Agenda item

Cyllideb 2025/2026

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr aelodau y byddai cynigion arbedion cyllidebol a oedd yng nghylch gwaith y pwyllgor yn cael eu craffu; byddai sylwadau o'r cyfarfod yn rhan o'r ymateb ffurfiol i'r ymgynghoriad ar y gyllideb. Anogwyd yr Aelodau i gyflwyno cynigion amgen a fyddai'n cael eu hystyried ar ôl i'r ymgynghoriad ddod i ben.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai wrth aelodau ei bod wedi bod yn anodd nodi'r arbedion arfaethedig, oherwydd faint o arbedion yr oedd eu hangen mewn blynyddoedd blaenorol, a heriau oherwydd galw ychwanegol a chymhleth ar wasanaethau. Cyfanswm yr arbedion gofynnol oedd £5.4m, ac nid oedd yn bosib tynnu'r swm hwn o'r gyllideb heb gael effaith ar wasanaethau. Roedd yn bwysig bod aelodau'n deall effeithiau'r arbedion hyn. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth aelodau nad oedd cyfle gwirioneddol i leihau costau drwy drafod gyda darparwyr gofal preswyl a chartref. Roedd angen ystyried unrhyw ostyngiad mewn staffio'n ofalus; bydd lleihau niferoedd staff yn peri risgiau. Felly, byddai unrhyw gynigion ynghylch lleihau nifer y staff ar raddfa'n fach oherwydd y risgiau uchel sydd ynghlwm. Roedd angen cynnal y gwaith ymyrryd yn gynnar ac atal i nodi anghenion sy'n dod i'r amlwg.

 

Amlinellodd pob Pennaeth Gwasanaeth y cynigion cynilo a chynhyrchu incwm dan bob llinell cyllideb o'r adroddiad ym mhecyn yr agenda:

 

Cyfeirnod SSH&CS-A: Dywedodd y Pennaeth Tai a Chymunedau wrth aelodau bod nifer o gynigion yn canolbwyntio ar wella gwasanaethau i'r rheini y mae angen cymorth digartrefedd gan y cyngor arnynt. Nid yw manylion llawn y cynigion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad gan nad yw'r cynigion wedi mynd drwy'r broses benderfynu swyddogol. Roeddent yn hyderus bod modd cyflawni'r targed cynilo 5% gofynnol, ond ceir pryderon ynghylch y gost ychwanegol o ateb y galw cynyddol am lety dros dro. Mae'n siomedig bod nifer yr aelwydydd mewn llety dros dro wedi cynyddu o tua 200 i 250 o aelwydydd, er gwaethaf gwaith y tîm digartrefedd i atal dros 70% o'r bobl sy'n cysylltu â'r gwasanaeth rhag bod yn ddigartref. Oherwydd diffyg opsiynau llety dros dro, ceir defnydd cynyddol o lety gwely a brecwast am gost uwch i'r awdurdod (£3.6m yn y flwyddyn ariannol hon). Nodwyd nad oes cyllid ychwanegol i ateb y galw a'r costau cynyddol. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaeth fod teuluoedd ond yn cael eu cadw mewn llety gwely a brecwast dros y tymor byr, tra bod llety dros dro mwy priodol yn cael ei nodi. Mae nifer cyfartalog y dyddiau y mae teulu'n aros mewn llety dros dro wedi gostwng o 128 niwrnod yn 2023/24 i 84 diwrnod. Un o'r heriau y mae'r gwasanaeth yn ei wynebu yw nifer y bobl sengl sydd mewn llety dros dro sef 80% o'r holl aelwydydd digartref. Dros y deunaw mis diwethaf, arhosodd 21 o aelwydydd mewn llety am dros ddeuddeng mis ac arhosodd 225 o aelwydydd mewn llety dros dro am gyfnod rhwng naw a deuddeng mis.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad pellach ynghylch faint o unedau tai y caniateir i awdurdodau lleol eu dal, gan y gall hyn fod yn rhwystr.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod cyfyngiad o hanner cant o unedau (hanner cant o welyau) o lety y gellir eu meddiannu a'u gweithredu, heb agor y cyfrif refeniw tai. Ni all yr awdurdod brynu tai na gweithredu unedau llety dros dro newydd sy'n eiddo i'r cyngor. Lle nad yw'r cyngor yn berchen ar lety, mae terfyn o £80 o fudd-dal tai ar gyfer yr aelwyd honno. Fodd bynnag, pe bai'r awdurdod yn berchen ar lety dros dro, gellid cadw swm llawn y budd-dal tai. Mae'r awdurdod yn prydlesu tua naw deg tri o unedau llety dros dro, a fyddai'n cynhyrchu incwm a chostau gwrthbwyso pe bai'n eiddo iddo.

 

SSH&CS-B Roedd Pennaeth y Gwasanaethau Plant yn cydnabod y cyfnod anodd sy'n wynebu'r cyngor ond roedd ganddo'r fantais o gael gweithlu profiadol gyda chefndiroedd ym maes diogelu. Cafwyd profiad ac arbenigedd hefyd yn y tîm Cyllid.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth aelodau bod y cynnig i arbed £232,000 yn ymwneud â'r gostyngiad naturiol yn nifer y plant nad ydynt yn derbyn gofal. Byddai'r plant nad ydynt yn derbyn gofal wedi derbyn gofal ffurfiol a thrwy'r broses llys neu maent wedi dod yn destun gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig, gorchmynion preswyliaeth neu lwfansau mabwysiadu. Byddai lleoliadau'r plant naill ai'n dod i ben oherwydd eu bod wedi troi'n ddeunaw oed, neu oherwydd bod lefel y gefnogaeth wedi newid yn dilyn asesiad gwaith cymdeithasol. Mae perygl y gallai gorchmynion gwarcheidiaeth arbennig a gorchmynion mabwysiadu gynyddu, gan adael llai o arian. Fodd bynnag, dros nifer o flynyddoedd, bu gostyngiad yn nifer y plant sy'n cael eu symud o'u teuluoedd yn barhaol.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod arian wrth gefn wedi'i gynnwys yn y gyllideb, rhag ofn y bydd gorchmynion newydd drwy gydol y flwyddyn.

 

SSH&CS-C Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc wrth aelodau y cynhaliwyd adolygiad o weithwyr cefnogi yn y Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd. Roedd y cynnig ar gyfer gweithlu mwy hyblyg ac ymatebol gydag aelodau staff cymorth gradd is a allant ddarparu cymorth ymarferol y tu allan i oriau swyddfa traddodiadol. Mynegwyd hyder na fyddai diswyddiadau gorfodol; roedd rhai aelodau staff wedi mynegi diddordeb mewn diswyddo gwirfoddol.

 

Gofynnodd yr Aelodau am ragor o wybodaeth am effeithiau negyddol y cynnig, er enghraifft a yw'n cael ei hystyried yn strategaeth risg uchel i'r staff ac ar gyfer amddiffyn plant? A ragwelir y bydd unrhyw broblemau mewn perthynas â recriwtio i'r swyddi gradd is?

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y gall unrhyw gynnig ailstrwythuro arwain at effeithiau negyddol ar staff. Mae angen cyfathrebu clir gyda staff ac ymateb yn amserol i unrhyw bryderon a godwyd.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod nifer o swyddi gwag yn y gwasanaeth a fyddai'n cael eu rheoli gan y gwasanaeth wrth symud ymlaen.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod galw mawr wedi bod am y math hwn o rôl yn hanesyddol, ac nad oedd unrhyw bryderon ynghylch recriwtio. Mae'r Uwch-dîm Rheoli'n brofiadol wrth adnabod talent, ac mae aelodau staff yn cael eu cefnogi mewn perthynas â chynllunio ar gyfer olyniaeth ar gyfer y gweithlu cymdeithasol.

 

Holodd yr Aelodau a fyddai unrhyw risgiau amddiffyn plant mewn perthynas â chyflogi gweithlu llai profiadol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth nad oedd hyn yn bryder oherwydd faint o gefnogaeth a ddarparwyd i aelodau staff newydd; ni fyddai aelodau staff llai profiadol yn ymweld â theuluoedd ar eu pen eu hunain. Darperir rhaglen sefydlu, a byddai aelodau staff newydd yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr mwy profiadol.

 

Dywedodd yr Aelodau y gwnaed rhagdybiaethau y bydd nifer y plant sy'n derbyn gofal yn gostwng. Holodd yr aelodau a ystyriwyd risgiau mewn perthynas â'r sefyllfa bresennol yng Nghastell-nedd Port Talbot, gyda'r potensial ar gyfer cynnydd mewn problemau iechyd meddwl a diweithdra yn dilyn colli swyddi yn Tata Steel.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai mai gwaith y rhaglenni trawsnewid oedd sicrhau bod plant yn gallu aros yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain. Byddai unrhyw ymateb yn briodol i anghenion plant unigol gyda diogelu fel blaenoriaeth. Roeddent yn hyderus bod amrywiaeth o ddarpariaeth gwasanaethau ar draws y cyngor a'r trydydd sector i gefnogi teuluoedd ar draws y fwrdeistref. Ni fydd unrhyw ostyngiadau staffio'n effeithio ar asesiadau o'r teuluoedd mwyaf diamddiffyn. Cydnabu'r Cyfarwyddwr y risgiau o golli Gweithwyr Cymdeithasol a Rheolwyr Gwaith Cymdeithasol os na chafodd yr ymarfer lleihau staff ei reoli'n gywir.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth mai perthynas y gweithlu yw'r peth pwysicaf. Rhannodd y Pennaeth Gwasanaeth bryderon â'r aelodau mewn perthynas â'r pwysau a wynebir gan deuluoedd. Nodwyd y cafwyd cynnydd yn nifer y teuluoedd sydd mewn angen, gyda mwy o deuluoedd yn byw mewn tlodi, sy'n effeithio ar iechyd meddwl plant. Mae angen gwneud gwaith ochr yn ochr â phartneriaid i sicrhau bod trefniadau cryf ar waith i nodi a chefnogi teuluoedd. Mae nifer y plant sy'n ceisio lloches ar eu pen eu hunain wedi codi ac mae'r bobl ifanc hyn yn ddiamddiffyn; mae trefniadau cymorth da ar waith yn lleol ac ar draws y rhanbarth.

 

Dywedodd yr Aelodau y gwnaed buddsoddiad sylweddol yn y Gwasanaethau Plant ers 2012 ond ar hyn o bryd mae sefyllfa ariannu wahanol y mae angen ei hystyried wrth ystyried y gyllideb.

 

Cododd yr aelodau bryder ynghylch sefyllfa'r gyllideb a gofynnodd a fyddai'r cynnig yn cael unrhyw effaith ar amddiffyn plant. Pa effaith y byddai diswyddiadau gwirfoddol yn ei gael ar deuluoedd yn y fwrdeistref? A oes mwy o wybodaeth am ba fath o rolau sydd gan y bobl y mae ganddynt ddiddordeb mewn diswyddo gwirfoddol?

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth aelodau y byddai effaith gadarnhaol ar amddiffyn plant. Bydd gwelliant yn y strwythur staffio gyda gweithlu mwy ymatebol a hyblyg yn galluogi datblygu perthnasoedd gyda theuluoedd mwy heriol. Drwy rannu gwybodaeth a chreu amodau ar bob lefel o fewn y gwasanaeth, bydd y plant yn fwy diogel yn eu cartrefi eu hunain. Cydnabuwyd nad yw'n ddiogel i bob person ifanc aros gartref, ond gall perthnasau cryf rhwng aelodau staff a theuluoedd helpu i feithrin perthnasoedd â'r teulu estynedig.

 

Gofynnodd yr aelodau a oedd y cynnig yn golygu cynyddu staffio mewn rhai rolau penodol ac a fydd y diswyddiadau gwirfoddol yn effeithio ar hynny.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai cynnydd mewn rhai rolau a byddai'r diswyddiadau gwirfoddol mewn meysydd eraill yn galluogi hyn.

 

Holodd yr aelodau faint o ddiswyddiadau gwirfoddol oedd yn cael eu hystyried a pha effaith y byddent yn ei chael ar y gwasanaeth.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai nifer isel o ddiswyddiadau gwirfoddol; ni fyddai'r rolau'n cael eu llenwi. Gan fod nifer fawr o aelodau staff sy'n gwneud penderfyniadau, ni fyddai'r newid yn arwain at unrhyw bwysau gormodol ar y gweithlu nac yn arwain at wneud penderfyniadau anniogel neu wael.

 

Holodd yr aelodau a fyddai cynnydd mewn cyfarfodydd ar-lein o ganlyniad i'r strwythur staffio newydd.

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai cynnydd mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb wrth symud ymlaen, ond y byddai cyfarfodydd ar-lein yn cael eu cynnal fel y bo'n briodol. Nodwyd bod rhai manteision i gyfarfodydd ar-lein; mae'n well gan rai pobl ifanc yn eu harddegau siarad â gweithwyr ar-lein. Mae Swyddogion Cyfranogi ac Ymgysylltu wedi bod yn gweithio gyda theuluoedd i roi adborth ar brofiad pobl o ymdrin â'r gwasanaeth.

 

SSH&CS-D Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc fod nifer y plant mewn gofal maeth wedi lleihau oherwydd ansawdd ymarfer gwaith cymdeithasol.

 

Cadarnhaodd swyddogion fod y lwfansau mewnol yn hanesyddol wedi cael eu gwrthbwyso yn erbyn gorwariant preswyl. Mae perygl yn hyn wrth symud ymlaen oherwydd bod y maes preswyl yn faes anweddol o ran costau a chymhlethdodau'r bobl ifanc a leolwyd. Y gobaith yw y byddai'r agenda trawsnewid gyda Maethu a Mwy yn cael effaith gadarnhaol ar y gyllideb ac, yn bwysicach fyth, ar y person ifanc sy'n cael ei leoli. Mae cronfa wrth gefn wedi'i chynnwys o ran y lwfansau mewnol a'r lwfansau maethu allanol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod risgiau'n berthnasol i'r cynnig hwn, ond roedd diogelu'n flaenoriaeth, a byddai plant yn cael eu cymryd i ofal pan fo angen.

 

SSH&CS-E Dywedodd Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc wrth yr aelodau mai nod y cynnig oedd cynhyrchu incwm. Mae darpariaeth ar draws Cymru lle gellir cynnig lleoliadau maeth nad ydynt yn cael eu defnyddio i awdurdodau cyfagos am ffi. Mae'r cynllun yn cefnogi anghenion ar draws awdurdodau eraill ac yn caniatáu i ofalwyr maeth ofalu am blant. Cadarnhaodd swyddogion fod yr incwm a gynhyrchwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf oddeutu £52,000 ond mae'r swm yn ddibynnol ar nifer a hyd y lleoliadau.

 

SSH&CS-F Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc fod yr arbediad arfaethedig yn ymwneud â swydd ymwelydd iechyd a ariennir ar y cyd.

 

SSH&CS-G Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc wrth yr aelodau fod y gyllideb gwariant dewisol wedi'i dyrannu i dimau a'i bod yn cael ei defnyddio i gefnogi teuluoedd mewn argyfwng.

 

SSH&CS-H Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc wrth aelodau fod cost llwybrau tacsi plant sy'n derbyn gofal wedi'i lleihau drwy gydweithio ar draws y Cyngor.

 

SSH&CS-I Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion wrth aelodau y cyflwynwyd adroddiad eisoes i'r Cabinet mewn perthynas â dod â gwasanaethau cyflogres yn fewnol eto. Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn ailasesu'r holl becynnau Taliad Uniongyrchol presennol a fydd yn dod i ben yn fuan ac adroddir ynghylch hyn i'r aelodau maes o law. Mae'r system wedi'i haddasu i atal symiau mawr o arian rhag cronni mewn cyfrifon banc; os na fydd cynorthwyydd personol wedi'i recriwtio ar ôl wyth wythnos, yna bydd yr arian yn cael ei stopio nes bydd rhywun wedi'i recriwtio.

 

Amlinellodd swyddogion y prif risg i'r cynnig; gellir ei ystyried fel gostyngiad yn y gwasanaeth. Cynhaliwyd ymarfer y llynedd i adennill arian.

 

Soniodd yr aelodau am y pwysau yn y gymuned ac efallai y bydd angen cynorthwyydd personol ar fwy o bobl; a fydd y cynnig hwn yn cael unrhyw effeithiau?

 

Eglurodd y Pennaeth Gwasanaeth na fyddai'r cynnig yn cael effaith yn yr achos hwn. Mae anawsterau wrth recriwtio cynorthwywyr personol a gweithwyr gofal cartref. Mae cyfleoedd i'r cyngor ddefnyddio trawsnewidiad i adeiladu gweithlu o amgylch hyn.

 

SSH&CS-J Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion wrth aelodau y crëwyd Tîm Trawsnewid yn 2023/24 i edrych yn benodol ar bobl ifanc sy'n trosglwyddo i fod yn oedolion, ac oedolion a gafodd eu rhoi mewn gofal preswyl cost uchel y tu allan i'r sir. Mae achos busnes wedi'i gwblhau i ddatblygu llety mewnol gan ddefnyddio tir sy'n eiddo i'r cyngor; mae unigolion wedi'u nodi, ac ni ddisgwylir i hyn gael ei gyflawni cyn 2026/27. Yn 2025/2026, gwneir gwaith gyda Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i ddatblygu nifer o gynlluniau byw â chymorth gofal ychwanegol. Y gobaith yw y bydd ugain uned ychwanegol ar gael eleni i alluogi pobl i symud allan o ofal preswyl cost uchel.

 

Cynhelir adolygiad ar gyfer yr holl gostau trafnidiaeth a thacsis.

 

Er mwyn osgoi defnyddio gofal preswyl cost uchel ac i atal y teuluoedd rhag chwalu, mae cynlluniau i ddarparu gwelyau tymor byr ychwanegol yn Nhrem y Môr.

 

Cynhelir adolygiad o ddarpariaeth gwasanaeth drwy'r dydd. Y cynnig yw ymestyn a throsi llety presennol sy'n eiddo i'r cyngor i ddarparu gwasanaethau dydd mewnol ychwanegol, gyda dyddiau ac oriau gweithredu estynedig.

 

Amlinellodd swyddogion y risgiau y tu ôl i'r cynigion; roedd risgiau o ran cyflawni prosiectau o fewn amserlenni a chanfyddiad y cyhoedd bod gwasanaethau'n cael eu newid neu eu dileu. Bydd y cynigion yn gofyn am fuddsoddiad buddsoddi i arbed; dros amser, bydd mwy o reolaeth dros wasanaethau a sicrhau eu bod yn briodol ac yn diwallu anghenion pobl.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cyllid wrth aelodau bod prosiectau trawsnewid yn sensitif o ran amser; efallai na fydd yn bosib cyflawni'r arbediad trawsnewid cyfan o £2m yn y flwyddyn ariannol nesaf. Gadawyd y targed arbedion yng nghynigion y gyllideb a byddai unrhyw lifoedd amseru'n cael eu rheoli drwy ddefnyddio cronfeydd wrth gefn.

 

Roedd yr Aelodau'n cefnogi'r cynigion i ddod â gwasanaethau'n fewnol eto ac yn cydnabod yr heriau o sicrhau arbediad o £2m. Roedd hi'n bwysig bod yna ymagwedd cyngor cyfan o gyflawni'r arbedion mewn modd amserol.

 

Cytunodd y Pennaeth Gwasanaeth fod £2m yn swm mawr o arian ond bod modd cyflawni'r cynnig. Rhoddwyd cyd-destun; mae'r awdurdod yn talu am lety preswyl sy'n costio dros £100,000 y flwyddyn i 120 o bobl a llety sy'n costio rhwng £50,000-£100,000 ar gyfer 220 o oedolion. Cost gyfartalog lleoliad oedolyn yw £5,000 yr wythnos.

 

SSH&CS-L Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion wrth aelodau bod 32 o gynlluniau byw â chymorth ar hyn o bryd, ac mae rhai ohonynt yn cael eu cynnal gan yr un darparwyr ac yn agos at ei gilydd. Mae cyfleoedd i rannu rhywfaint o ofal yn ddiogel yn cael eu harchwilio.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth aelodau bod £1.2m yn cael ei wario ar ofal dros nos, gyda'r defnydd o dechnoleg gynorthwyol a thrwy ddefnyddio cynlluniau adrodd am gwympiadau, mae cyfleoedd i leihau'r gost hon. Trwy herio darparwyr, adenillwyd £750,000 mewn ffioedd am wasanaethau diangen.

 

Cadarnhaodd swyddogion mai'r risg fwyaf o ran gwneud unrhyw newidiadau yw canfyddiad y cyhoedd bod gwasanaethau'n cael eu dileu. Gwnaeth swyddogion gydnabod fod cronfeydd wedi cael eu hadennill o'r adolygiadau ffocws ar ganlyniadau ac mae gwaith yn mynd rhagddo ynghylch mecanweithiau i dynhau prosesau adolygu wrth symud ymlaen. Byddai cynnig i gysylltu cynlluniau byw â chymorth yn creu arbedion effeithlonrwydd mewn perthynas â chymorth yn ystod y nos; fodd bynnag, byddai cefnogaeth yn briodol i amgylchiadau unigol. Efallai y bydd rhwystr yn cael ei brofi gan ddarparwyr gan y bydd disgwyl iddynt weithio gyda'i gilydd. Mae rhwystrau o ran diogelwch tân, ac nid oes unrhyw ddeddfwriaeth ond mae'r canllawiau cyfredol yn atal cynnydd y cynllun hwn ar hyn o bryd; sefydlwyd grŵp tasg i geisio goresgyn anawsterau.

 

Cyfeiriodd yr aelodau at y sôn yn yr adroddiad am 'barodrwydd defnyddwyr gwasanaeth i dderbyn modelau gofal'. Nodwyd bod pobl yn derbyn gofal yn eu cartrefi eu hunain y byddai'n well iddynt dderbyn gofal mewn cartref nyrsio, ynghyd â diffyg y ddarpariaeth cartref gofal addas.

 

Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y testun yn cyfeirio at bobl mewn llety byw â chymorth, y byddai'n well iddynt dderbyn gofal mewn gofal preswyl. Mae darparwyr wedi cynyddu cymarebau staffio oherwydd anawsterau o ran rheoli anghenion pobl yn eu llety byw â chymorth presennol. Mae swyddogion yn gweithio gyda chartrefi gofal ond mae canfyddiad gan gartrefi gofal nad ydynt yn gallu rheoli anghenion pobl ag anableddau dysgu.

 

Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ar y sefyllfa sy'n ymwneud â darpariaeth cartrefi gofal yn y gymuned.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y ddarpariaeth yn agos at fod yn orlawn ond y cynhelir sgyrsiau parhaus gyda darparwyr ynghylch hyn.

 

SSH&CS-M Amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion y cynnig i arbed £500,000 yn erbyn galwadau gofal cartref. Ar hyn o bryd mae 2240 o alwadau â dau ofalwr yn cael eu darparu bedair gwaith y dydd ar gost o £2.7m. Yn dilyn adolygiadau gan Therapyddion Galwedigaethol, gellid lleihau rhai galwadau i alwadau ag un gofalwr gan ddefnyddio'r offer a'r hyfforddiant cywir, a oedd yn ganlyniad gwell i unigolion.

 

Dywedodd swyddogion bod risg y byddai darparwyr yn amharod i dderbyn arferion gwaith newydd ac y byddai'r cyhoedd yn ystyried hyn fel toriad i wasanaethau neu y ceir pryder ynghylch unrhyw arferion gwaith newydd.

 

Holodd aelodau a fyddai unrhyw un o'r addasiadau'n cael effaith ar Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod hyn ar wahân i Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl.

 

Gofynnodd yr aelodau pa rwystrau fyddai'r darparwyr yn eu hwynebu, ac a yw gweithio ar eu pennau eu hunain yn achosi pryder iddyn nhw?

 

Dywedodd swyddogion wrth yr aelodau bod ystyriaethau logistaidd i'r darparwyr a hefyd y gallai galwad ag un gofalwr roi mwy o bwysau ar staff, ond gallai datblygiadau mewn technegau ac offer ganiatáu galwadau ag un gofalwr. Cadarnhaodd swyddogion y byddai rhai galwadau'n dal i gynnwys dau ofalwr am resymau iechyd a diogelwch, ac ni fyddai hyn yn newid.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth wrth aelodau bod galwadau ag un gofalwr eisoes ar waith ar gyfer gofal cartref mewnol ar ôl rhyddhau o'r ysbyty; mae angen trosglwyddo'r hyfforddiant hwn i ddarparwyr allanol.

 

Holodd yr Aelodau a oedd unrhyw broblemau wedi bod ers cyflwyno galwadau ag un gofalwr a chadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth nad oedd unrhyw broblemau wedi bod.

 

SSH&CS-O Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion drosolwg i'r aelodau o'r cynnig arbedion mewn perthynas â chapasiti ail-alluogi yn Nhrem Y Glyn. O 1 Ebrill 2025, bydd y cyfleuster yn dychwelyd i'r cyngor ac yn cael ei gynnal gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. I ddechrau, mae pedwar gwely ailalluogi ar gael. Mae'r arbedion yn seiliedig ar ddeuddeg gwely, ond mae trigolion Trem Y Glyn wedi cael sicrwydd na fydd pobl yn cael eu symud yn ddiangen. Gellid cyflawni'r arbediad drwy ohirio trosglwyddo pobl sy'n mynd i ofal preswyl yn rhy fuan trwy ddarparu pecynnau ailalluogi a gofal ar y lefel gywir.

 

Gofynnodd yr aelodau a oedd recriwtio yn Nhrem Y Glyn yn broblem a chadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth fod Trem Y Glyn wedi'i staffio'n llawn.

 

Cadarnhaodd swyddogion na fyddai unrhyw un yn cael ei symud. Ni fyddai'r gwelyau ailalluogi mewn uned benodol i ddechrau, a fydd yn darparu anawsterau i aelodau staff wrth ddarparu dau fodel gofal. Efallai y bydd oedi wrth ddarparu pecynnau gofal cartref pan fydd pobl yn gadael y cartref, gan arwain at bobl yn aros yn hirach yn y gwely ailalluogi nag sydd ei angen.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaeth y byddai gweithiwr cymdeithasol yn cael ei leoli yn yr uned ailalluogi i gynnal trafodaethau cynnar gyda theuluoedd mewn perthynas â symud o'r uned fel bod gwelyau ar gael pan fo angen.

 

SSH&CS-P Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau i Oedolion wrth aelodau bod yr arbedion yn ymwneud ag adolygiad o strwythur y gwasanaethau i oedolion a gostyngiad mewn swyddi lle bo hynny'n briodol. Mae'r cynnig hwn yn ddewis olaf a gwneir hyn os na ellir gwneud yr arbedion yn rhywle arall neu lle bo'n briodol gwneud hynny'n unig. Gallai'r cynnig hwn effeithio ar forâl staff. Efallai y bydd angen ailfodelu rhai o'r gwasanaethau oherwydd y ffactor swyddi gwag o £1.3m y mae'n rhaid ei nodi'r flwyddyn nesaf. Mae hyn yn heriol gyda'r gyllideb bresennol sydd ar gael. Mae'r cynigion cyllidebol yn ystyried y sefyllfa bresennol ond nid ydynt yn ystyried unrhyw alw ychwanegol gan boblogaeth sy'n heneiddio a chynnydd yn nifer y bobl ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl sy'n dod i'r amlwg; mae partneriaid yn wynebu heriau ac wedi newid eu harferion gwaith, sy'n effeithio ar sut mae gofal cymdeithasol i oedolion yn cael ei ddarparu.

 

Diolchodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Iechyd a Thai i swyddogion am eu mewnbwn ac am y diddordeb a'r cwestiynau gan y pwyllgor. Canmolodd y Cyfarwyddwr ei dîm rheoli am eu hoptimistiaeth, ond mynegodd ei bryder am gymryd £5.5m o'r gyllideb ar adeg o alw gormodol ar wasanaethau. Bydd y pwyllgor yn cael ei hysbysu'n fanylach am gynigion wrth iddynt gael eu datblygu.

 

Diolchodd Aelod y Cabinet dros Dai a Diogelwch Cymunedol i'r pwyllgor craffu am eu sylwadau. Mae swyddogion wedi nodi pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa ariannol bresennol, a'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r cynigion, yn ogystal â'r mesurau diogelu y mae angen iddynt fod ar waith i sicrhau lles defnyddwyr y gwasanaeth ac aelodau staff. Mae'r cynigion yn amlinellu newidiadau trawsnewidiol a fydd yn amddiffyn ac yn

gwella llawer o wasanaethau, ac yn dod â gwasanaethau'n ôl yn fewnol lle bo hynny'n bosib ac yn briodol. Diolchwyd i gydweithwyr ac uwch swyddogion am gefnogi'r buddsoddiad angenrheidiol i gyflawni'r strategaethau. Anogwyd yr Aelodau i barhau i gyfrannu at yr ymgynghoriad ar y gyllideb ac i annog eu preswylwyr i gymryd rhan. Gofynnwyd i'r Aelodau barhau i lobïo Llywodraeth Cymru mewn perthynas â setliad llywodraeth leol gwell.

 

Mae'r adroddiad at ddibenion ymgynghori.

 

Yn dilyn craffu, nododd y pwyllgor yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: