Cofnodion:
Rhoddwyd diweddariad i'r
Pwyllgor ar ddatblygiad y Cynllun Datblygu Strategol y mae'n ofynnol i bob un
o'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yng Nghymru ei gynhyrchu.
Soniwyd bod Cyd-bwyllgor
Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
yn y gorffennol, gan nodi nad oedd Swyddogion ar draws y rhanbarth yn barod i
ddechrau paratoi'r Cynllun Datblygu Strategol heb ddigon o adnoddau. O ran
ymateb, nodwyd bod y Gweinidog ar yr adeg hynny wedi datgan y gellid defnyddio
unrhyw arian sbâr a oedd yn weddill ar ôl paratoi'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol i gyflawni'r Cynllun Datblygu Strategol. Fodd bynnag, nid oedd y cyllid a ddarparwyd
ar gyfer datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn ddigonol, ac roedd hyn
yn golygu nad oedd unrhyw gyllid yn weddill.
Tynnodd yr adroddiad a
ddosbarthwyd sylw at y gost a ragwelir ar gyfer datblygu'r Cynllun Datblygu
Strategol dros y cyfnod o bum mlynedd sef tua £2.5 miliwn. Byddai'r arian hwn
yn talu am staff a gwasanaethau arbenigol, ac roedd hyn yn cynnwys chwe aelod o
staff sy'n gwasanaethu'r rhanbarth cyfan.
Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch
Canllawiau'r Cynllun Datblygu Strategol a oedd yn cael ei baratoi gan
Lywodraeth Cymru, a dylai hyn fod wedi'i chyhoeddi yn gynharach yn y flwyddyn.
Cadarnhaodd swyddogion nad oedd y Canllawiau wedi'u cyhoeddi hyd yn hyn.
O ran y sefyllfa bresennol,
dywedwyd wrth swyddogion i beidio â symud ymlaen â'r gwaith i ddatblygu'r
Cynllun Datblygu Strategol yn absenoldeb y Canllawiau a'r cyllid priodol i
gyflawni'r Cynllun Datblygu Strategol. Esboniwyd ei fod yn broses ddrud i'w chyflawni,
ac roedd diffyg adnoddau hefyd o ran staffio.
Ar hyn o bryd nid oedd cynghorau ar draws y rhanbarth yn gallu adleoli
staff i ymgymryd â'r gwaith hwn oherwydd y gwaith i ddatblygu eu Cynlluniau
Datblygu Lleol Newydd. Nodwyd y byddai
Swyddogion yn parhau i lobïo Llywodraeth Cymru am yr adnoddau angenrheidiol i
gyflwyno'r Cynllun Datblygu Strategol.
Cadarnhaodd swyddogion eu bod
yn ymgynghori â Chyd-bwyllgorau Corfforedig eraill yng Nghymru. Roedd y
drafodaeth ddiweddaraf yn ymwneud ag ysgrifennu llythyr ar y cyd at Lywodraeth
Cymru gyda'r pwrpas o lobïo am gyllid priodol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod
Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru wedi derbyn cadarnhad
gan Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig
Canolbarth Cymru. Doedd swyddogion heb dderbyn ymateb gan Brifddinas-Ranbarth
Caerdydd hyd yn hyn.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau
fod peidio â symud ymlaen â'r gwaith i ddatblygu'r Cynllun Datblygu Strategol
yn torri deddfwriaeth. Fodd bynnag, fel y soniwyd eisoes, nid oedd yn ymarferol
symud ymlaen â'r gwaith hwn heb dderbyn y dogfennau angenrheidiol gan
Lywodraeth Cymru.
Yn dilyn y datganiad uchod
ynghylch goblygiadau cyfreithiol, gofynnodd yr Aelodau beth fyddai swyddogion
yn cynghori y dylent ei wneud pe bai'r ddogfennaeth ar gael ond nid y cyllid.
Esboniwyd unwaith y bydd Canllawiau'r Cynllun Datblygu Strategol wedi'u
paratoi, byddai Llywodraeth Cymru'n eu rhyddhau ar gyfer ymgynghoriad cyn
iddynt gyhoeddi'r fersiwn derfynol.
Unwaith y bydd y ddogfen derfynol yn cael ei chyhoeddi byddai'r risg yn
cynyddu pe bai Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn methu â chyflwyno'r Cynllun Datblygu
Strategol. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith bod Cyd-bwyllgorau Corfforedig
eraill yng Nghymru yn yr un sefyllfa gan fod Cyd-bwyllgor Corfforedig
Rhanbarthol De-orllewin Cymru'n helpu i reoli'r risg.
Cyfeiriwyd at lobïo
Llywodraeth Cymru a phwysigrwydd gwneud hynny'n wleidyddol a thrwy Swyddogion.
Roedd Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru hefyd yn
fodlon lobïo Llywodraeth Cymru, ar ran Cyd-bwyllgorau Corfforedig, fel rhan o'u
rôl fel Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Gofynnodd yr Aelodau am ragor
o eglurder ynghylch goblygiadau cyfreithiol a'r cynlluniau wrth symud ymlaen.
Esboniwyd bod y ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i'r rhaglen gyflawni fod
ar waith erbyn amserlen benodol. Mae'r
ffaith na fydd y rhaglen gyflawni hon ar waith o safbwynt De-orllewin Cymru, yn
golygu bod posibilrwydd y gellid herio'r rhanbarth. Yn fwy penodol, soniwyd y
byddai'r her ar ffurf adolygiad barnwrol o benderfyniad Cyd-bwyllgor
Corfforedig Rhanbarthol De-orllewin Cymru i beidio â rhoi cynllun cyflawni ar
waith erbyn y dyddiad priodol hwnnw. Fodd bynnag, oherwydd nad oedd y
canllawiau ar gael, gellid cynnig mesurau lliniaru a dadlau da i geisio herio
penderfyniad yn hynny o beth. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Llywodraeth
Cymru'n gyfrifol am ddiwygio eu rheoliadau i roi rhagor o amser i'r
Cyd-bwyllgor Corfforedig roi'r elfennau hyn ar waith. Roedd hwn yn ddatrysiad y
gellid ei gynnig wrth i drafodaethau barhau ynghylch cyllid ac ati. Awgrymwyd y
gallai hyn fod yn bwynt i'w gynnwys yn y llythyr ar y cyd at Lywodraeth Cymru
gan y Cyd-bwyllgorau Corfforedig.
Yn dilyn yr uchod, cadarnhaodd
swyddogion fod y gwaith lobïo wedi dechrau ennill momentwm mewn perthynas â'r
Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Roedd
Llywodraeth Cymru'n dechrau deall y problemau roedd Awdurdodau Lleol yn eu
hwynebu, a dyna pam ei bod yn bwysig parhau i lobïo am y cyllid priodol. Yn
ogystal â'r diffyg cyllid, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod hefyd ddiffyg
swyddogion cynllunio cymwys a phrofiadol. Roedd angen i Gyd-bwyllgorau
Corfforedig lobïo'r byd academaidd hefyd i sicrhau y byddai digon o raddedigion
cynllunio i helpu i gyflawni dyheadau gofodol ar draws y rhanbarth ac mewn
awdurdodau unigol wrth symud ymlaen. Soniwyd bod Swyddogion wedi ystyried a
ellid defnyddio rhai staff o bob Awdurdod Lleol yn y rhanbarth sy'n gweithio ar
y Cynllun Datblygu Lleol Newydd i ddechrau cyflwyno'r Cynllun Datblygu
Strategol. Gofynnodd swyddogion i
Lywodraeth Cymru a oedd modd oedi proses y Cynllun Datblygu Lleol Newydd i
ganolbwyntio ar y Cynllun Datblygu Strategol, a'r ateb i hynny oedd 'na'.
PENDERFYNWYD:
· Nodi'r trosolwg o'r broses o wneud y gwaith sy'n ofynnol yn unol â
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Strategol) (Cymru) 2021,
yn benodol yr anawsterau o ran cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol.
· Caniatáu ymgysylltu pellach â Llywodraeth Cymru ac Ysgrifenyddion y
Cabinet, i gynghori ar y cynnydd a'r heriau i gyfyngu ar unrhyw gamau yn erbyn
Cyd-bwyllgor Corfforaethol Rhanbarthol De-orllewin Cymru am unrhyw doriadau
posib.
· Rhoi awdurdod i Gadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru gytuno
ar lythyr ar y cyd rhwng Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru a
Chyd-bwyllgorau Corfforaethol eraill i dynnu sylw at heriau o'r fath ar ran yr
holl Gyd-bwyllgorau Corfforaethol.
Dogfennau ategol: