Cofnodion:
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda.
Holodd yr aelodau am rywfaint o wybodaeth a oedd yn
ymwneud â'r tanwariant a amlinellir yn y cyllidebau addysg. Cyfeiriodd yr
aelodau yn benodol at y gyllideb cynnal a chadw cyfalaf a phrydau ysgol am ddim
cyffredinol.
O ran cynnal a chadw cyfalaf, dywedodd swyddogion y
bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn cael ei wneud yn ystod gwyliau'r haf gan ei fod
yn ymwneud ag adnewyddu, adeiladu a gwaith trydanol. Gan gyfeirio at y cymorth
i ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, cynigiwyd y grant hwn yn hwyr a bydd
y gwaith yn dechrau yn ystod y cyfnod rhwng mis Medi a mis Rhagfyr. O ran yr
ysgolion bro, mae pedwar prosiect yn yr arfaeth a fydd yn dechrau’n gynnar yn
yr hydref.
Pan fydd grantiau cyfalaf yn cael eu derbyn,
cadarnhaodd swyddogion fod yn rhaid
iddynt fynd drwy broses dendro a bod yn rhaid llunio dyluniadau. Fel arfer, mae
hyn yn amodol ar ganiatâd cynllunio hefyd. Mae'n cymryd amser i sicrhau bod y
broses hon yn cael ei dilyn yn ôl yr angen.
Gwnaeth yr aelodau drafod y Gronfa Ffyniant
Gyffredin a holi a fyddai'r amserlenni i wario'r cyllid yn cael eu bodloni.
Cadarnhaodd swyddogion fod y mwyafrif helaeth o'r cyllid ar y trywydd iawn i'w
wario yn unol â'r amserlenni.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod y rhaglen ariannu
ar fin cyrraedd blwyddyn bontio. Mae hyn yn golygu bod yr hen raglen ariannu'n
dod i ben, felly os na chaiff ei wario cyn hynny, bydd angen dychwelyd cyllid a
oedd ar gael i sefydliadau hyd at fis Mawrth 2025 i Lywodraeth y DU. Fodd
bynnag, cadarnhaodd swyddogion fod CNPT ar y trywydd iawn i wario'r arian a
ddyrannwyd iddynt.
Holodd yr aelodau am y gronfa 'cymorth bwyd
uniongyrchol'. Cadarnhaodd swyddogion mai dyma olynydd yr hyn a arferai fod yn
'grant tlodi bwyd'. Mae'r grant ar gael i ddarpariaethau fel y banc bwyd, er
mwyn gwneud cais am offer cyfalaf.
Cadarnhaodd swyddogion mai'r trac rasio yng Nghwrt
Herbert yw'r trac athletau.
Holodd yr aelodau pam nad yw'n ymddangos bod cyllid
wedi'i ddyrannu i glirio'r hyn a gafodd ei ddymchwel ar Heol Dyfed. Cadarnhaodd
swyddogion fod cyllideb wedi'i dyrannu yn 2023/24, pan wnaed y prif waith
dymchwel. Roedd rhywfaint o wariant gweddilliol yn 2024/25 nad oedd cyllideb ar
ei gyfer.
O ran maes parcio Heol Milland, dywedodd swyddogion
fod yr awdurdod yn prydlesu'r maes parcio a dan delerau ac amodau'r brydles
mae'r awdurdod yn gyfrifol am waith atgyweirio a chynnal a chadw ar y safle,
gan gynnwys y waliau cynnal.
Holodd yr aelodau am y gyllideb a amlinellwyd ar
gyfer gwaith adnewyddu ar 6 Ffordd yr Orsaf. Er nad yw'r gyllideb wedi'i gwario
eto, dynodwyd bod y prosiect wedi'i gwblhau.
Cadarnhaodd swyddogion fod yr adeilad yn parhau i fod yn wag ar hyn o
bryd. Mae'r gwaith y mae ei angen ar yr adeilad yn helaeth ac ar hyn o bryd
mae'n fwy na swm y cyllid sydd ar gael. Fodd bynnag, mae wedi'i roi ar restr o
adeiladau â blaenoriaeth; pe bai Llywodraeth Cymru'n clustnodi mwy o arian
cyfalaf, nodir bod yr adeilad yn flaenoriaeth.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: