Cofnodion:
Penderfyniad:
Bod
Aelodau'n rhoi caniatâd ar gyfer y canlynol:
· Swyddogion i ddod â'r
trefniadau comisiynu presennol i ben o 30 Ebrill 2025 ar gyfer darparu'r
gwasanaeth Llety â Chymorth ac i drosglwyddo'r gwasanaeth hwn i ddarpariaeth
uniongyrchol Cyngor Castell-nedd Port Talbot (dod ag ef yn fewnol).
· Swyddogion i weithredu
taliad 'sefydlu' newydd ar gyfer gwesteiwyr Llety â Chymorth newydd (hyd at
werth £200 y gwesteiwr) i ad-dalu eu mân dreuliau cychwynnol wrth ymuno â'r
gwasanaeth.
Rhesymau dros y Penderfyniad Arfaethedig:
Ystyried
yr adnoddau gofal cymdeithasol sydd ar gael wrth gynnal asesiad neu ailasesiad
o anghenion unigolion; sicrhau bod ystod gynaliadwy o wasanaethau o ansawdd da
ar gael i bobl ifanc yng Nghastell-nedd Port Talbot; cyfrannu tuag at yr
arbedion cyllidebol a nodwyd ym Mlaengynllun Ariannol y Cyngor; a chyfrannu at
nod Llywodraeth Cymru i ail-gydbwyso’r farchnad gofal cymdeithasol drwy symud
gwasanaethau i ffwrdd o sefydliadau er elw.
Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:
Cynigir rhoi'r penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau.