion yn cydnabod efallai bydd tanwariant eto ar ddiwedd y flwyddyn, gallai'r cyllidebau y cytunwyd arnynt ac a argymhellwyd roi'r cyd-bwyllgor mewn sefyllfa well. Hefyd, mae'r cyllidebau wedi caniatáu i'r ardoll gael ei chynnal ar yr un ardoll â blynyddoedd blaenorol yn hytrach na'i gynyddu.

 

Mynegodd rai aelodau eu hanfodlonrwydd â chywirdeb y gyllideb, ac ailadroddwyd, os nad oes angen cyllid ar gyfer rhywbeth, yna ni ddylid ei osod o fewn y gyllideb. Hefyd, nododd rai aelodau y dylai'r cyd-bwyllgor fod yn ystyried lleihau'r ardoll ar awdurdodau lleol, o gofio bod y gronfa wrth gefn gwerth 135% o'r gyllideb. Dywedodd swyddogion, o ran rheoli cyllidebau, mae'n gwneud llawer mwy o synnwyr i fod yn bwyllog ac i wneud symudiadau bach yn hytrach na symudiadau sylweddol o fewn yr ardoll.

 

Nododd yr Aelodau, pan fydd deddfwriaeth yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, mae'n rhaid i'r cyd-bwyllgor ymateb a gweithredu yn unol â hynny. Fodd bynnag, cytunwyd bod y baich yr oedd hyn yn ei roi ar awdurdodau lleol yn her, a dylai Llywodraeth Cymru ddeall nad yw cynghorau'n gallu cyflawni popeth sydd angen ei wneud, gyda'r lefel bresennol o gyllid sydd ar gael.

 

Dywedodd swyddogion y byddent yn cynghori aelodau'r cyd-bwyllgor o'r sylwadau a dderbyniwyd gan y pwyllgor craffu ar y gyllideb arfaethedig.

 

Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: