Agenda item

Monitro Ariannol Chwarterol - Chwarter 1 (10i) a Chwarter 2 (10ii) 2024/25

Cofnodion:

Cyflwynodd Stephen Aldred Jones adroddiad monitro ariannol chwarterol Ch1 a Ch2 24/25 fel y'u cynhwysir ym mhecyn yr agenda.

 

Gofynnodd yr aelodau pam mae'r Fargen Ddinesig yn rhoi £3 miliwn yn ôl a pham nad yw'n cael ei gadw'n ganolog ar gyfer prosiectau wrth iddynt symud yn eu blaen.

Nododd yr aelodau lithriant sylweddol ym mhrosiect Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer a holwyd a yw swyddogion yn hyderus y bydd adeiladwyr tai yn parhau. Gwnaethant hefyd ofyn am y potensial ar gyfer problemau pellach.

 

Gofynnodd yr aelodau a gafwyd gorwariant neu danwariant gydag Arena Abertawe.

 

Cadarnhaodd swyddogion y cafwyd tanwariant bach gyda phrosiect yr arena.

Holodd yr aelodau am statws prosiect yr Ardal Arloesedd ac a yw'n dal i fynd rhagddo.

 

Dywedodd swyddogion nad oeddent yn siŵr ac unwaith y byddant yn derbyn ffigurau'r trydydd chwarter, bydd ganddynt ddealltwriaeth dda.

Gofynnodd yr aelodau a gafwyd y llithriant mewn perthynas â chefnogi arloesedd a thwf carbon isel.

 

Holodd yr aelodau a yw'r prosiect isadeiledd digidol wedi derbyn cyllid ychwanegol gan y sector preifat ar gyfer gwaith pellach.

 

Eglurodd swyddogion y cynhelir adolygiad blynyddol o'r sector preifat ar gyfer isadeiledd digidol, ac mae'r ffigurau hyn flwyddyn ar ôl y flwyddyn ariannol flaenorol. Mae cwmni preifat yn cynnal adolygiad o'r sector preifat ac yna maent yn cyfrifo faint o arian sector preifat a fuddsoddwyd.

 

Cadarnhaodd Peter Austin, Rheolwr Ymgysylltu â Busnes, swm cyllid ychwanegol y sector preifat. Esboniodd swyddogion fod y prosiect digidol yn cael ei fonitro gyda blwyddyn o oedi, gan fod angen iddynt gwblhau'r gwaith cyn asesu ei effaith. Mae'r oedi hwn yn golygu bod rhagfynegi'n heriol ac yn achosi amrywiadau rhwng rhagfynegiadau a chanlyniadau diwedd blwyddyn.

 

Mewn perthynas â'r llog o £3 miliwn, dywedwyd wrth aelodau fod £54.4 miliwn o grantiau'r Fargen Ddinesig ar ddiwedd y flwyddyn ariannol yn y cyfrif o hyd.

 

Mae'r arian grant yn ddyledus i bartneriaid, ond ni ellir ei dalu i bartneriaid nes iddynt ei hawlio'r arian trwy ei wario. Felly arhosodd hynny yn y cyfrif gan gynhyrchu £3 miliwn mewn llog a bydd hyn yn cael ei dalu i bob awdurdod lleol yn seiliedig ar gyfran o grant y fargen ddinesig.

 

Defnyddiodd swyddogion enghraifft ddamcaniaethol o grant y fargen ddinesig sy'n werth £241 miliwn. Pe bai gan Abertawe grant y fargen ddinesig o £24.1 miliwn, byddent yn derbyn 10% o'r llog o £3 miliwn.

 

Gwneir taliadau dros dro hefyd drwy'r flwyddyn i helpu pob awdurdod lleol i wrthbwyso costau cynyddol ychwanegol wrth ymgymryd â'u prosiectau'r fargen ddinesig. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau mai cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw sut y defnyddir y llog hwnnw.

 

Gofynnodd aelodau a yw'n refeniw fesul mis neu a yw'n arian cyfalaf?

Dywedodd swyddogion mai refeniw yw hyn gan ei fod yn llog.

 

O ran SWITCH, bu cynnydd mewn costau adeiladu ac mae angen adolygiad o'r cynlluniau cost. Fodd bynnag, mae'r prosiect bellach yn symud ymlaen i Gam 4 RIBA a disgwylir i'r gwaith cynllunio gael ei gyflwyno yn chwarter tri 24/25. Mae swyddogion yn teimlo bod disgwyl iddynt wneud hynny ar y cyfan neu'n rhagweld y byddant yn gwario'r elfen grant lawn ac mai llithriant yn unig oherwydd trafodaethau'r Cyfleuster Cynhyrchu Gweithgynhyrchu Uwch sydd wedi arafu'r gwariant ar gyfer y flwyddyn.

 

Nodwyd yr adroddiad.

Dogfennau ategol: