Agenda item

Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion - Cynnig i gau'r Ganolfan Cefnogi Dysgu i ddisgyblion â nam ar y golwg yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r ymatebion i'r ymgynghoriad, yr asesiadau effaith integredig a'r asesiadau risg, yn unol ag Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mae'r Aelodau'n cymeradwyo cyhoeddi cynnig yn statudol i gau'r ddarpariaeth arbenigol ar gyfer y ganolfan cefnogi dysgu arbenigol ar gyfer disgyblion oedran uwchradd sydd â nam ar eu golwg yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson.

 

Rhesymau dros y penderfyniad arfaethedig:

 

Mae angen y penderfyniad hwn i gydymffurfio â gofynion yr ymgynghoriad ffurfiol a osodir ar y Cyngor gan y Côd Trefniadaeth Ysgolion a deddfwriaeth berthnasol. Mae hysbysiad statudol drafft ynghlwm yn atodiad D. Bydd rhoi'r cynnig ar waith yn galluogi'r cyngor i hyrwyddo safonau addysgol uchel a chyflawni potensial pob plentyn. Bydd hefyd yn galluogi'r Cyngor i gyflawni ei ddyletswydd i sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio'n effeithiol yn unol â'r angen am leoedd arbenigol yn y Fwrdeistref Sirol.

 

Rhoi'r penderfyniad ar waith:

 

Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau

 

Dogfennau ategol: