Cofnodion:
Dywedodd y
Cadeirydd wrth yr aelodau y byddai'r cynigion arbedion cyllidebol a oedd yn
rhan o gylch gwaith y pwyllgor yn destun craffu. Byddai sylwadau o'r cyfarfod
yn rhan o'r ymateb i’r ymgynghoriad ffurfiol ar y gyllideb. Anogwyd aelodau i
gynnig unrhyw gynigion amgen y gellid eu hystyried ar ôl i'r ymgynghoriad ddod
i ben.
Cynghorodd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes yr aelodau mai nod yr Uwch-dîm
Arweinyddiaeth oedd amddiffyn swyddi a gwasanaethau cyn belled ag y bo modd;
nid oedd unrhyw achosion o golli swyddi'n orfodol yn ymwneud yn uniongyrchol
â'r arbedion effeithlonrwydd arfaethedig. Fodd bynnag, mae risgiau'n
gysylltiedig â'r cynigion cynhyrchu incwm oherwydd gall ffactorau allanol megis
y tywydd effeithio ar nifer yr ymwelwyr ac felly incwm. Mae hefyd risgiau mewn
perthynas â chwblhau prosiectau cyfalaf megis Canolfan Celfyddydau Pontardawe,
ond gwnaed rhagdybiaethau y byddai'r prosiectau'n cael eu cwblhau o fewn yr
amserlen. Mae rhai arbedion effeithlonrwydd yn gysylltiedig â chostau craidd yn
erbyn grantiau ac nid oes unrhyw ymwybyddiaeth ynghylch unrhyw grantiau sy'n
debygol o ddod i ben, felly mae'r risgiau'n fach ar hyn o bryd. Fodd bynnag,
gall camau gweithredu Llywodraeth Cymru achosi newidiadau i grantiau penodol.
Amlinellodd pob
Pennaeth Gwasanaeth yr arbedion a'r cynigion cynhyrchu incwm o dan bob llinell
cyllideb yn yr adroddiad ym mhecyn yr agenda:
ELLL-A - Cynghorodd y Pennaeth Hamdden,
Twristiaeth a Diwylliant a Threftadaeth yr aelodau fod yr arbedion arfaethedig
yn gweithio tuag at gyflawni'r cymhorthdal isaf posib ar gyfer gwasanaeth
anstatudol. Mae un achos o golli swydd yn wirfoddol, ac mae'r cynllun yn
cynnwys gwella'r incwm a gynhyrchir drwy barcio ceir a digwyddiadau. Cydnabuwyd
y bydd yn fwy heriol cyflawni'r cynnydd yn y targed ar gyfer y flwyddyn nesaf.
Dywedodd yr
aelodau fod gorfodi yn allweddol i'r cynnig parcio ceir a gofynnwyd pa fesurau
a fydd yn cael eu defnyddio i sicrhau bod gorfodi ar waith. Gofynnodd yr
aelodau am fanylion pellach ynghylch sut y cynhelir yr ymgynghoriad.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth fod y Cabinet wedi cytuno ar yr adolygiad o feysydd parcio
parciau gwledig, a'i fod wedi rhoi awdurdod i ddechrau ar yr ymgynghoriad
ynghylch ffioedd parcio ceir. Byddai'r gorchymyn parcio oddi ar y stryd yn cael
ei hysbysebu am gyfnod penodol a byddai sylwadau o'r ymgynghoriad yn cael eu
cyflwyno i'r Cabinet yn y man. Roedd yr ymgynghoriad yn rhan o broses statudol.
Cytunwyd bod gorfodi mewn meysydd parcio yn hanfodol, ac mae hyn yn cael ei
ystyried.
Gofynnodd yr
aelodau am fanylion yr ymgynghoriad fel y gallant eu rhannu â'u hetholwyr.
Gofynnodd yr
aelodau sut y byddai arbedion yn cael eu cyflawni, gan ystyried nas cyrhaeddwyd
y targed y llynedd ac y byddai rhagor o arbedion effeithlonrwydd yn
angenrheidiol y flwyddyn nesaf. Beth fydd y goblygiadau os nad yw'r targed
arbedion yn cael ei gyrraedd?
Cadarnhaodd y
Pennaeth Hamdden, Twristiaeth a Diwylliant a Threftadaeth y cafwyd anawsterau
yn cyrraedd y targed arbedion yn y flwyddyn ddiwethaf oherwydd costau
cyfleustodau a rheoli swyddi gwag. Fodd bynnag, roedd mwy o sefydlogrwydd eleni
ac roedd yr arbedion cyllidebol yn gyraeddadwy.
ELLL-B Amlinellodd y Pennaeth Hamdden,
Twristiaeth, Diwylliant a Threftadaeth fanylion yr arbediad arfaethedig o
£40,000. Byddai anhawster yn cyflawni'r arbediad oherwydd gorwariant a chau'r
safle yn ystod y gwaith cyfalaf. Mae'r cynllun cyfan yn canolbwyntio ar sinema,
bar a chaffi newydd. Mae risgiau'n berthnasol, pe bai'r prosiect yn gor-redeg,
byddai'n effeithio ar yr elw ar gyfer y flwyddyn sydd ar ddod. Mae'r risgiau'n
cael eu rheoli ar hyn o bryd.
Gwnaeth yr
aelodau ganmol y cyfleusterau yn y ganolfan a'r staff sydd wedi bod yn gweithio
yn ystod y gwaith adnewyddu er mwyn cynnal y cyfleusterau. Gofynnodd yr aelodau
am ddiweddariad pellach ynghylch a fyddai'r prosiect yn gor-redeg, a gofynnwyd
am ymweliad safle.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Diwylliant a Threftadaeth y bydd cyfarfod
prosiect gyda'r contractwyr yn cael ei gynnal cyn bo hir. Byddai manylion
pellach ar gael yr wythnos nesaf mewn perthynas â dyddiadau cwblhau, a threfnir
ymweliad safle pan y bo'n briodol. Nodwyd bod staff wedi gweithio'n galed i
gadw'r cyfleusterau ar agor, a bod cwsmeriaid wedi bod yn ffyddlon.
ELLL-C
Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Diwylliant a Threftadaeth
fod y cynnig o ran arbedion yn ymwneud â'r elfen effeithlonrwydd a gynhwyswyd
yn y contract Hamdden Celtic. Gobeithiwyd y byddai'r arbediad effeithlonrwydd
yn parhau ar gyfer pum mlynedd y contract estynedig.
Gofynnodd yr
aelodau a fyddai'r lleoliad Pure Gym sydd newydd agor yng Nghastell-nedd yn
cael unrhyw effaith ar fasnachu yng Nghanolfan Hamdden Castell-nedd.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth bod aelodaeth a masnachu yn tueddu i gynyddu ym mis Ionawr.
Ni ragwelwyd y byddai Pure Gym yn effeithio ar fasnachu gan fod y
cyfleusterau'n apelio at bobl wahanol. Bydd Hamdden Celtic yn monitro'r
sefyllfa ac yn ymateb yn hyblyg ac yn rhagweithiol i farchnata a chynigion.
Gofynnodd yr
aelodau ai Hamdden Celtic neu'r awdurdod lleol fyddai'n gyfrifol am y
newidiadau ynghylch cynyddu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr.
Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Cyllid y rhagdybiwyd y byddai'r awdurdod lleol yn gyfrifol am y
gost ac mae wedi'i chynnwys yn y cymhorthdal a dalwyd i Hamdden Celtic. Ar hyn
o bryd mae ansicrwydd ynghylch hyn, ond y gobaith yw y bydd Llywodraeth y DU yn
ariannu yswiriant gwladol yn llawn ar gyfer ein staff ni a gwasanaethau wedi'u
comisiynu. Nodwyd bod nifer o sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyngor
y gall y newidiadau i yswiriant gwladol effeithio arnynt.
ELLL - D Roedd yr arbediad arfaethedig yn ymwneud
â'r cymhorthdal a dalwyd i Hamdden Celtic, yn dilyn y penderfyniad i gau pwll
nofio Pontardawe am resymau iechyd a diogelwch.
Gofynnodd yr
aelodau a oedd yr arbediad yn cynnwys y gost o gynnal yr astudiaethau
dichonoldeb ar gyfer safle newydd ac adeiladu pwll newydd?
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth nad oedd cost yr astudiaeth ddichonoldeb wedi'i chynnwys.
Gobeithiwyd y byddai ymgynghorwyr yn cael eu penodi yn y man. Roedd yr arbediad
arfaethedig yn ymwneud ag elfen gweithredu'r pwll. Os yw'r cyngor yn penderfynu
adeiladu pwll newydd yn y dyfodol, yna byddai'n rhaid cynnwys y costau
gweithredu.
Gofynnodd yr
aelodau am eglurhad ynghylch a fyddai'r arbedion yn cael eu priodoli i Hamdden
Celtic ac nid y cyngor. Holodd yr aelodau a oedd y costau o ddymchwel y pwll
newydd a chynnal y safle hefyd wedi'u neilltuo i bwyllgor arall.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gostau eraill, ac y byddai'r
costau dymchwel yn cael eu talu drwy wariant cyfalaf. Byddai'r arbedion mewn
perthynas â chostau gweithredu yn cael eu cynnwys ym masnachu Hamdden Celtic,
fodd bynnag y trefniant rhwng Hamdden Celtic a'r awdurdod lleol yw bod unrhyw
arbedion yn cael eu trosglwyddo yn ôl i'r awdurdod. Cadarnhaodd y Pennaeth
Gwasanaeth mai ffigur net oedd y ffigur a nodwyd yn y papurau.
Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y cyflawnwyd yr arbedion
effeithlonrwydd oherwydd roedd Hamdden Celtic yn gweithredu pwll nofio
Pontardawe yn flaenorol. Mae'r ffigur wedi'i gyflwyno fel gostyngiad gan fod y
ffi reoli yn llai ar hyn o bryd. Mae'r ffigur a nodwyd yn amcangyfrif ac nid
yw'n hysbys faint o nofwyr o Bontardawe a fydd yn defnyddio'r pwll nofio yng
Nghanolfan Hamdden Castell-nedd.
Dywedodd yr
aelodau y dylai'r esboniad hwn gael ei nodi'n fwy eglur yn y tabl yn y pecyn
agenda.
ELLL-E Dywedodd y pennaeth Hamdden, Twristiaeth,
Diwylliant a Threftadaeth wrth yr aelodau y byddai'r arbedion yn cael eu
cyflawni drwy incwm a gynhyrchwyd o ddigwyddiadau ac atyniadau ychwanegol ar
lan y môr, a oedd yng nghanol y cam cynllunio ar hyn o bryd; roedd yn hyderus
bod modd cyflawni'r arbedion.
Mynegodd yr
aelodau eu cefnogaeth ar gyfer digwyddiadau ac atyniadau ychwanegol yng Nglân
Mor Aberafan a dywedwyd y bu presenoldeb da mewn digwyddiadau a gynhaliwyd ar lan y môr.
ELLL - F
Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Diwylliant a Threftadaeth
fod tîm y Gwasanaeth Llyfrgell ac Adnoddau Addysg (ELRS) yn darparu
gwasanaethau reprograffig ac argraffu, i ysgolion yn bennaf. Mae cynllun busnes
yn cael ei ddatblygu i benderfynu a all y gwasanaeth weithio yn fwy masnachol.
ELLL – G Roedd y cynnig ynghylch arbedion yn
ymwneud â dod â'r gwasanaeth prynu DVDs i ben gan fod galw cyfyngedig am yr
eitemau hyn.
ELLL - H Darparodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi
a Thrawsnewid wybodaeth gefndir i'r aelodau mewn perthynas â chludiant rhwng y
cartref a'r ysgol, sy'n cael ei weithredu gan Gyfarwyddiaeth yr Amgylch a'r
Gyfarwyddiaeth Addysg. Delir y gyllideb
gan y Gyfarwyddiaeth Addysg a gwneir y gwaith gweithredol gan Gyfarwyddiaeth yr
Amgylchedd. Y cynnig cyllidebol yw parhau â'r adolygiad o'r trefniadau
presennol, a gynhelir yn allanol.
Dywedodd y
Cadeirydd wrth yr aelodau fod cyfarfod ar y cyd ar gyfer y Pwyllgorau Craffu ar
Wasanaethau Addysg, Sgiliau a Lles a'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun yn cael
ei drefnu.
Mynegodd yr
aelodau bryderon ynghylch cyflawni'r arbedion arfaethedig drwy adolygiad a
gynhelir yn allanol.
Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai'r cyfarfod craffu ar y
cyd yn ddefnyddiol ar gyfer y pwyllgorau craffu a swyddogion. Mae'r
ymgynghorwyr wedi rhoi sicrwydd bod modd cyflawni'r arbedion effeithlonrwydd
ond maent yn seiliedig ar gamau gweithredu penodol gan yr awdurdod. Cydnabuwyd
bod risgiau mewn perthynas â'r cynnig arbedion, mae'r sefyllfa yswiriant
gwladol ac isafswm cyflog wedi newid ar gyfer darparwyr trafnidiaeth a allai
gael effaith uniongyrchol ar y gallu i gynhyrchu arbedion.
Gofynnodd yr
aelodau am adroddiad ynghylch yr arbedion a gyflawnwyd gan yr ymgynghorwyr hyd
yn hyn a'u perfformiad wrth gynhyrchu'r arbedion hynny.
Cadarnhaodd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod peth o'r wybodaeth ar gael yn
adroddiadau monitro chwarterol y gyllideb. Os oes angen rhagor o fanylion,
dywedodd y Cyfarwyddwr y bydd angen rhoi eglurhad ynghylch yr wybodaeth benodol
y mae ei hangen. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod yr ymgynghorwyr wedi cael eu
penodi i helpu'r awdurdod i gyflawni arbedion, ac nid i gyflawni'r arbedion eu
hunain. Byddai'n hawdd darparu'r wybodaeth ariannol, ond byddai darparu
gwybodaeth mewn perthynas â pherfformiad yn anodd oherwydd nifer o ffactorau.
Cadarnhaodd y
Cadeirydd y byddai Cadeiryddion y Cyd-bwyllgor Craffu yn trafod hyn ymhellach
gyda'r Swyddog Monitro a gofynnwyd i'r aelodau ddarparu adborth am unrhyw
eitemau i'w hystyried.
Nododd yr aelodau
fod y ffigurau'n bwysig a byddant yn mynd law yn llaw â pherfformiad yr
ymgynghorwyr, a'r pynciau maent wedi ymgynghori arnynt, a pha welliannau y
gellir eu gwneud i gyflawni'r arbedion.
Gofynnodd yr
aelodau am eglurhad bod y contract gyda'r ymgynghorwyr ar gyfer tymor tair
blynedd. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr fod hwn yn gywir.
Gofynnodd yr
aelodau am enghreifftiau o'r awgrymiadau neu argymhellion arbedion
effeithlonrwydd a gyflwynwyd hyd yma.
Dywedodd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes wrth aelodau fod yr arbediad
arfaethedig ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf yn seiliedig ar arfer ail-dendro
a gostyngiad yn y cymorth i deithwyr a ddarparwyd. Pe bai ymarfer ail-dendro yn
cael ei gynnal, byddai hyn yn cynnwys y timau Cyfreithiol, Cyllid a Chludiant
Teithwyr yn gweithio gydag EDGE. Nodwyd nad oedd yr arbedion wedi cael eu
cyflawni yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, ac y byddai'n bwysig i'r
Cyd-bwyllgor craffu ddeall y rhesymau pam. Nododd y Cyfarwyddwr fod angen y
nifer cywir o gontractau ar gyfer y nifer cywir o blant y mae gan yr awdurdod
rwymedigaeth gyfreithiol i ddarparu cludiant ar eu cyfer; roedd angen i'r
contractau fod yn effeithlon, yn ddiogel ac roedd angen iddynt gydymffurfio.
Mae angen i'r awdurdod sicrhau nad oes unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu
cynnwys os nad ydynt yn angenrheidiol.
Mynegodd yr
aelodau bryderon ynghylch yr arbedion cyllidebol arfaethedig a'r adolygiad a
arweiniwyd yn allanol.
Gwnaeth y
Cyfarwyddwr sicrhau'r aelodau na fyddai'r gwaith a oedd yn cael ei wneud yn
effeithio ar hawl plentyn i gludiant.
Cadarnhawyd y
byddai cyfarfod y Cyd-bwyllgor craffu yn cael ei drefnu cyn i'r gyllideb gael
ei chymeradwyo
ELLL-I Cynghorodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid yr aelodau fod y
cynnig cyllidebol yn ymwneud ag ailgodi tâl costau glanhau mewn ysgolion
cynradd ar ysgolion yn llawn. Byddai hyn yn cael ei gyflwyno dros ddwy flynedd.
Gofynnodd yr
aelodau am gadarnhad ynghylch faint o ysgolion y disgwylir iddynt fod mewn
diffyg ariannol erbyn diwedd y flwyddyn. Mynegodd yr aelodau bryder y gallai
unrhyw gostau ychwanegol a ysgwyddir gan ysgolion effeithio ar staff neu y gall
safonau glanhau ostwng.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth fod tua 22 o ysgolion a chanddynt gyllidebau diffyg o
symiau amrywiol. Byddai'r arbediad arfaethedig yn cael ei bennu ar draws yr
holl ysgolion a byddai'n gymesur â maint yr ysgol.
Cynghorodd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes yr aelodau fod y penderfyniad hwn
yn un anodd ei wneud. Cydnabuwyd y gall fod angen i ysgolion cynradd wneud
addasiadau o ran staffio neu wneud trefniadau eraill o ran glanhau oherwydd y
ffioedd ychwanegol. Fodd bynnag, roedd y sefyllfa'r un peth ar gyfer yr
awdurdod lleol, mae'r cynnig yn anodd ond yn angenrheidiol er mwyn cydbwyso'r
gyllideb.
Mynegodd yr
aelodau bryderon fod yr ysgolion yn cadw swyddi gwag er mwyn arbed arian, gan
roi pwysau ychwanegol ar staff presennol.
Nododd yr aelodau y gall gael effaith
andwyol ar blant os oes unrhyw doriadau staffio.
Dywedodd yr
aelodau y bu toriadau cyllid dros sawl blwyddyn a chanmolwyd y swyddogion am eu
gwaith caled mewn amgylchiadau anodd.
ELLL-J
Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid drosolwg o'r
cynnig cyllidebol ac ailadroddodd nad oedd unrhyw achosion o golli swyddi'n
orfodol. Rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau bod y strwythur yn gweithredu'n llyfn.
Diolchodd y
Cadeirydd i'r swyddogion am eu gwaith.
ELLL-K
Cynghorodd y Pennaeth Datblygiad Addysg yr aelodau fod yr arbediad mewn
perthynas ag Uwch-swyddog Addysg, a oedd wedi cael secondiad gan Lywodraeth
Cymru am ddeuddydd yr wythnos.
ELLL–L Cynghorodd y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden
a Dysgu Gydol Oes yr aelodau fod yr arbediad yn ymwneud â chostau mewn
cysylltiad â chael mynediad at bensiynau yn gynnar. Roedd hyn wedi gostwng dros
amser gan fod aelodau o'r cynllun wedi marw.
Darparodd
Pennaeth y Blynyddoedd Cynnar, Cynhwysiad a Chyfranogiad drosolwg o gynigion
cyllideb ELLL-M i ELLL-O i'r aelodau;
Nodwyd bod dwy swydd yn y Gwasanaeth Seicoleg Addysg a'r Tîm Anawsterau
Dysgu wedi'u gwrthbwyso yn erbyn arian grant. Roedd hyder y bydd grantiau'n
parhau, yn enwedig gydag Adolygiad Llywodraeth Cymru o Ddeddf Anghenion Dysgu
Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) a deddfwriaeth. Mae darn o waith yn
parhau mewn ysgolion uwchradd gydag aelodau o'r tîm therapi galwedigaethol, mae
hyn wedi'i wrthbwyso yn erbyn arian grant ar gyfer y flwyddyn.
Gofynnodd yr
aelodau a fyddai unrhyw wasanaethau'n cael eu colli drwy wrthbwyso costau
staffio yn erbyn grantiau.
Cadarnhaodd y
Pennaeth Gwasanaeth na fyddai unrhyw wasanaethau'n cael eu colli, a oedd yn
bwysig oherwydd lefel yr angen a brofir ar hyn o bryd.
Cynghorodd y
Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd yr aelodau fod yr arbedion yn ymwneud
â'r gwasanaeth iechyd yr amgylchedd cyffredinol. Roedd y cynnig ar gyfer
cyfeirnod cyllideb ENV-Q yn ymwneud â chynnydd mewn lefelau gwasanaeth
yn y Gwasanaeth Rheoli Plâu. Gellid
ennill yr incwm ychwanegol heb gynyddu ffioedd.
Nododd y
Cadeirydd fod yr aelodau wedi holi am gynnwys eitemau a oedd yn ymwneud â'r
amgylchedd dan y Portffolio Addysg.
Yn dilyn craffu,
nododd y pwyllgor yr adroddiad.
Dogfennau ategol: