Agenda item

CAIS RHIF P2024/0685 - AILWAMPIO THEATR Y DYWYSOGES FRENHINOL A'R SGWÂR DINESIG, GAN GYNNWYS CODI ESTYNIAD I'R THEATR

Cofnodion:

Rhoddodd Swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor Cynllunio ar y cais hwn (Ailwampio Theatr y Dywysoges Frenhinol a'r Sgwâr Dinesig, gan gynnwys codi estyniad i’r Theatr, yn Theatr y Dywysoges Frenhinol, Canolfan Ddinesig Port Talbot, mynediad i Ganolfan Ddinesig Port Talbot, Castell-nedd Port Talbot) fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Roedd yr Aelod Ward Lleol wedi gofyn i’r cais gael ei benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio ac roedd yn bresennol i roi ei sylwadau yn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD:    Cymeradwyo Cais Rhif P2024/0685 - Ailwampio Theatr y Dywysoges Frenhinol a'r Sgwâr Dinesig, gan gynnwys codi estyniad i’r Theatr, yn unol ag argymhellion Swyddogion, yn amodol ar yr amodau y manylir arnynt yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.