Cofnodion:
Ystyriodd yr aelodau’r adroddiad a ddosbarthwyd ym
mhecyn yr agenda.
Holodd yr aelodau sut roedd swyddogion yn monitro'r
arbedion amcanestynedig nas cyflawnwyd yn ystod y flwyddyn yn yr adrannau
amrywiol. Cadarnhaodd swyddogion fod cyfarfodydd misol â'r rheolwyr gwasanaeth
amrywiol i ystyried eu cyllidebau a phenderfynu ar yr hyn y maent yn ei wneud
mewn perthynas ag incwm ac arbedion a ddarparwyd hyd yn hyn a beth fydd
sefyllfa debygol eu cyllidebau ar ddiwedd y flwyddyn. Er y cydnabyddir y gall
hyn fod yn oddrychol, derbynnir mai'r asesiadau coch, oren a gwyrdd yw'r ffordd
orau o benderfynu a oes modd cyflawni'r arbedion yn y dyfodol. Wrth ystyried
cynllunio'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod, rhoddir ystyriaeth wedyn i'r
pwysau cylchol ynghylch a oes angen eu hystyried fel pwysau cyllidebol
sylfaenol neu a yw'n ymwneud ag amseru'n unig.
Holodd yr aelodau pam nad oedd chwyddiant wedi'i
ddyfarnu yng nghyllideb 2024/25.
Cadarnhaodd swyddogion nad oedd chwyddiant wedi'i ddyfarnu ar gyfer y gyllideb
cyflenwadau a gwasanaethau. Felly, cynghorwyd yr holl adrannau adran a oedd yn
meddu ar gyllideb cyflenwadau a gwasanaethau bod yn rhaid iddynt gyflawni yn
unol â'u cyllidebau perthnasol. Fodd bynnag, yr hyn na chafodd ei ragdybio oedd
y byddai meysydd penodol yn cynyddu mwy na 3%, er enghraifft cynnal a chadw
priffyrdd. Roedd hyn yn golygu bod y gyllideb yn cael ei rhoi dan fwy o bwysau,
gan arwain at orwariant yn ystod y flwyddyn. Yn y dyfodol, mae swyddogion yn
ystyried dull sy'n benodol i'r gwasanaeth i sicrhau bod chwyddiant yn cael ei
ddyrannu'n briodol ar draws y gwasanaethau amrywiol.
Holodd yr Aelodau am y gorwariant ar y gyllideb
cludiant rhwng y cartref a'r ysgol ac a oedd modd unioni'r gorwariant hwn yn
ystod y flwyddyn. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau mai'r bwriad oedd cyflawni'r
arbedion targed o £250,000 yn ystod y flwyddyn drwy aildendro llwyth o lwybrau
cludiant rhwng y cartref a'r ysgol ym mis Medi. Fodd bynnag, yn dilyn y broses
aildendro, ni chronnwyd yr arbedion ac roedd y llwybrau yn ddrytach yn y pen
draw. Cafodd rhywfaint o'r cynnydd mewn
costau ei wrthbwyso drwy symleiddio llwybrau, ond roedd y sefyllfa gyffredinol
yn dangos gorwariant o £659,000. Cynhaliwyd cyfarfod â'r ymgynghorwyr sydd wedi
mynegi hyder os bydd y broses aildendro’n cael ei chynnal eto y flwyddyn nesaf
y dylent allu cyflawni'r gorwariant o £350,000, ynghyd â'r £500,000 yn y
cynllun ariannol tymor canolig. Mae rhagor o waith yn cael ei wneud hefyd yn y
maes gwasanaeth i geisio lleihau costau cludiant. Amlinellodd yr aelodau eu
pryder o ran y contract a'r ffaith nad yw arbedion wedi'u gwireddu eto. Cadarnhaodd
swyddogion fod y gwaith sy'n cael ei wneud gan swyddogion CNPT yn cyd-fynd â
gwaith yr ymgynghorwyr allanol. Cadarnhaodd swyddogion fod mewnbwn gan sawl
gwasanaeth i reoli'r prosiect hwn. Awgrymodd swyddogion y gallai seminar ar yr
eitem hon fod yn ddefnyddiol i alluogi aelodau i ddeall y contract a'r meysydd
gwasanaeth sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn. Awgrymodd yr aelodau fod angen
galw cyfarfod craffu ar y cyd i ystyried yr eitem hon yn fanylach.
Nododd yr aelodau y diffygion sy'n dod i'r amlwg o
ran ysgolion, gan holi am wirionedd y cynlluniau adfer ar gyfer cyllidebau
ysgolion. Amlinellodd swyddogion y
broses sy'n cael ei chynnal i lunio a chymeradwyo'r cynlluniau adfer. Rhoddwyd
gwybod i'r aelodau mai'r cyfarwyddwr sy'n rhoi'r gymeradwyaeth derfynol, ac ar
yr adeg honno bydd y cynlluniau'n realistig iawn. Bydd amserlen pob ysgol yn
amrywio.
Nododd yr aelodau fod yr adroddiad yn amlinellu
mesurau newydd sydd ar waith o ran torri offer ailgylchu cartref a gofynnwyd am
ragor o wybodaeth am yr eitem hon. Dywedodd swyddogion fod llawer o offer wedi
torri a bod llwyth o'r hen becyn yn dal i gael ei ddefnyddio sy'n fwy tebygol o
gael ei ddifrodi na phecynnau eraill. Mae criwiau'n cael eu briffio'n rheolaidd
am osod offer yn ôl yn y man casglu yn hytrach na'u taflu. Gall aelodau o'r
cyhoedd hefyd roi gwybod am offer sydd ‘wedi'u difrodi gan griw’ a gellir
croesgyfeirio cwynion yn erbyn criwiau casglu. Mae hyn yn rhoi cyfle i fynd i'r
afael â chriwiau penodol os oes problemau mynych. Mae goruchwylwyr hefyd yn
cynnal hapwiriadau mewn mannau penodol lle mae offer yn cael eu difrodi'n
fynych.
Nodwyd bod y gorwariant ar oleuadau stryd o
£220,000 wedi'i nodi'n wyrdd. Cadarnhawyd mai camgymeriad oedd hwn ac na
chyflawnwyd yr arbedion.
Holodd yr aelod am y cynnydd presennol ar arbedion
o ran goleuadau stryd. Dywedodd swyddogion fod cynllun peilot yn cael ei gynnal
ar hyn o bryd o ran opsiynau posib. Pan ddaw'r cynllun peilot i ben, bydd
adroddiad yn cael ei gyflwyno gerbron y Cabinet i ystyried y canfyddiadau ac
unrhyw ffordd arfaethedig o fynd rhagddi. Mae'r fenter wedi cael ei chyflwyno i
geisio lleihau'r ôl troed carbon a lleihau faint o arian sy'n cael ei wario ar
ynni.
Yn dilyn craffu, nodwyd cynnwys yr adroddiad.
Dogfennau ategol: