Agenda item

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru i'r aelodau.

Amlygodd Swyddogion eu bod yn ceisio cymeradwyaeth gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, i ddechrau'r broses ymgynghori cyhoeddus ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft. Dywedwyd mai'r amserlen arfaethedig ar gyfer yr ymgynghoriad oedd wyth i ddeg wythnos, gan ddechrau o ddiwedd mis Ionawr/dechrau mis Chwefror. Ychwanegodd swyddogion mai'r ddwy elfen a fyddai'n rhan o'r ymgynghoriad oedd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft a'r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft.

Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor am y newidiadau canlynol y byddai swyddogion yn eu gwneud i'r dogfennau a ddosbarthwyd. Nodwyd y bydd y fersiwn wedi'i diweddaru yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu De-orllewin Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru:

·        Cynnwys Polisi 15 a oedd ar goll o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

·        Diwygiad i'r rhestr o gynlluniau:
1. Cynnwys nifer o gynlluniau rheilffyrdd a chefnffyrdd trydydd parti a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, y nododd swyddogion eu bod yn hanfodol ar gyfer y rhanbarth. Eglurwyd bod hyn yn arbennig o bwysig oherwydd y bydd y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth yn dod i ben yn 2027; felly, byddai cyfleoedd i dynnu sylw at gynlluniau yr hoffai'r rhanbarth eu gweld yn iteriad nesaf y cynllun hwnnw.
2. Cynnwys lleoliad bras ar gyfer pob cynllun i roi rhagor o eglurder ynghylch ble y byddai'r cynlluniau'n cael eu cyflawni, boed hynny'n Abertawe, yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn Sir Gaerfyrddin, yn Sir Benfro neu ledled y rhanbarth.

Cyfeiriodd swyddogion at yr achos dros newid a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2024. Eglurwyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu sylwadau ffurfiol ar yr achos dros newid.  Fodd bynnag, roeddent wedi bod yn gefnogol ac roeddent yn cytuno y dylai'r rhanbarth fwrw ymlaen â'r broses ddatblygu. Ychwanegwyd y byddai angen i swyddogion ofyn am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru o ran bwrw ymlaen â'r broses ymgynghori gyhoeddus.

Ategwyd bod yr achos dros newid yn nodi sefyllfa bresennol y rhanbarth a pham mae angen datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Mae'r achos dros newid a'r cynllun drafft yn adlewyrchu canllawiau strategaeth Trafnidiaeth Cymru o 2021. Mae strategaeth Trafnidiaeth Cymru yn nodi tair thema eang, a adlewyrchwyd yn y chwe amcan y byddai swyddogion yn ymgynghori arnynt, ynghyd â'r deunydd ategol.

Cyfeiriwyd at nifer y polisïau yn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft a oedd yn nodi'r fframwaith ar gyfer bwrw ymlaen â'r broses o wneud penderfyniadau o ran buddsoddiadau'r cynllun. Nodwyd bod hyn yn effeithio ar ystod o feysydd polisi eraill fel cynllunio defnydd tir, datblygu economaidd, materion amgylcheddol a thwristiaeth. Darparodd swyddogion drosolwg o sut mae'r ffrydiau gwaith gwahanol hyn yn cydgysylltu â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch hygyrchedd, yn benodol yr ymarfer manwl yr oedd swyddogion wedi'i gynnal i ddadansoddi hygyrchedd lleoliadau allweddol ar draws y rhanbarth, gan gynnwys canol trefi ac ysbytai. Amlygwyd bod y dadansoddiad hygyrchedd wedi'i gynnwys fel atodiad i'r adroddiad a ddosbarthwyd. 

Eglurodd swyddogion fod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn elfen allweddol o ran datblygu'r ffrwd waith hon. Roedd y cynllun yn cynnwys rhestr o gynlluniau a grëwyd drwy'r hyn a gynlluniwyd ac a ystyriwyd yn y rhanbarth yn flaenorol, yn ogystal â phenderfynu ar yr hyn y gellid ei ystyried yn y dyfodol. Nodwyd y bydd Swyddogion yn gweithio ochr yn ochr â'r ymgynghoriad cyhoeddus i geisio deall beth fyddai blaenoriaeth y cynlluniau hynny.

Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor nad oedd swyddogion wedi derbyn eglurder terfynol eto ynghylch cyllid na'r dulliau a ddefnyddir i ddosbarthu'r cyllid ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol o 2026 ymlaen. Eglurwyd bod proses o foderneiddio grantiau ar y gweill yr oedd swyddogion yn ymwneud yn helaeth â hi. Roedd swyddogion wedi cael barn anffurfiol gan swyddogion Llywodraeth Cymru o ran cymryd rhan o'r broses hon, a thynnwyd sylw'r aelodau at rai ohonynt.

Cyfeiriodd swyddogion at yr Asesiad Effaith Integredig a ffurfiodd y dadansoddiad statudol o'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft. Nodwyd bod y ddogfen hon yn mynd rhagddi ar hyn o bryd wrth i fatrics y cynllun ddatblygu. Mynegwyd y byddai adroddiadau cwmpasu ar gyfer yr Asesiad Effaith Integredig yn cael eu cynnwys yn y pecyn ymgynghori, a oedd yn nodi'r hyn y dylid ei gynnwys, pam y dylid ei gynnwys a sut y byddai'r asesiad yn cael ei gynnal.

Yn ogystal â'r uchod, nodwyd ei fod yn ofynnol i swyddogion gynnal asesiad amgylcheddol strategol o'r cynllun a'r cynlluniau sy'n rhan ohono. Roedd hyn yn seiliedig ar gymhlethdod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r cyngor a dderbyniwyd gan y Swyddog Monitro. Hysbyswyd yr aelodau fod swyddogion eisoes wedi cysylltu â'r cyrff statudol priodol mewn perthynas â'r mater hwn. Roedd yr adroddiad cwmpasu, a gynhwysir yn y dogfennau a ddosbarthwyd ar gyfer y cyfarfod hwn, yn adlewyrchu barn y cyrff statudol perthnasol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Cadw a Cyfoeth Naturiol Cymru.

Yn dilyn trosolwg y swyddogion, darparwyd rhagor o fanylion mewn perthynas â Pholisi 15 a oedd ar goll o'r adroddiad a ddosbarthwyd. Eglurwyd bod Polisi 15 yn ymwneud â hedfanaeth a mynediad at hedfanaeth. Roedd yn rhaid cynnwys y polisi hwn yn y ddogfennaeth gan ei fod yn rhan o'r canllawiau. Yn gyffredinol, dywedodd swyddogion fod y polisi hwn yn edrych yn benodol ar faterion sy'n ymwneud â meysydd awyr mawr fel Caerdydd a Bryste, a sut yr oeddent yn gweithredu. Er bod y meysydd awyr hyn y tu allan i ranbarth y de-orllewin, roedd y polisi'n adlewyrchu pwysigrwydd sicrhau y byddai de-orllewin Cymru yn cael ei gynnwys yn y trafodaethau ynghylch mynediad i'r meysydd awyr hynny.

Rhannodd swyddogion fanylion penodol Polisi 15 ar y pwynt hwn yn y cyfarfod; roedd y trosolwg fel a ganlyn:

'Gwella mynediad i feysydd awyr rhanbarthol a meysydd awyr cenedlaethol. Nid yw'r tri maes awyr lleol yn y rhanbarth wedi'u trwyddedu ar gyfer gwasanaethau masnachol ar hyn o bryd. Bydd y rhanbarth yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phleidiau eraill i gefnogi datblygiad mynediad da i feysydd awyr rhanbarthol a chenedlaethol yn y DU, yn enwedig ar drafnidiaeth gyhoeddus'. 

Cafwyd trafodaeth bellach ynghylch cyllid, yn benodol cyllid tymor hwy. Dywedwyd bod swyddogion yn aros i’r opsiynau gael eu cyflwyno o ran cyllid tymor hwy, ac yna bydd angen iddynt ddeall effeithiau beth bynnag fo’r opsiynau hynny. Roedd swyddogion yn obeithiol y bydd cydnabyddiaeth o'r anhawster gyda'r broses ymgeisio ar gyfer awdurdodau lleol.

Gofynnodd yr aelodau a oedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi unrhyw arwydd o'r amserlenni sy'n gysylltiedig â'r broses o wneud penderfyniadau ar gyllid. Cadarnhawyd nad oedd swyddogion wedi cael gwybod am unrhyw amserlenni penodol; fodd bynnag, roedd Llywodraeth Cymru yn awyddus i roi’r dulliau ar waith yn barod ar gyfer cyflwyno'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

Rhoddwyd manylion ychwanegol mewn perthynas â'r diwygiadau i'r rhestr o gynlluniau, fel y crybwyllwyd uchod. Cyflwynwyd darlun gweledol i'r Pwyllgor o'r gwaith fformatio a oedd wedi'i gwblhau i gynnwys lleoliad bras y gwahanol gynlluniau. Dangosodd swyddogion drosolwg o'r cynlluniau trydydd parti, rheilffyrdd a chefnffyrdd, a rhoddodd drosolwg byr o'r manylion. Amlygwyd nad oedd y rhanbarth yn gallu gwneud cais am arian ar gyfer y cynlluniau hyn gan eu bod yn cael eu cadw gan Lywodraeth Cymru a'i hasiantaethau i'w cyflawni; fodd bynnag, roedd Swyddogion yn gallu cyfleu pwysigrwydd y cynlluniau ar gyfer y rhanbarth. Crybwyllwyd mai'r arwydd cychwynnol gan Lywodraeth Cymru oedd cynnwys cynlluniau yr oedd y rhanbarth a'r awdurdodau lleol yn gallu eu cyflawni yn unig; fodd bynnag, roedd consensws cryf y byddai'n bwysig gweld y cynlluniau strategol mwy.

Darparwyd disgrifiad o'r gweithgareddau ymgynghori arfaethedig i'r pwyllgor. Nodwyd mai ymgynghoriad ar-lein oedd yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus blaenorol a gynhaliwyd, ynghyd â nifer o gyfarfodydd â grwpiau rhanddeiliaid allweddol fel gweithredwyr bysus a threnau a'r sector addysg ac iechyd. O ran yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus sydd ar ddod, cynigiwyd bod y gyfran ar-lein yn cael ei chynnal ochr yn ochr â digwyddiadau wyneb yn wyneb ym mhob un o'r pedwar awdurdod lleol. Ar hyn o bryd roedd swyddogion yn ceisio nodi lleoliadau addas ar gyfer y sesiynau hynny. Nodwyd y bydd y gwaith allgymorth rhanddeiliaid yn cael ei ailadrodd o ran y grwpiau ffocws. Bydd ymgysylltu mwy ffurfiol ag ystod o randdeiliaid a chyrff statudol hefyd. Hysbyswyd y pwyllgor y bydd cynllun ymgysylltu yn cael ei ailgyhoeddi unwaith y bydd yr ymgynghorwyr wedi cytuno ar y cynlluniau dros yr ychydig wythnosau nesaf.

Soniodd yr aelodau am bwysigrwydd cael adborth o bob rhan o'r rhanbarth, a'r angen i weithio gyda'r Timau Cyfathrebu ym mhob un o'r pedwar awdurdod lleol i sicrhau bod yr ymgynghoriad yn cyrraedd mwy o bobl. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn defnyddio llawer mwy o offer marchnata i helpu i ymgysylltu â'r ymgynghoriad, gan gynnwys posteri a chodau QR mewn gwahanol leoliadau.

Roedd canlyniadau'r ymgynghoriad blaenorol yn amlygu nad oedd llawer o ymgysylltu gan bobl iau. Roedd swyddogion yn ymchwilio i ymarferion ymgysylltu annibynnol â phobl iau ar draws y rhanbarth. Nodwyd bod trafodaethau'n cael eu cynnal â'r awdurdodau addysg lleol o ran ymgysylltu ag ysgolion, a hefyd cyrff addysg bellach fel colegau a phrifysgolion.

Gofynnwyd i swyddogion roi'r wybodaeth ddiweddaraf gryno am fwrw ymlaen â'r broses flaenoriaethu. Nodwyd y bydd angen gwneud rhywfaint o waith gwerthuso cyn yr ymgynghoriad, yn benodol o ran y cynlluniau cyflawni a'r rhestr o gynlluniau. Roedd swyddogion yn obeithiol y bydd yr adborth o'r ymgynghoriad hefyd yn helpu i lunio'r blaenoriaethau. Hysbyswyd yr aelodau fod trafodaethau ar y gweill ar draws y pedwar awdurdod lleol o ran penderfynu ar y ffordd orau o lunio'r rhestr o flaenoriaethau.

Cyfeiriwyd at yr offeryn blaenoriaethu y cyfeirir ato yn Atodiad 5 yr adroddiad a ddosbarthwyd; roedd hwn yn nodi'r ymagwedd y bydd y swyddogion yn ei mabwysiadu er mwyn graddio'r cynlluniau. Soniwyd y byddai'r offeryn hwn yn cynghori swyddogion; byddai angen cynnal trafodaethau pellach er mwyn darparu'r cyd-destun ehangach a chymdeithasol i'r dull sgorio cyn penderfynu'n derfynol ar restr argymelledig i fwrw ymlaen â hi. Amlygwyd y byddai angen ystyried llywodraethu ar lefel leol fel rhan o'r gwaith blaenoriaethu. Bydd angen i bob awdurdod lleol fynd drwy broses cyn y blaenoriaethu rhanbarthol. 

Cafwyd trafodaeth ynghylch rhoi awdurdod dirprwyedig i Gadeirydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol wneud unrhyw newidiadau a all fod yn angenrheidiol i ddiwygio'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft cyn iddo gael ei gymeradwyo gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad ychwanegol hwn yn ffurfiol ac fe’i cefnogwyd gan yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol.

Diolchodd y Pwyllgor i'r Swyddogion am yr holl waith yr oeddent wedi'i wneud hyd yma wrth baratoi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

PENDERFYNWYD:

Bod Cadeirydd yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael awdurdod dirprwyedig i wneud unrhyw newidiadau a all fod yn angenrheidiol i ddiwygio'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft cyn iddo gael ei gymeradwyo gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru.

Bod yr adroddiadau cynnydd llafar gan swyddogion ar ffrydiau gwaith datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael eu nodi.

Bod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft a'r dogfennau ategol ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu cymeradwyo.

Bod rhaglen gwaith datblygu ddiweddaraf y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael ei chymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: