Cofnodion:
Rhoddodd y swyddogion gyflwyniad i'r Pwyllgor
Cynllunio ar y cais hwn (datblygiad arfaethedig Cynllun Isadeiledd Ymwelwyr
Pontneddfechan Gwlad y Sgydau i gynnwys siop manwerthu, cyfleusterau lles,
llety i dwristiaid, ystafell beiriannau ategol, goleuadau, cyfleusterau parcio
ceir, dymchwel tai allan gerllaw Sgwd Gwladys a'r bloc toiledau presennol a
chreu mynedfa i drac fferm, parc chwarae/cwrt gyda gwaith isadeiledd
cysylltiedig ar dir ym Mhontneddfechan ac i'r de o Heol Pontneddfechan) fel y
nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.
Roedd yr Aelod Ward leol wedi gofyn i'r cais gael
ei benderfynu gan y Pwyllgor Cynllunio, ac nid oedd wedi gallu bod yn
bresennol, felly roedd wedi anfon geiriad ymlaen at y Cadeirydd i'w ddarllen yn
uchel yn y Pwyllgor Cynllunio, i'w ystyried yn y cyfarfod.
PENDERFYNWYD: Cymeradwyo Cais Rhif P2023/0168 - Tir ym Mhontneddfechan ac i'r de o Heol
Pontneddfechan, yn unol ag argymhellion Swyddogion, yn amodol ar yr amodau y
manylir arnynt yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, a'r amodau diwygiedig yn y
daflen ddiwygiadau.